Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Adran
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r gwasanaeth goleuo yn gyfrifol am bob dim trydanol a welwch chi ar hyd y priffyrdd trwy Wynedd, mae hyn yn cynnwys goleuadau stryd, arwyddion sydd hefo goleuadau arnynt a phŵer i deledu cylch cyfyng. Mae goleuadau stryd yn rhan bwysig iawn o’n bywyd dydd i ddydd gan ei fod nhw’n creu amgylchedd sydd yn gwneud i bobl deimlon saff ac yn rhoi'r hyder iddynt fynd allan gyda’r nôs a pharhau i fyw eu bywydau.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Trwsio a gosod cyfarpar newydd trwy Wynedd, a gweithio o uchder.
Gweithio gyda trydanwr profiadol
Cael profiad o holl waith trydanol yn y maes goleuo
Cyfleoedd i dderbyn cymwysterau eraill perthnasol i’r maes
Gweithio hefo trydanwr profiadol pob dydd ac yn dysgu sut i wneud y gwaith yn saff ac i'r safon berthnasol.
Dysgu am amgylchedd gweithio saff
Integreiddio dysgu academaidd
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin