Swyddi ar lein
Rheolwr Stadau
£49,498 - £51,515 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25871
- Teitl swydd:
- Rheolwr Stadau
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Eiddo
- Dyddiad cau:
- 26/02/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £49,498 - £51,515 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Lowri Cadwaladr Roberts ar 01286 679405 neu drwy e-bost: lowricadwaladr@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 26/02/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster ol radd yn y maes reoli stadau a prisio eiddo
Aelodaeth o’r RICSDYMUNOL
Prisiwr Cofrestredig RICS
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o waith prisio eiddo, rheoli prydlesi, prynu a gwerthu eiddo.
Y gallu i reoli rhaglenni gwaith yn drefnus a sicrhau fod blaenoriaethau’r uned yn cydfynd â blaenoriaethau’r CyngorDYMUNOL
Profiad o reoli pobl
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda phob math o feddalwedd yn arbennig sysytemau rheoli eiddo a GIS
Gwybodaeth helaeth o ddeddfwriaeth Eiddo
Y gallu i sicrhau fod rhaglenni gwaith yn cael eu cwblhau ar amser
Y gallu i gadw trefn ar lwyth gwaith unigolion a sicrhau fod targedau’r uned yn cael eu cyrraedd yn amserolDYMUNOL
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio oddi mewn amserlen dynn ac ymateb i gyfarwyddiadau yn drwyadl.
Y gallu i arwain newid a datblygu ffyrdd mwy effeithlon o reoli’r uned a gwaith stadau
Y gallu i edrych yn wrthrychol am arbedion effeithlonrwydd a chyflwyno toriadau i wasanaeth i ymateb i’r angen i greu arbedion ariannol yn ol y gofyn.
Y gallu i gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, a chyfathrebu yn gyffredinol yn effeithiol
Bod yn hyblyg ac ymdrin a chwsmeriaid mewn modd adeiladol a phridol
Ymagweddu’n bositif tuag at broblemau a bod yn ymwybodol o gyd destun gwleidyddol materion stadauDYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall
Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu
Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Arwain ar Reoli Asedau a rheoli’r Adain Ystadau yn effeithiol fel bod y Cyngor yn sicrhau gwerth gorau o’i bortffolio asedau eiddo ac i warchod buddiannau’r Cyngor a threthdalwyr.
• Cefnogi a hwyluso datblygiadau cyfalaf newydd drwy gaffael eiddo a chyfrannu at sicrhau fod achosion busnes datblygiadau yn hyfyw.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Staff - Staff yr Uned Stadau – Hyd at 10 (ar hyn o bryd 3 x Uwch Syrfëwr Stadau,3 x Syrfëwr Stadau Cynorthwyol, 1 x Hyfforddai Rheoli Stad, 1 x Cydlynydd Intec a Mentec).
• Ymgynghorwyr allanol fel bo gofyn.
• Cofrestr Ystadau.
• System wybodaeth Rheolaeth asedau.
• Rheolaeth safle ar gyfer y Portfolio Manddaliadau a Diwydiannol.
• Offer technegol personol ar gyfer ymgymryd â gwaith prisio – dros £500.
Prif Ddyletswyddau.Arwain a Rheoli Pobl
Gweithredu fel rheolwr llinell i wahanol grwpiau swyddogion o fewn yr Uned, sy’n gweithredu mewn meysydd gwaith gwahanol, drwy ddarparu arweiniad, cefnogaeth a goruchwyliaeth pan fo angen.
Ysgogi, annog a grymuso eich staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a thrwy greu awyrgylch o barch, cydweithio a chymryd risgiau.
Rhoi cyfeiriad ac adborth i'ch staff trwy drosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol tra'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth.
Arwain, datblygu, gwerthuso ac annog staff i weithio i’w llawn botensial gan osod targedau ac amcanion priodol a mesur cyflawniad yn erbyn y targedau hynny.Rheoli Adnoddau
Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella parhaus.
Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.Perfformiad a Datblygiad
Adnabod cryfderau a meysydd datblygu eich staff trwy oruchwyliaeth gyson a phroses werthuso'r Cyngor.
Canolbwyntio ar wella perfformiad drwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad.
Sicrhau bod yna systemau rheoli perfformiad priodol ac effeithiol yn eu lle ar gyfer yr Uned a bod y nodau a’r targedau o fewn y cynlluniau busnes yn cael eu cyflawni a’u monitro’n rheolaidd.
Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes sy'n adlewyrchu hyn.
Blaenoriaethu ymysg sawl galw gwahanol gan ganolbwyntio ymdrech ac adnoddau ar yr hyn ydym wedi ei adnabod sy’n bwysig o ran ein pwrpas.Datrys Problemau
Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.
Cymryd penderfyniadau mewn sawl maes gwaith gwahanol ac ymarfer disgresiwn eang i weithredu’r penderfyniadau hynny.Cyfathrebu
Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol.
Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy'n gwerthfawrogi teimladau eraill.
Delio a chwynion ac anghydfod gan gwsmeriaid. Mynychu cyfarfodydd cyfamodi a cheisio sicrhau fod ein strategaeth yn glir a chyfiawn ym mhob achos.
Cefnogi’r Pennaeth Cynorthwyol Tai ac Eiddo i ddatblygu a gweithredu trefnau i hyrwyddo gofal cwsmer effeithiol o fewn yr Uned ac ar draws yr holl wasanaeth.
Cynnal trefniadau cyfathrebu ac ymgynghori mewnol priodol gydag Unedau eraill yr Adran Tai ac Eiddo, ac yn draws-adrannol.Ymwybyddiaeth o'r Cyd-destun
Deall a gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith politicaidd y Cyngor a bod yn ymwybodol o'r materion sy'n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau.
Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth.Hunanreoli
Dangos esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, gonest a sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun.
Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.Prif Ddyletswyddau a Thasgau Allweddol
• Cyfrannu at waith y Tim Rheoli Adranol er mwyn creu a datblygu diwylliant un adran drwy gydweithio, cefnogi a chyfrannu at reolaeth gyffredinol yr Adran Tai ac Eiddo.
• Rheoli’r Uned Ystadau yn effeithiol, o fewn y gyllideb ac mewn ffordd sy’n ymateb i ofynion y cwsmeriaid a’r cynghorwyr yn unol ag egwyddorion Ffordd Gwynedd.
• Gweithredu fel rheolwr llinell i swyddogion o fewn yr Uned drwy ddarparu arweiniad, cefnogaeth a goruchwyliaeth pan fo angen.
• Arwain, datblygu, gwerthuso ac annog staff i weithio i’w llawn botensial gan osod targedau ac amcanion priodol a mesur cyflawniad yn erbyn y targedau hynny.
• Sicrhau bod yna systemau rheoli perfformiad priodol ac effeithiol yn eu lle ar gyfer yr Uned a bod y nodau a’r targedau o fewn y cynlluniau busnes yn cael eu cyflawni a’u monitro’n rheolaidd.
• Sicrhau bod y polisi corfforaethol yn cael ei adlewyrchu drwy weithgareddau’r Uned.
• Cefnogi’r Pennaeth Cynorthwyol Tai ac Eiddo i ddatblygu a gweithredu trefn i hyrwyddo gofal cwsmer effeithiol o fewn yr Uned ac ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.
• Cynnal trefniadau cyfathrebu ac ymgynghori mewnol priodol o fewn yr Adain Ystadau.
• Cynorthwyo i sicrhau arbedion effeithlonrwydd a gweithredu toriadau i wasanaeth pan fo’r gofyn.
• Pwynt cyswllt cyntaf i adrannau’r cyngor ar faterion rheoli stadau.
• Cyfrannu’n amserol at Gynlluniau Blaenoriaeth a Chynllun Gweithredu Tai’r Cyngor, gan arwain ar brynu a phrydlesu tir ac eiddo, a chynghori ar faterion rheolaeth eiddo cysylltiedig.
• Rheoli a chydgordio’r rhaglen waredu gan sicrhau fod eiddo’n cael ei werthu yn unol â’r amserlen sydd wedi ei sefydlu. Parhau i adnabod cyfleon pellach ar gyfer gwaredu eiddo a delio gyda cheisiadau gan unigolion a chyrff allanol.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Llywodraeth Leol 1972 a deddfwriaeth arall perthnasol o reoli stadau gan edrych i sicrhau gwerth gorau ar bob achlysur.
• Darparu cyngor proffesiynol arbenigol ar faterion yn ymwneud â rheoli eiddo ac asedau i Gynghorwyr a Swyddogion.
• Arwain y broses adolygiadau o eiddo.
• Datblygu polisïau a safonau trefn gweithio yn ymwneud â rheoli ystadau.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau i bwyllgorau a gweithgorau’r Cyngor a chynrychioli’r Adran Tai ac Eiddo ar weithgorau.
• Cysylltu â datblygwyr a phartneriaid y Cyngor i adnabod cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
• Cyfarwyddo’r Uned Gyfreithiol i ymgymryd â threfnau ar gyfer meddiannu yn erbyn tenantiaid, trwyddedai neu dresmaswyr.
• Rheoli portffolio mân-ddaliadau’r ac Asedau Busnes y Cyngor.
• Rheoli portffolio eiddo’r Cyngor gan sicrhau defnydd effeithiol o’r holl eiddo gan gynnwys rheoli prydlesau ac adolygiadau rhent ar gyfer yr eiddo hynny a brydlesir i eraill gan holl wasanaethau’r Cyngor.
• Ymgymryd â dyletswyddau prisio cyffredinol a rheoli gwasanaeth prisio’r Cyngor gan gynnwys darparu prisiad o asedau yn unol ag amserlen statudol.
• Datblygu a chynnal GIS a Systemau Rheoli Gwybodaeth perthnasol yn benodol y gofrestr asedau ystadau.
• Rheoli’r broses o gyflwyno apeliadau trethi annomestig ar ran y Cyngor.
• Darparu gwasanaeth proffesiynol mewn perthynas â phrynu, gwerthu a rheoli eiddo i gleientiaid sector cyhoeddus tu allan i’r Cyngor fel bo’r gofyn.
• Cynrychioli’r Cyngor ar grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol yn ymwneud â materion stadau a rheoli asedau.
• Cyrraedd targedau ariannol drwy fonitro a rheoli holl gyllidebau’r gwasanaethau.
• Edrych am gyfleon i gynyddu incwm a chreu arbedion a thoriadau.
• Sicrhau trefniadau iechyd a diogelwch priodol ar gyfer gweithgareddau’r Uned
• Cyfrifoldeb proffesiynol dros fonitro datblygiad a pherfformiad aelodau o staff yr Uned a datblygu a chydlynu rhaglen hyfforddiant er ehangu a chryfhau sylfaen sgiliau a medrusrwydd proffesiynol y Gwasanaeth.Cyfrifoldebau Dirprwyedig
• Hawl lle nad ellir dod i delerau a'r tirfeddiannwr i brynu buddiant mewn tir o fewn chwe mis o gychwyn trafodaethau i brynu'r cyfryw drwy orchymyn prynu gorfodol yn amodol ar ddarpariaethau'r gyfraith.
• Caniatau trwyddedau, hawddfreintiau a ffyrddfreintiau i, neu gan y Cyngor.
• Mewn achosion priodol, talu iawndal dan Ddeddf Iawndal 1973, Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, Deddf Landlord a Thenant 1954, neu unrhyw achos o ddadfeiliad neu hawliadau tenantiaid.
• Negodi a thalu unrhyw hawliadau am iawndal a gyflwynir yn erbyn y Cyngor am ddifrod neu golledion a achoswyd gan waith a gyflawnwyd dan bwerau statudol y Cyngor.
• Rhoi cydsyniad i denantiaid y Cyngor is-osod ac isbrydlesi.
• Cyhoeddi rhybudd statudol am fwriad i gynnal adolygiadau rhent ar denantiaethau.
• Cychwyn achos meddiant drwy'r Llysoedd yn erbyn unrhyw denant, drwyddedwr neu dresmaswr.
• Cymeradwyo'r telerau ar gyfer prynu, gaffael, gwerthu neu waredu holl fuddiannau'r Cyngor mewn tir lle bo penderfyniad wedi ei wneud i brynu, gaffael, gwerthu neu waredu gan Y Cabinet, Pwyllgor, Arweinydd neu Brif Swyddog yn gweithredu pwerau dirprwyedig.
• Cymeradwyo telerau ac amodau, yn caniatáu adnewyddu prydlesau. Cymeradwyo ymestyn cyfnod prydlesau sydd mewn bodolaeth.
• Rhoi cydsyniad i aseinio prydles.Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.• Mynychu cyfarfodydd fel sydd angen tu allan i oriau gwaith.
• Yn debygol o wynebu sefyllfaoedd anodd wrth negodi telerau ac ymgymryd â gwaith gorfodaeth.Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.