Pwrpas y Swydd
Cynorthwyo'r Tîm Iechyd a Diogelwch i rymuso staff i integreiddio eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch mewn i’w dyletswyddau dydd i ddydd drwy ddarparu cyngor cymwys a chynnal gwaith awdit ag archwilio.
Cynorthwyo’r Tîm Iechyd a Diogelwch i sicrhau fod swyddfeydd a safleoedd gwaith sy’n cael ei rheoli gan y tîm yn iach, ddiogel a chynaliadwy i bawb i’w defnyddio.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Gliniadur, ffon symudol a tabled
Offer diogelwch personol.
Prif Ddyletswyddau
Bydd yr unigolyn llwydiannus yn rhan o dîm profiadol a deinamig ac yn cydweithio â swyddogion sydd â phrofiad mewn disgyblaethau amrywiol megis peirianwyr sifil, ecolegwyr a rheolwyr prosiect. Bydd y rôl yma yn rhoi gwytnwch i reoli safleoedd o fewn yr Asiantaeth, maes lle mae’r gofynion wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn i niferoedd y safleoedd gynyddu ac oherwydd gofynion Llywodraeth Cymru i gyrraedd net sero erbyn 2030.
Fel Hyfforddai Proffesiynol yn y maes, byddwch yn cael profiadau amrywiol o fewn yr Gwasanaeth, gan gynnwys:
Darparu cyngor arbenigol i staff yr Asiant ar bynciau megis: Cydymffurfiaeth CDM, Asbestos, Gweithio ar rwydwaith cefnffyrdd, Rheoli gwastraff o Atal llygredd
Ymweliadau safle i safleoedd gwaith ar y rhwydwaith cefnffyrdd
Cydweithio gyda swyddogion sy’n brofiadol mewn amryw o ddisgyblaethau fel peirianwyr sifil, ecolegwyr a rheolwyr prosiectau
Datblygu rhaglen hyfforddi iechyd a diogelwch
Cysylltu â budd-ddeiliaid allweddol (Eraill) gan gynnwys, ymhlith eraill, y Gwasanaethau Brys, swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion iechyd a diogelwch corfforaethol yr awdurdod lleol, swyddogion Awdurdodau Partner, darparwyr gwasanaeth y sector preifat a'r sector cyhoeddus (gan gynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr), UK Highways Ltd., Ymgynghorwr Technoleg Trafnidiaeth Cymru, Contractwr Cynnal a Chadw Cymru Gyfan ac ACDC
Deall ac ymgymryd â dyletswyddau rheoli safleoedd
Rheoli systemau Iechyd a Diogelwch Cefnffyrdd
Darparu cyngor arbenigol i staff yr Asiant ar bynciau megis: Cydymffurfiaeth CDM, Asbestos, Gweithio ar rwydwaith cefnffyrdd, Rheoli gwastraff, Atal llygredd
Adolygu hunanasesiadau gweithfannau a chynnal asesiadau llawn o weithfannau
Cynnal archwiliadau safle misol
Cwblhau tasgau statudol wythnosol e.e. profion larymau tan, fflysio allfeydd dwr mewn swyddfeydd a depos
Tasgau statudol misol e.e. profi goleuadau argyfwng, monitro tymheredd allfeydd dwr mewn swyddfeydd a depos
Ymgymryd a rôl marsial tan a swyddog cymorth cyntaf yn y swyddfa
Rheoli cydymffurfiaeth ag archwiliadau cylchol o gyfleusterau a rhaglen gwasanaeth
Paratoi adroddiadau yn ôl yr angen ar gyfer y Rheolwr Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd.
Sicrhau bod gan yr Asiant drefn gadarn mewn lle i reoli Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) yn iawn ar gyfer prosiectau a gwaith perthnasol.
Asesu statws rheolaeth Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd yn barhaus yn yr Asiant, gan adnabod meysydd i wella a datblygu polisïau a systemau ble bo hynny'n briodol.
Gofynion sylfaenol i’w cwblhau fel rhan o’r swydd:
Tystysgrif IWFM mewn Gwasanaethau Cyfleusterau (Lefel 2)
Cwrs Aseswr DSE
Hyfforddiant marsial tan
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 3 diwrnod
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
Mynd i gyfarfodydd mewn mannau eraill o’r DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd