Swyddi ar lein
Arweinydd Ymarfer Trobwynt (Drws Cywir)
£41,418 - £43,421 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2027
- Cyfeirnod personel:
- 24-26965-H2
- Teitl swydd:
- Arweinydd Ymarfer Trobwynt (Drws Cywir)
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 07/06/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2027 | 37 Awr
- Cyflog:
- £41,418 - £43,421 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Lleoliad: Caernarfon a gweithio'n hybrid
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Amlygodd adroddiad y Comisiynydd Plant yr angen i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc nad yw eu hanghenion yn cael eu hystyried yn ddigon difrifol i fod angen cymorth arbenigol ond, sy’n profi gofid emosiynol a/neu sy’n arddangos ymddygiadau sy’n peri pryder.
Rydym yn bwriadu datblygu model gwasanaeth ychwanegol, ochr yn ochr ag agwedd trothwy gofal ein gwasanaeth, i wella ein darpariaeth i gwrdd â rhai o’r heriau a ddisgrifir yn yr adroddiad ‘Dim Drws Anghywir’.
Mae wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i wahanol lefelau o angen, gyda phob lefel yn darparu ymyrraeth a chymorth wedi ei deilwra i, ac yn gymesur ag angen y plentyn neu berson ifanc, gyda ffocws ar ddarparu cymorth amserol ac atal problemau rhag dod yn fwy difrifol.
Mae’n ymwneud â theuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr amser iawn ac mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw.Mae angen i bob gwasanaeth sydd â rôl mewn iechyd meddwl a lles ddod at ei gilydd i ganfod y ffordd orau o ddiwallu'r angen. Gall y gwasanaethau hyn fod o wasanaethau iechyd, addysg, cymdeithasol neu'r trydydd sector. Mae gan bob un rywbeth i'w gynnig yn dibynnu ar amgylchiadau teulu.
Po fwyaf y daw gwasanaethau at ei gilydd i wrando ar yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd, y mwyaf y gallent addasu sut y maent yn gweithio gyda’i gilydd i lenwi’r bylchau. Gallai gwasanaethau sy'n cynnig cymorth ychwanegol ganolbwyntio ar grwpiau penodol o blant a phobl ifanc, neu ar faterion penodol.Mae 'Dim drws anghywir' yn helpu i sefydlu beth sy'n gweithio'n dda mewn ardal a pha wasanaethau sydd eu hangen. Mae hefyd yn atal y rhwystredigaeth o aros ar restr i ddarganfod nad dyma'r gwasanaeth iawn wedi'r cyfan.
Mewn rhwydwaith aml-asiantaeth o wasanaethau, y ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy broses wedi'i rheoli a nodweddir gan gydweithio da, rhannu gwybodaeth a phartneriaethau aeddfed. Bydd y swydd hon felly yn canolbwyntio ar ymagwedd amlddisgyblaethol a hyrwyddo ymyriadau fel pe bai'n asiantaeth sengl.
Byddai Arweinydd ymarfer Trobwynt yn rhan annatod o weithrediad y strategaeth hon a bydd yn ofynnol i ddarparu arweiniad, cefnogaeth a mentora proffesiynol er mwyn dylanwadu ar newid diwylliant gan yr holl bartneriaid, er mwyn i’r gwasanaeth ddod yn gwbl integredig yn ogystal â chydweithio aml-asiantaethol . Byddai arweinydd ymarfer Trobwynt yn rheoli gweithwyr allweddol o fewn y gwasanaeth yn uniongyrchol i ddarparu cymorth amserol i blant ag anghenion cymhleth ac atal problemau rhag mynd yn fwy difrifol. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd â diddordeb mewn datblygu agwedd newydd ar ein gwasanaethau, gyda chyfleoedd gweithio hyblyg da.Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â: Gwenan Hughes 01286 679369 gwenanmedihughes@gwynedd.llyw.cymu NEU Aled Gibbard 01286679713 aledwyngibbard@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 07/06/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
Gallu i weithio mewn dull heb fod yn ormesol.
Gallu i arwain (staff a prosiect).
Ymlyniad clir i werthoedd gwaith cymdeithasol wrth weithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc a’u teuluoedd
Diddordeb a gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol ac awydd i ddysgu eraillDYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOLHANFODOL
Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig, DipS.W./CQSW, neu
Nyrs gofrestredig, neu
Gweithiwr Gwasanaeth Prawf (Dip Astudiaethau Gwasanaeth prawf), neu
Athro/Athrawes wedi cymhwyso.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
O leiaf 3 blynedd o brofiad ol-gymhwyso
DYMUNOL
Wedi ennill Dyfarniad Dysgu Ymarfer, PQ1 neu ddyfarniad PQ llawn
Cymhwyster rheolaetholPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o fod wedi cefnogi cydweithwyr/myfyrwyr yn y man gwaith
Profiad eang o weithio o fewn y gwasanaeth plant
Profiad helaeth o gydweithio gydag amrediad o asiantaethau partneriaethol
Profiad o weithio gydag achosion cymhleth gan gymryd a rhannu cyfrifoldeb.
Profiad health o fod wedi gweithio o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu wedi cymryd rhan mewn prosiectau yn ymwneud a’r Ddeddf.DYMUNOL
Profiad o reoli staff/llwythi Gwaith.
Profiad o weithio mewn meysydd gwasanaeth eraill
Profiad o weithio mewn asiantaethau eraill
Profiad o weithio ar lefel rhanbarthol a chyfrannu at drafodaethau cenedlaethol.
Profiad o gyflwyno hyfforddiant.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth eang am y Dddeddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.
Gwybodaeth drylwyr am dwf a datblygiad plant, ar draws yr amrediad oedran 0-18.
Ymwybyddiaeth o effaith trawma a phrofiadau plentyndod ar ddatblygiad plant.
Gwybodaeth gadarn am y cefndir cyfreithiol sy’n sylfaen i wasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant.
Ymwybyddiaeth o’r agenda Drws Cywir ( yn deillio o adroddiad “Dim Drws Anghywir” Comisiynydd Plant Cymru.
Y gallu i ysbrydoli tim a chynllunio Gwaith yn effeithiol.
Trwydded yrru llawn
Sgiliau I.T.DYMUNOL
Sgiliau cadeirio
Gallu i ddarparu hyfforddiant.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a DeallGallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
YsgrifennuCyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Rhoi arweiniad gweithredol ac arwain/rheoli newid i weithlu sy’n gyflogedig gan Gyngor Gwynedd i sicrhau fod plant a theuluoedd yn yr ardal yn cael mynediad i’r person cywir ar yr amser cywir a derbyn y gefnogaeth gywir i’w galluogi i barhau i fyw eu bywydau eu hunain.
•Arwain ar faes gwaith penodol o fewn y tim rhaglen waith Drws Cywir.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Dyrannu gwaith a cynnig goruchwyliaeth i staff,
•Awdurdodi gwariant o gyllid y tim
Prif ddyletswyddau
•Cynnig gwasanaeth i blant a theuluoedd yn unol a fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys dyrannu gwaith a rheoli llwythi gwaith aelodau’r tim.
•Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth, polisi, cyfarwyddyd ac ymarfer da a dderbynnir sy’n berthnasol ac arwain ar faterion diogelu o fewn y tîm yn unol â gofynion statudol a pholisïau a gweithdrefnau’r cyngor.
•Cyfrannu at ddatblygu’r Gwasanaeth a bod yn atebol am fonitro perfformiad (yn bennaf gyfrifol am ymateb yr Adran fel rhan o ddatblygu rhaglen waith Drws Cywir) a gan gyfrannu at ddablygiad cyffredinnol y Gwasanaeth.
•Darparu cyngor, cyfarwyddyd, cefnogaeth a mentora proffesiynol i ymarferwyr a datblygu ymarfer proffesiynol o fewn eu timau a’r gwasanaeth yn gyffredinol. Ymgymryd â pheth gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr a goruchwylio’r gwaith a wneir gan y tîm wrth ddarparu ymyraethau sy’n seiliedig ar deilliannau a thystiolaeth.
•Sicrhau trefn dyletswydd effeithiol i’r gwasanaeth.
•Cydweithio a chydlynu ar lefel trawsadrannol a gydag asiantaethau proffesiynol, annibynol a gwirfoddol sy’n gweithredu yn y maes, gan gynnwys elfennau o waith comisiynu.
•Arwain amrediad o gyfarfodydd a phrosesau i sicrhau ymarfer proffesiynol effeithiol.
•Grymuso staff i wneud penderfyniadau y gallent eu hamddiffyn.
•Ymarfer yn unol a Chod Ymarfer Cyngor Gofal Cymru i Weithwyr Gofal Cymdeithasol
•Cefnogi a rhoi arweiniad i weithwyr, sy’n gofyn am lefel uchel o fedrusrwydd, asesu a sgiliau dadansoddi. Bydd hyn yn cynnwys rhoi arweiniad ar bolisi, ymarfer ac ymyrraethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
•Arwain ar yr elfen Drws Cywir o fewn y tim, gan weithredu fel pwynt cyswllt gweithredol ar gyfer datblygiad yr elfen hwn o waith yr Ardran.
•Perfformiad a Datblygiad – Adnabod cryfderau a meysydd datblygu staff trwy oruchwyliaeth a gwerthuso cyson. Canolbwyntio ar wella perfformiad trwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad. Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes sy’n adlewyrchu hyn.Cyfrannu at, a datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer y tim a thimau eraill.
•Bod yn barod i ymateb i argyfwng pe bai angen
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd neu gyfrifoldeb arall fel y bydd angen yn ôl cais y Pennaeth Gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Click here to enter text.