Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn YGC i ddiweddaru ac ehangu systemau technegol I'w llawn potensial
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Sefydlwyd YGC yn 1996 ac erbyn hyn, ni yw’r ymgynghoriaeth Peirianneg Sifil, Amgylcheddol ac Adeiladwaith fwyaf yng Nghymru sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Lleol. Rydym yn gweithio gyda nifer o gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Mae YGC wedi gallu cynnig cyfleoedd gyrfa da iawn gan gefnogi a rhoi cyfleoedd i'w staff. Fel prentis yn y maes technoleg gwybodaeth byddwch yn cael profiadau amrywiol o fewn y gwasanaeth gan weld yr holl wasanaethau sydd yn cael eu darparu.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant YGC a’r Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
-
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Cefnogi’r tîm i roi cymorth technegol i eraill
Rhannu syniadau newydd ac adnabod sut y gall y gwasanaeth wneud pethau yn well
Cefnogi’r tîm i sicrhau fod elfennau o waith yn cael eu cwblhau ar amser ag i safon uchel
Rheoli llwyth gwaith er mwyn cyrraedd targedau
Rhannu syniadau pan fydd penderfyniadau newydd yn cael eu gwneud
Rhannu syniadau i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio
Cael cyfle i rannu syniadau am broses cynllunio busnes
Sicrhau fod targedau perfformio a gwella yn cael eu cyrraedd neu yn cael eu gwella
Cyfathrebu yn effeithiol gan drafod technoleg gwybodaeth gyda bob lefel ar draws y Cyngor
Datblygu ffyrdd clir o ddisgrifio prosiectau
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Dros gyfnod y brentisiaeth, bydd gofyn teithio i safle Coleg Cambria yn ystod y flwyddyn academaidd.
- Bydd gofyn i’r prentis weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol ar rai adegau.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.