Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
Hybu lechyd
•Trefnu a gweithredu ymgyrchoedd hybu iechyd o fewn y Cyngor.
•Trefnu a gweithredu amserlen ar gyfer ymweld â chanolfannau gwaith y Cyngor er mwyn cynnal profion/ymgyrchoedd iechyd.
•Cynnal profion e.e. pwysau gwaed, cholesterol, siwgr a gwiriadau iechyd a Iles cyffredinol
•Cynghori ar les ac iechyd unigolion a chyfeirio materion priodol i sylw'r Ymgynghorydd lechyd Galwedigaethol
•Sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gweithredu'r cynllun hwn.
•Cadw cofnodion ac adrodd ar Iwyddiant y cynllun yn rheolaidd.
•Gweinyddu a threfnu brechiad ffliw i staff cymwys y Cyngor o dan oruchwyliaeth yr Ymgynghorydd lechyd Galwedigaethol.
Gwyliadwriaeth lechyd
•Trefnu a gweithredu rhaglen gwyliadwriaeth iechyd
•Ymgymryd â phrofion gwyliadwriaeth iechyd penodol e.e. clyw, anadl, croen.
•Cadw cofnodion priodol yng nghyswllt y profion gwyliadwriaeth iechyd.
Holiaduron lechyd
•Asesu datganiadau iechyd / holiaduron cyn cyflogaeth er mwyn dod i gasgliad ynglŷn â chyflwr iechyd staff, gan gyfeirio ymlaen i'r Ymgynghorydd lechyd Galwedigaethol ple bo angen.
Brysbennu Materion Iechyd Cyffredinol
•Cynghori rheolwyr a staff ar faterion iechyd galwedigaethol penodol o dan gyfarwyddyd yr Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol.
•Ymgymryd ag asesiadau penodol o dan gyfarwyddyd yr Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol, gan ailgyfeirio ymlaen pam yn addas.
Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
-