Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cefnogi’r Cynllun Digidol (2023/2028) fydd yn cynnwys yr holl swyddogaethau sydd yn codi yn sgil hynny.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Mae’r Cyngor wedi cyflwyno Cynllun Digidol (2023/2028) sy’n cyflwyno 29 prosiect newydd. Mi fydd tîm mewnol yn arwain ar y Cynllun hwn. Bydd yr Hyfforddai Proffesiynol yn arwain ar nifer o brosiectau ynghlwm a’r cynllun gan ddefnyddio dulliau rheolaeth Agile i yrru prosiectau yn eu blaen a hynny mewn rôl rheolwr neu arweinydd prosiect;
Arwain ar nifer o brosiectau yng Nghynllun Digidol Cyngor Gwynedd (2023/2028);
Ymgymryd rôl ymchwilydd defnyddiwr ar brosiectau allweddol;
Ymuno gyda rhwydweithiau lleol a chenedlaethol i ymgeisio am gyfleon i ddenu cefnogaeth cyllidol pellach i wthio prosiectau mentergarwch digidol yn eu blaenau;
Paratoi achosion busnes ac adroddiadau cynnydd ar sail tystiolaeth;
Mewnwelediad i nifer o wasanaethau’r Cyngor i adnabod ble gall arloesedd digidol gyfrannu i welliannau ac/neu arbedion;
Mewnbwn i gynlluniau digidol y Cyngor;
Cydweithio agos gyda Tîm Rheoli’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth a Byrddau Digidol yr Awdurdod;
Cyfleon i ddatblygu sgiliau digidol mewn ystod eang o dechnoleg digidol.
Archwilio egwyddorion ac arferion systemau gwybodaeth ac arloesi digidol
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.