Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Or diwrnod cyntaf, mi fydd yr hyfforddai proffesiynol yn cyfrannu at waith arwain a rheoli dydd i ddydd ac yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau lefel uchel dan arolygaeth rheolwyr profiadol. Er mai ‘cartref’ yr hyfforddai proffesiynol fydd yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiadau drwy gael eu lleoli o fewn adrannau a gwasanaethau ar draws y Cyngor.
- Bydd yr hyfforddai proffesiynol yn derbyn profiadau o arwain pobl a rheoli prosiectau, datblygu rhwydweithiau ar bob lefel o’r sefydliad a chwblhau cymhwyster adnabyddus yn y byd arweinyddiaeth sector gyhoeddus.
- Bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn i’r unigolyn allu datblygu gyrfa arwain a rheoli lwyddiannus yn y Cyngor.
- Datblygu arweinwyr o’r safon uchaf bosib i ymgymryd â swyddi arwain allweddol o fewn y Cyngor
- Rhoi’r cyfle i arweinwyr y dyfodol gael y profiadau, rhwydweithiau a chymwysterau sydd eu hangen i roi sylfaen cadarn i gychwyn ar yrfa arwain a rheoli
- Cael profiad o weithio o fewn adrannau ar draws y Cyngor
- Cyfrannu at waith rheolaethol a phrosiectau lefel uchel dan arolygaeth rheolwyr profiadol mewn amrediad o wasanaethau ar draws y sir
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin