Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau
- I gyfrannu fel aelod o dîm o fewn yr Adran
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Gyda 450 o gerbydau ar y Fflyd, bydd y prentis llwyddiannus yn cael profiadau o gynnal a chadw ceir bychain i ysgubwyr mawr, o fysiau mini i loriau casglu gwastraff. Bydd hefyd yn cael cyfleoedd i archwilio, gwneud diagnosis a thrwsio ystod eang o gerbydau.
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant y Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Gweithio ochor yn ochor a Thechnegwyr Fflyd (Mecanic) profiadol, ar ystod eang o gerbydau trwm.
Profi elfennau o ofal cwsmer a dysgu sgiliau cyfathrebu effeithiol hefyd wrth drafod materion yn ymwneud a cherbydau gyda’i cyd-weithwyr a “chwsmeriaid” h.y. gyrwyr cerbydau’r Cyngor.
Cynnal a chadw ceir bychain i ysgubwyr mawr, o fysiau mini i loriau casglu gwastraff.
Archwilio cerbydau
Gwneud diagnosis ar gerbydau
Trwsio ystod eang o gerbydau.
Derbyn hyfforddiant pellach fel rhan o matrics hyfforddiant y gwasanaeth.
Dysgu mwy am y cyfarpar cynnal diweddaraf
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin