NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Dibynadwy
• Cyfathrebwr hyderus a thrafodwr gyda deallusrwydd emosiynol cryf
• Yn meddwl yn arloesol ac yn ddatryswr problemau
• Yn hyblyg yng nghyswllt meysydd cyfrifoldeb, blaenoriaethau sy'n newid ac yn addasu i newid
• Sgiliau trefnu ardderchog
• Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o amgylchedd tîm
• Yn gallu gweithio dan bwysau
• Gallu wedi'i brofi i gwrdd â therfynau amser a thargedau
• Y gallu i symbylu ac ysbrydoli eraill i weithredu
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd/ôl-radd mewn maes perthnasol (neu gyfatebol)
DYMUNOL
• Cymhwyster Rheoli Prosiect / Rhaglen (e.e. PRINCE 2 Practitioner neu gyfatebol)
• Aelodaeth o Sefydliad Proffesiynol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
• Profiad o gyflawni rhaglenni a/neu prosiectau'n llwyddiannus ar amser ac o fewn y gyllideb
• Profiad o ymgysylltu gyda'r cyhoedd/rhanddeiliaid yn effeithiol
• Profiad blaenorol o reoli contractau
DYMUNOL
• Profiad o weithio gydag Aelodau Etholedig ac ymdrin â materion sy'n wleidyddol sensitif
• Profiad o wneud ceisiadau am gyllid allanol a / neu ddatblygu achosion busnes
• Profiad blaenorol o fewn y sector ynni carbon isel, a’r sector hydrogen
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru
• Sgiliau rhyngberthnasol a sgiliau cyfathrebu effeithiol
• Gwybodaeth weithio dda am ddulliau rheoli prosiectau
• Gwybodaeth dda am dechnegau cynllunio, monitro a rheoli prosiectau
• Dealltwriaeth o arferion rheolaeth ariannol
• Llythrennog mewn TGCh, yn gyfforddus gyda Word, PowerPoint, Excel, cronfeydd data perthnasol a chyfryngau cymdeithasol
DYMUNOL
• Gwybodaeth am ddatgarboneiddio ac rôl hydrogen wrth ddatgarboneiddio y system ynni yng Ngogledd Cymru
• Dealltwriaeth o'r broses ysgrifennu bidiau / datblygu achosion busnes
Anghenion ieithyddol
DYMUNOL
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)