Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau yn y gweithle mewn gweithredoedd priffyrdd, Rheolaeth prosiect a chynnal a chadw.
- Cwblhau prentisiaeth ac ennill prentisiaethau mewn peirianneg sifil
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am reoli, cynnal a gwella rhwydwaith y ffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Mae’r asiantaeth gyda bron i 200 o staff yn ein swyddfeydd ar draws y gogledd a’r canolbarth gan gynnwys Bangor, Conwy, Helygain, Wrecsam, Dolgellau, Llandrindod, Dre newydd ac Aberaeron. Bydd y prentis wedi ei leoli mewn unrhyw un o’r swyddfeydd yma yn ystod eu cyflogaeth.
Mae disgwyl i bob prentis ACGCC a Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i ACGCC a’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Defnyddio systemau cyfrifiadurol sydd yn cael eu defnyddio gan peirianwyr sifil
Bod yn rhan o brosiectau peirianyddol bychain mewn partneriaeth gyda awdurdodau lleol a chwmnïau preifat
Helpu gyda gwaith cynnal a chadw rheng flaen y cefnffyrdd
Deall y gwahanol ddyletswyddau a safonau mae rhaid i ni weithio tuag atyn nhw
Treulio amser gyda’r Tîm Amgylchedd i weld sut medrwn gadw neu wella bioamrywiaeth
Gweithio gyda’r Gwasanaeth Swyddog Traffig i helpu gyda rheoli digwyddiadau byw
Cyfarfod y tîm yn ein ystafell reolaeth yn Conwy sydd yn rheoli ein arwyddion a systemau electronig ar y lôn
Deall sut yr rydym yn casglu gwybodaeth am asedau newydd ac hanesyddol
Deall sut yr rydym yn cydbwyso gofynion peirianyddol gyda diogelu yr amgylchedd a gwella bioamrywiaeth
Gweithio yn agos gyda arbenigwyr sydd yn delio gyda ceisiadau trydydd parti, cyllidebau, rheolaeth gwaith stryd ac iechyd a diogelwc
Fel aelod o staff ACGCC a Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch ACGCC a‘r Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb ACGCC a’r Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon ACGCC a’r Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Dros gyfnod y brentisiaeth, byddwch angen trafaelio i safle y coleg yn ystod y flwyddyn academaidd
Weithiau, bydd angen i chi weithio oriau tu allan i oriau gwaith i gwblhau rhai gweithgareddau e.e. bod yn bresennol yn ystod cau twneli