Pwrpas y Swydd
Darparu cymorth i'r Rheolwr Diogelwch a Gwytnwch Twnneli i ddarparu cyngor arbenigol i’r Asiant Cefnffyrdd ynglŷn â materion rheoli gwytnwch yn ymwneud â’r rhwydwaith cefnffyrdd er mwyn sicrhau y darperir ymateb cadarn sy'n gymesur i argyfyngau (e.e. tywydd garw a digwyddiadau) ac yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y rhwydwaith.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Bydd yr unigolyn llwydiannus yn rhan o dîm profiadol a deinamig ac yn cydweithio â swyddogion sydd â phrofiad mewn disgyblaethau amrywiol megis peirianwyr sifil, ecolegwyr a rheolwyr prosiect.
Bydd y rôl yma yn sicrhau darpariaeth o gyngor rheoli risg penodol i’r maes cynnal a chadw ffyrdd am flynyddoedd i ddod. Yn ogystal, bydd yn galluogi’r asiantaeth i baratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd mwy eithafol:
Cynorthwyo i adnabod materion gwytnwch y rhwydwaith a mesurau i leihau risg a gweithrediad y rhwydwaith. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft: Risg llifogydd, Risg llygredd, Risg Tân, Risgiau tywydd gwael yn cynnwys cynnal a chadw yn y gaeaf, Gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd, Tagfeydd, Gwyriadau tactegol a strategol
Ymweliadau safle i safleoedd gwaith ar y rhwydwaith cefnffyrdd
Cynorthwyo staff ACGCC eraill yn ystod ymateb a rheoli digwyddiad o argyfwng
Cydweithio gyda swyddogion sy’n brofiadol mewn amryw o ddisgyblaethau fel peirianwyr sifil, ecolegwyr a rheolwyr prosiectau
Bod yn rhan o dîm profiadol a dynamig
Datblygu rhaglen hyfforddi gwytnwch
Deall ac ymgymryd â dyletswyddau rheoli cynlluniau ar gefn
Gweithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth i ddatblygu cynlluniau wrth gefn a chymryd rhan mewn ymarferion.
Gofynion sylfaenol i’w cwblhau fel rhan o’r swydd:
Gweithio'n agos gyda'r tîm twneli er mwyn cynorthwyo'r Swyddog Diogelwch Twneli.
Cynnal cyfarfodydd/de-briff am y digwyddiadau argyfwng
Gofynion i’w cwblhau fel rhan o’r swydd:
- Hyfforddiant marsial tan
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 3 diwrnod
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth;
Gall sefyllfaoedd rheoli digwyddiadau ac argyfwng ddigwydd y tu allan i oriau gwaith arferol.
Mynd i gyfarfodydd mewn ardaloedd eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).