Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth personél proffesiynol i Ysgolion Gwynedd, a sicrhau fod prosesau gweinyddol y Gwasanaeth yng nghyd-destun cyflogau, absenoldebau a chontractau staff Ysgolion yn cael eu gweithredu yn gywir ac ar amser.
•Sicrhau Ansawdd
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Byddwch yn rhan o dîm sydd yn delio efo ymholiadau gan Benaethiaid, Rheolwyr, Staff, Cyhoedd a Sefydliadau Allanol.
•Yn gyfrifol am brosesu a chofnodi amserlenni/ffurflenni amrywiol sydd ar wahanol delerau cyflog ar daenlenni gwahanol.
•Yn gyfrifol o fod yn mewnbynnu manylion cywir mewn i’r system ‘CYBORG’.
•Asesu a chyfrifo cyflogau Athrawon a staff ategol ysgolion yn dilyn derbyn pecyn penodi.
•Cynghori Ysgolion a phrosesu gwybodaeth yn dilyn yr arolwg cyflog blynyddol
•Cynhyrchu ffurflenni cychwyn cyflogaeth, newid telerau swydd a therfynu cyflogaeth a sicrhau eu cywirdeb o ran:
a)Canran cyflog yn unol ag wythnosau o waith a weithiwyd y flwyddyn.
b)Pwnt cyflog o fewn y raddfa yn unol â phrofiad blaenorol.
c)Oriau gwaith wythnosol.
d)Cod gwariant - ..............
e)Rhif a Lleoliad y swydd
•Manylion personol unigolyn e.e. Dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol, enw a chyfeiriad.
•cyn eu hanfon ymlaen i’r ddesg bersonél ysgolion.
•Ymateb i ymholiadau yn ymwneud â hawliau mamolaeth (statudol a galwedigaethol) athrawon a staff ategol ysgolion
•Prosesu ceisiadau mamolaeth drwy weithio allan os ydynt yn gymwys i dderbyn unrhyw daliadau mamolaeth ac yna adrodd hyn i’r adran gyflogau a llythyru yr unigolyn
•Gweinyddu’r trefniadau absenoldebau staff ysgolion a chadw’r bas-data salwch yn gyfredol drwy:
•Derbyn y wybodaeth gan Ysgolion a’r adran ADYaCH megis TR45, SA1, Llythyrau Meddygol, Patrwm Dychwelyd i’r gwaith yn raddol,
•Sicrhau bod y wybodaeth yn gyflawn a chywir ac yn cydymffurfio â chanllawiau absenoldebau Athrawon a Staff Ategol gan gyfeirio ymholiadau cymhleth/Sensitif i sylw’r Arweinydd Tîm/Swyddog Personél.
•Cysylltu ag Ysgolion am unrhyw wybodaeth aneglur.
•Mewnbynnu holl absenoldebau i’r system CYBORG gan nodi pan bydd newid mewn cyflog e.e. Salwch. Mamolaeth a Tadolaeth.
•Cyfrifo ac adrodd i’r adran cyflogau drwy’r system CYBORG pan fydd aelodau staff Ysgolion yn mynd lawr i Hanner Cyflog neu Dim Cyflog yn unol a Thelerau ac Amodau Absenoldebau Athrawon a Staff Ategol.
•Paratoi a diwygio’r ffurflenni absenoldebau er mwyn hysbysu’r Uned Gyllid o’r ad-daliadau o dan gynllun absenoldebau Ysgolion
•Ymateb i ymholiadau yn ymwneud â chyflogau
•Cynghori staff ysgol, Uned Gefnogi - Addysg a swyddogion ynglŷn â chontractau, cyflogau a materion personél gan gyfeirio materion cymhleth a/neu sensitif i sylw’r Arweinydd
•Tîm/Swyddog Personél
•Hyrwyddo gweithrediad cyson amodau gwaith ac arferion gorau (athrawon a staff ategol) ardraws ysgolion y Sir
•Deall a defnyddio systemau cyfrifiadurol megis CYBORG, System Swyddi Gwynedd, IGWYNEDD, SharePoint a phecynnau Microsoft.
•Gyrru pecynnau cofrestru i weithwyr cyflenwi
•Sicrhau bod yr adran gyllid ar uned cefnogi addysg yn derbyn gwybodaeth gywir o ran dyddiad cychwyn, graddfa cyflog a hyd cytundeb cyflogaeth unrhyw staff newydd yn ogystal ag unrhyw newid i amodau a thelerau staff presennol.
•Gweithredu a gweinyddu trefniadau e.e.Bring Ups, Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu, drwy gydymffurfio gyda pholisïau Cyngor Gwynedd a Pholisïau
•Yn gyfrifol am gofnodi, monitro a dadansoddi’r data i adrodd perfformiad.
•Yn gyfrifol o weinyddu desgiau gweinyddol fel enghraifft: Desg Absenoldebau Ysgolion a Desg Hunanwasanaeth Staff Addysg.
•Rheoli a Chynnal cofnodion staff ysgolion yn gywir yn unol â pholisi Cyngor Gwynedd, gan sicrhau bod holl gofnodion gweithwyr yn gyfredol, yn gywir ac yn cael eu storio yn unol deddfwriaeth Diogelu Data.
•Gweithredu ar brosesau pan mae staff yn ymadael a chyflogaeth.
•Rhoi cyngor i staff a phenaethiaid ar elfennau o’r cytundeb a’r amodau gwaith e.e. hawliau mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, cyfrifo hawliau gwyliau.
•Delio gyda sefyllfaoedd heriol gyda Penaethiaid a Staff Ysgol yn broffesiynol dros y ffôn neu e-bost
•Yn gyfrifol am sicrhau bod cymorthyddion wedi cofrestru gyda CGA gan ei bod yn ofynol gyfreithiol cyn cychwyn yn eu swydd.
•Cyfrifoldeb o weinyddu bas-data athrawon llanw gan ddiweddaru’r manylion drwy ddarparu rhestr gyfredol i’r Uned Cefnogi Addysg ac Ysgolion Uwchradd y Sir yn absenoldeb Yr Uwch Swyddog Uned Contractau a Chyflogau Ysgolion.
•Sicrhau bod pob amserlen yn cael ei gyrraedd ar amser ac yn effeithiol yn fisol. Pwysigrwydd gyda hyn gan all hyn olygu bod rhywun yn mynd heb gyflog neu yn derbyn cyflog anghywir.
Amgylchiadau arbennig
•-