Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Adran
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Bydd y prentis llwyddiannus yn cael y cyfle i weithio fel rhan o'r Tîm Etholiadol gan ddod i ddeall ac ymgymryd a gweithrediad dydd i ddydd gwasanaeth a cofrestru etholwyr a threfnu a gweinyddu etholiadau.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Prosesu ceisiadau i gofrestru
Cynnal cofnodion pleidleisio absennol, prosesu ceisiadau pleidleisio absennol a ffurflenni adnewyddu blynyddol
Prosesu ceisiadau gan etholwyr am ddogfennaeth adnabod pleidleisio
Ymdrin ag ymholiadau ynghylch cofrestru a phleidleisio drwy'r post, dros y ffôn, drwy e-bost, ac wyneb yn wyneb
Cynorthwyo i drefnu a gweinyddu etholiadau a refferenda ar bob lefel
Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth, gwella lefelau cofrestru a diddordeb mewn democratiaeth genedlaethol a lleol ac annog pleidleisio
Cynorthwyo gydag adolygiadau o ffiniau etholiadol ac adolygiadau o fannau pleidleisio
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin