Pwrpas y Swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon a swyddogion Cynhwysiad i gefnogi disgyblion sydd ar agor i’r Gwasaneth
- Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 – 16 oed fel ymateb i anghenion disgyblion yn arbennig y rhai gydag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol i ddileu rhwystrau ar gyfer dysgu yn ysgolion a Chanolfannau Gwynedd fel rhan o dîm integredig ADY a Chynhwysiad.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Bydd cyfle i’r unigolyn lwyddiannus ymuno a thimau ymroddgar i gefnogi dysgwyr Gwynedd.
Bydd y rhaglen wedi’i gynllunio yn benodol i roi gwell dealltwriaeth o gyfleodd a llwybr gyrfa yn y maes Cynhwysiad ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gwasanaeth lles
- Gwasanaeth Cynnal ymddygiad
- Unedau cefnogi disgyblion
- Gwasanaethau arbenigol o fewn Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae disgwyl i bob prentis Cyngor Gwynedd ddangos y canlynol:
- Yr ymddygiad a’r agwedd gywir
- Gwneud eich gorau yn y gwaith dydd i ddydd a’r cymhwyster
- Cyfrannu tuag at lwyddiant YGC a’r Cyngor
- Gweithio’n effeithiol rhan o dîm
- Cyfathrebu yn effeithiol
- Bod yn barod i ddysgu pethau newydd
- Deall yn union beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
O dan arweiniad darparu cefnogaeth ymestyn allan a goruchwyliaeth disgyblion sydd wedi eu derbyn am gefnogaeth gan y Gwasaneth ADYaCH
O dan arweiniad y swyddog allweddol i weithredu ar raglenni ymyrraeth.
Sicrhau gofal digonol bugeiliol i’r disgyblion sydd wedi eu hadnabod i dderbyn cefnogaeth.
Cydweithio hefo’r gweithiwr allweddol i ddarparu a chyflwyno pecynnau
Cefnogi darpariaeth i ddisgyblion sydd yn profi anawsterau emosiynol /ymddygiadol
O dan arweiniad y swyddog allweddol cynnig cefnogaeth 1-1 yn ôl y gofyn
Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan hyder.
Amddiffyn Plant:
- Gweithredu yn unol â gofynion Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan, deddf plant a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Fel aelod o staff Cyngor Gwynedd, mae gennych y cyfrifoldebau canlynol:
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau bod rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn
Eich bod yn dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn addas a sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn addas
Ymrwymo i’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog bobol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor
Cyfrifoldeb i adrodd os oes gennych amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael eu cam drin