Swyddi ar lein
Dirprwy Reolwr Gwytnwch
£39,186 - £41,418 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25883
- Teitl swydd:
- Dirprwy Reolwr Gwytnwch
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 12/02/2024 09:46
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,186 - £41,418 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Dirprwy Reolwr Gwytnwch
CYFLOG: PS2 - £39,186 - £41,418
Oriau - 37 hours
(Gweithio’n Hybrid)
Lleolir y swydd yn un o’r swyddfeydd isod:
Bangor / Conwy / Halkyn
Mae’r swydd cyffrous yma yn rhoi y cyfle i chi weithio dau ddiwrnod o’r swyddfa a tri diwrnod yr wythnos o’ch cartref.
Darparu cyngor arbenigol i’r Asiant Cefnffyrdd ynglŷn â materion rheoli gwytnwch yn ymwneud â’r rhwydwaith cefnffyrdd er mwyn sicrhau y darperir ymateb cadarn sy'n gymesur i argyfyngau (e.e. tywydd garw a digwyddiadau). Cynorthwyo RDGT ar ddatblygiadau pellach y cynlluniau a gweithdrefnau wrth gefn ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i gwrdd â safonau gofynnol Deddf Argyfyngau Sifil 2004. Pwrpas y swydd ydi i gynorthwyo'r RDGT i ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Diogelwch annibynnol dynodedig yn unol â Rheoliadau 11(a), 11(b) ac 11(d).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Ian Jones ar 01352 782111
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 22/02/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gweithio Tu Allan i Oriau ac mewn Argyfwng.
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm
Ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda a'r gallu i ddylanwadu ar eraill
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd mewn pwnc perthnasol neu HNC gyda phrofiad perthnasol sylweddol (cymhwyster mewn peirianneg, technoleg, gwyddoniaeth, iechyd a diogelwch neu'r amgylchedd).
Dymunol
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn amgylchedd cynnal-a-chadw ac adeiladu priffyrdd gweithredol.
Dymunol
Medru dangos profiad mewn cynllunio wrth gefn neu weithdrefnau argyfwng.
Profiad o weithio gyda'r Gwasanaethau Brys.
Medru dangos profiad mewn rheoli risg gweithredol o asedau isadeiledd.
Profiad mewn Rheoli Parhad Busnes
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da.
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda o reolaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
Yn wybodus gyda TG, yn medru deall a defnyddio ystod o systemau TG i gyflawni'r allbynnau y mae'r Cleient eu hangen.
Gwybodaeth am reoliadau statudol, safonau a manyleb o ran asedau priffyrdd neu gynllunio wrth gefn:
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
Trwydded yrru gyfredol.
Dymunol
Gallu cydlynu’n effeithiol a rheoli darparu cynlluniau, prosesau a systemau.
Gwybodaeth a phrofiad o Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli).
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau, dadansoddi a chyflwyno adroddiadau da.
Gallu ymdrin â’r cyhoedd mewn modd sensitif.
Gallu gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol.
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Darparu cymorth i'r Rheolwr Diogelwch a Gwytnwch Twnneli (RDGT)
•Cynorthwyo'r RDGT i ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Diogelwch annibynnol dynodedig yn unol â Rheoliadau
-11 (a) - sicrhau bod cydweithrediad gyda’r gwasanaethau brys, a chymryd rhan wrth baratoi'r cynlluniau gweithredol;
-11(b) - cymryd rhan wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithrediadau mewn argyfwng;
-11(d) - gwirio bod staff gweithredol a gwasanaethau brys perthnasol wedi'u hyfforddi mewn perthynas â'r cynlluniau gweithredol, cymryd rhan wrth drefnu ymarferion hyfforddiant i'r diben hwn, a sicrhau bod ymarferion o'r fath yn cael eu cynnal yn rheolaidd;
•Darparu cyngor arbenigol i’r Asiant Cefnffyrdd ynglŷn â materion rheoli gwytnwch yn ymwneud â’r rhwydwaith cefnffyrdd er mwyn sicrhau y darperir ymateb cadarn sy'n gymesur i argyfyngau (e.e. tywydd garw a digwyddiadau) ac yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y rhwydwaith.
•Cynorthwyo RDGT ar ddatblygiadau pellach y cynlluniau a gweithdrefnau wrth gefn ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i gwrdd â safonau gofynnol Deddf Argyfyngau Sifil 2004.
•Cynorthwyo Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol ar ddatblygiad System Rheoli parhad Busnes ACGCC i'r Asiant.
•Arwain ar adolygiad rheolaidd a gweinyddiaeth cynlluniau a gweithdrefnau wrth gefn.
•Dirprwyo ar ran RDGT ar Fforwm Gwytnwch Lleol Is Weithgorau Lleol Gogledd Cymru a Dyfed Powys fel bo angen.
•Darparu adroddiadau a dadansoddiad i Dîm Rheoli ACGCC ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol
•Cysylltu â'r staff Rheoli Rhwydwaith i adnabod ardaloedd a datblygu cynlluniau i wella gwytnwch y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli cyllidebau sydd wedi'u dyrannu.
•Gliniadur Ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
Cyffredinol
•Cynnal Cynlluniau wrth Gefn yr Asiant yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Paratoi adroddiadau fel y bo’r angen ar gyfer yr Uned Rheoli Cefnffyrdd er mwyn adrodd wrth Lywodraeth Cymru.
•Cysylltu â rhanddeiliaid allweddol (Eraill) gan gynnwys, ymhlith eraill, y Gwasanaethau Brys Categori 1 a 2, swyddogion Llywodraeth Cymru, cynllunio argyfwng yr awdurdod lleol, swyddogion amgylcheddol a phriffyrdd, darparwyr gwasanaeth y sector preifat a'r sector cyhoeddus (gan gynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr), UK Highways Ltd, ACDC a Darparwyr Gwasanaeth Llywodraeth Cymru.
•Cysylltu â staff eraill yr Asiant a darparu cefnogaeth iddynt ar faterion gwytnwch
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sydd gofyn amdanynt er mwyn cyflwyno’r gwasanaethau sydd gymesur â graddfa’r swydd.
•Gweithredu yn unol â pholisïau’r Cyngor a rhai ei gleientiaid dan y Cod Ymarfer perthnasol.
•Cydymffurfio â dyddiadau cau cytunedig ac amcanion cerrig milltir yn foddhaol.
•Cyflawni a chynnal y safonau uchaf o reolaeth o fewn yr Asiant Cefnffyrdd
•Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant perthnasol mewn perthynas â Datblygiad Proffesiynol Parhaus
•Sicrhau perthnasau da drwy safonau gofal cwsmer.
•Datblygu a chynnal morâl da a chynhyrchedd y tîm.
Twnneli’r A55
•Yn ychwanegol i’r dyletswyddau a geir yn Rheoliadau Diogelwch Twnneli Ffyrdd:
•Cynorthwyo Rheolwr Twnnel Llywodraeth Cymru gyda rheoli Dogfennaeth Diogelwch a’r ddogfennaeth sydd gofyn eu cael gan ddeddfwriaeth, polisi, gweithdrefnau neu safonau;
•Cynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda'u dyletswyddau o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005.
•Cysylltu â'r rheini sy'n ymgymryd â swyddogaethau'r Prif Gontractwr a Phrif Ddylunydd ar Dwnneli'r A55.
•Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd a chynadleddau fel y bo’r gofyn yn ymwneud â materion rheoli risg gan gynnwys Fforwm Gweithredwyr Twnneli y DU / Cymdeithas Gweithredwyr Twnneli Ffyrdd.
Rheoli Gwydnwch
•Cynorthwyo i adnabod materion gwytnwch y rhwydwaith a mesurau i leihau risg a gweithrediad y rhwydwaith. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft:
•Risg llifogydd
•Risg llygredd
•Risg Tân
•Risgiau tywydd gwael yn cynnwys cynnal a chadw yn y gaeaf
•Gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd
•Tagfeydd
•Gwyriadau tactegol a strategol
•Rheoli a chynnal ansawdd y cynlluniau wrth gefn, mesurau diogelwch a gweithdrefnau argyfwng sy’n effeithio cefnffyrdd.
•Cysylltu â staff yr Asiant ac eraill i ddylunio, gweithredu Ymarferion Argyfwng a gofynion hyfforddiant priodol eraill.
•Cysylltu â staff a swyddogaethau'r Asiant ar ddatblygiad System Rheoli Parhad Busnes ACGCC.
•Mynd i gyfarfodydd Fforwm Cydnerth Lleol (FfCLl) rhanbarthol is-weithgor priodol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ac ymarferion a gytunwyd gan y Swyddog Diogelwch Twnneli a'r Rheolwr Gwytnwch.
•Mynychu a chynghori Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch Awdurdodau Lleol ar faterion Cefnffyrdd.
Rheoli Digwyddiadau
•Gweinyddu gweithredu a monitro prosesau a gweithdrefnau’r Asiant er mwyn sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gyfer ymateb yn ystod y dydd a thu allan i oriau i argyfyngau er mwyn bodloni gofynion perfformiad Llywodraeth Cymru.
•Cynorthwyo datblygiad cynlluniau wrth gefn yr Asiant a phrosesau ar gyfer argyfyngau ar y rhwydwaith cefnffyrdd mewn cydweithrediad ag Eraill.
•Cynorthwyo staff ACGCC eraill yn ystod ymateb a rheoli digwyddiad o argyfwng (yn ystod y dydd a thu allan i oriau) fel bo angen
•Trefnu hyfforddiant rheoli digwyddiad perthnasol ar gyfer yr Asiant.
•Cynorthwyo gyda darparu prosesau ôl-drafodaeth yr Asiant.
Gwasanaeth Tywydd Gwael / Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf
•Rheoli’r Gwasanaeth Tywydd Gwael / Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a wneir gan yr Awdurdodau Partner ar ran y Rheolwr Rhwydwaith.
•Cysylltu â Llywodraeth Cymru, eu person tywydd a Darparwyr Gwasanaeth offer meteorolegol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r Rheolwr Rhwydwaith wrth reoli stoc halen strategol Llywodraeth Cymru.
•Monitro darpariaeth gwasanaeth integredig cynnal a chadw tywydd Garw / Gaeaf ACGCC yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.
•Sicrhau bod archwiliadau gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf yn cael eu cwblhau.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
•Cyfrifoldeb pob gweithiwr yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yw cydymffurfio â Pholisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel sydd wedi’u diffinio yn System Reoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol i fodloni gofynion y Gwasanaeth;
•Gall sefyllfaoedd rheoli digwyddiadau ac argyfwng ddigwydd y tu allan i oriau gwaith arferol.
•Mynd i gyfarfodydd mewn ardaloedd eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).