Swyddi ar lein
Cydlynydd Coedyddiaeth
£43,421 - £45,441 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25808
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Coedyddiaeth
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 07/03/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £43,421 - £45,441 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cydlynydd Coedyddiaeth
CYFLOG: PS4 (£43,421 - £45,441)
LLEOLIAD - un o’r swyddfeydd canlynol
Bangor/Conwy/Halkyn/Llandrindod/Aberaeron/Newtown/Dolgellau
Bydd y Cydlynydd Coedyddiaeth yn gyfrifol am reoli'r coed, y coetiroedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, rheoli rhaglen o arolygon diogelwch coed (gan gynnwys archwiliadau coed ynn) ar hyd cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn ogystal a rheoli agwedd gwaith y broses A154 (Deddf Priffyrdd 1980). Cydlynu’r rhaglen plannu a chynnal a chadw coed, gan gynnwys coed stryd, bod yn gyfrifol am weithredu ac adolygu strategaeth diogelwch coed ACGChC a dogfennau polisi’n ymwneud â choed yn y llawlyfr ystâd feddal ac amgylcheddol, yn ogystal a darparu arbenigedd technegol ar gyfer y system rheoli diogelwch coed (Ezytreev ar hyn o bryd).
Gweithredu fel rheolwr llinell tîm o Swyddogion Coedyddiaeth ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, sefydlu, cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coetiroedd, gwrychoedd a stadau meddal cysylltiedig a wneir gan ddarparwyr gwasanaethau, ac rheoli amrywiaeth o brosiectau er enghraifft gweithredu atebion sy’n seiliedig ar natur. Cefnogi Tîm Amgylcheddol ACGChC i reoli ystâd feddal cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a darparu cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheoli ystâd feddal i staff ACGChC, yn ogystal a chysylltu â thimau gweithrediadau rhwydwaith gyda materion yn ymwneud â choed ar y rhwydwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Hannah Jones 07773 616096
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU, 07/03/2024
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
•Sgiliau arweinyddiaeth.
•Yn gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
•Lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol.
•Sgiliau gwneud penderfyniadau a negodi.
•Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.
•Y gallu i'ch ysgogi eich hun, brwdfrydedd ac ymrwymiad.
•Gonest.DYMUNOL
•Yn arloesol ac yn creu syniadau.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
•Lefel 4 (neu gyfwerth) mewn Coedyddiaeth/Coedwigaeth Drefol neu faes arbenigol perthnasol arall, ynghyd â phrofiad proffesiynol perthnasol sylweddol A pharodrwydd i gwblhau lefel 6 (neu Gyfwerth) mewn Coedyddiaeth/Coedwigaeth Drefol o fewn 3 blynedd o’ch penodi (ariennir hyn)
NEU
•Gradd / lefel 6 mewn rheolaeth Coedyddiaeth / Coedwigaeth Drefol neu Radd mewn maes arbenigol perthnasol arall, ynghyd â llawer o brofiad proffesiynol perthnasol.DYMUNOL
•Aelod o gorff proffesiynol perthnasol (e.e. yr Arboricultural Association, yr Institute of Chartered Foresters).
•Cymwysterau mewn meysydd arbenigol perthnasol.
•Cymhwyster Archwilwyr Coed Proffesiynol.
•ILM lefel 3 neu uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
•Hyfforddiant I&D
•Cymhwyster Rheoli.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
•Profiad helaeth mewn Coedyddiaeth a'r gwaith o reoli coed, coetiroedd, a choed trefol yn cynnwys diogelwch coed, coed stryd, plannu coed a chreu coetiroedd.
•Profiad sylweddol o reoli staff / tîm yn ddelfrydol gan gynnwys rheoli timau o bell / gwasgaredig
•Ysgrifennu adroddiadau, cynlluniau rheoli, strategaethau, llawlyfrau ac ati
•Profiad o ymdrin yn effeithiol â chyfyngiadau sy'n ymwneud â choed e.e. diogelu coed a materion ecolegol mewn perthynas â gwaith gofynnol / arfaethedig.
•Profiad o weithio gyda systemau rheoli coed a'r amgylchedd, e.e. Ezytreev.
•Profiad o weithredu a gorfodi deddfwriaeth a rheoliadau Ewropeaidd a'r DU.
•Profiad o ddatblygu rhaglenni gwaith amgylcheddol.
•Comisiynu a goruchwylio amrywiaeth o astudiaethau, arolygon a chynlluniau rheoli ecolegol neu rai sy'n ymwneud â choed.
•Profiad o ymdrin ag ystod eang o randdeiliaid cefnffyrdd, gan gynnwys, er enghraifft, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a phreifat eraill, tirfeddianwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
•Profiad o reoli cyllidebau.DYMUNOL
•Rheoli contractau ar gyfer gweithgareddau rheoli ystâd feddal.
•Goruchwylio sgiliau amgylcheddol arbenigol amrywiol.
•Cymryd rhan mewn cynhyrchu polisïau / strategaethau amgylcheddol ar gyfer cyrff cyhoeddus.
•Gweithredu systemau ISO 14001.
•Profiad o reoli prosiectau
•Rhoi cyflwyniadau a hyfforddiant
•Profiad o reoli cyllidebauSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
•Rheoli coed trefol, rheoli coetir a diogelwch coed.
•Arbenigedd amgylcheddol ac ecolegol.
•Gwybodaeth helaeth am reoliadau a deddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd a'r DU.
•Yn llythrennog mewn TG.
•Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch.
•Trwydded Yrru
•Y gallu i deithio a gweithio mewn lleoliadau anghysbell.DYMUNOL
•Gwybodaeth am ofynion a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru a rhai'r Awdurdod Lleol.
•Gofynion ISO 14001.
•Yn gyfarwydd â systemau rheoli amgylcheddol sy'n defnyddio cyfrifiadur.
•Cyfarwydd â GIS.
•Datrysiadau sy'n defnyddio Natur.
•Newid hinsawdd / carbon.GOFYNION IAITH
Gwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunolDarllen a deall
Cymraeg yn ddymunolYsgrifennu
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi gwaith y Rheolwr Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol.
Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN)
•Bod yn gyfrifol am reoli'r coed, y coetiroedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Rheoli rhaglen o arolygon diogelwch coed (gan gynnwys archwiliadau coed ynn) ar hyd cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
•Rheoli agwedd gwaith y broses A154 (Deddf Priffyrdd 1980)
•Cydlynu’r rhaglen plannu a chynnal a chadw coed, gan gynnwys coed stryd
•Bod yn gyfrifol am weithredu ac adolygu strategaeth diogelwch coed ACGChC a dogfennau polisi’n ymwneud â choed yn y llawlyfr ystâd feddal ac amgylcheddol
•Darparu arbenigedd technegol ar gyfer y system rheoli diogelwch coed (Ezytreev ar hyn o bryd)
•Rheolwr llinell tîm o Swyddogion Coedyddiaeth ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru
•Sefydlu, cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coetiroedd, gwrychoedd a stadau meddal cysylltiedig a wneir gan ddarparwyr gwasanaethau.
•Rheoli amrywiaeth o brosiectau er enghraifft gweithredu atebion sy’n seiliedig ar natur.
•Cefnogi Tîm Amgylcheddol ACGChC i reoli ystâd feddal cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a darparu cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheoli ystâd feddal i staff ACGChC.
•Cysylltu â thimau gweithrediadau rhwydwaith gyda materion yn ymwneud â choed ar y rhwydwaith
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Rheolwr llinell uniongyrchol i 6 Swyddog Coedyddiaeth (pedwar yn gweithio yng Ngogledd Cymru a dau yng Nghanolbarth Cymru).
Cyfrifoldeb am reoli isgontractwyr (40+) sy'n gweithredu ar y rhwydwaith.
Cynllunio cyllidebau, rhaglennu a chomisiynu gwaith.
•Endosgopau ar gyfer arolygon ystlumod
•PiCUS
•Dril gwrthsefyll 'Resistograph'
•Sbienddrych
•Tabled / gliniadur
•Ffôn symudol
•Offer Diogelwch Personol (PPE)
Prif ddyletswyddau
Rheoli
Arwain ar bob agwedd o reoli coed, coetiroedd a gwrychoedd a chyflwyno'r gwasanaeth coedyddiaeth ar draws ardal Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ACGCC i sicrhau y darperir gwasanaeth effeithiol, effeithlon a chyson ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol, yn unol â gofynion Cytundeb Asiantaeth Rheoli Llywodraeth Cymru (WAGMAA) a'r Llawlyfr Cynnal a Chadw (WGTRMM).
Arolygon ac Archwiliadau
Rheoli rhaglen o archwiliadau systematig ar goed a choetiroedd ar hyd y Rhwydwaith Cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM). Mae hyn yn cynnwys pob coeden sydd o fewn pellter disgyn i'r briffordd neu asedau eraill, gan gynnwys y coed sy'n tyfu yn ystâd feddal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) yn ogystal â choed trydydd parti sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae hefyd yn cynnwys coed sy'n tyfu yn yr ystâd feddal sydd o fewn pellter disgyn i eiddo / asedau trydydd parti.
•Trefnu a rheoli rhaglen o arolygon diogelwch coed yn unol â'r gofynion asesu yn Atodiad A y Matrics Risg Diogelwch Coed a Llawlyfr Ystâd Feddal a'r Amgylchedd LlC.
•Trefnu a rheoli rhaglen o arolygon clefyd coed ynn yn unol â gofynion Llawlyfr Ystâd Feddal a'r Amgylchedd LlC.
•Cynorthwyo gyda'r gwaith o ddylunio a gweithredu rhaglen o blannu coed (coed stryd, creu coetir, plannu gwrychoedd ac ati), a hynny i gynnwys cynnal a chadw.
Sicrhau y caiff cofnodion arolygon eu casglu yn y maes yn gywir gan ddefnyddio dyfeisiau llaw 'digital capture' sydd â GPS ynddynt, ac y caiff data ei reoli a'i gynnal yn unol â phrosesau cytunedig.
Bydd rhaid asesu risg y coed, eu blaenoriaethu, ac aseinio unrhyw gamau gweithredu a argymhellir. Ble bo angen, efallai y bydd rhaid cynnal arolygon ac ymchwiliadau pellach ar goed unigol. Mewnbynnu a chynnal data o fewn systemau rheoli coed Llywodraeth Cymru (Ezytreev / arall).
Sicrhau y gwneir pob archwiliad monitro sydd ei angen er mwyn gwirio bod gwaith wedi'i gwblhau ar goed diffygiol a ganfuwyd yn yr arolwg. Adborth a chydweithrediad gyda'r Tîm Busnes er mwyn sicrhau y cedwir y systemau rheoli coed yn gyfredol.
Rheoli agwedd waith y broses A154 (Deddf Priffyrdd 1980) ar gyfer ymdrin â choed peryglus ar dir preifat Siarad â chysylltu â chontractwyr, rhoi cyngor a goruchwyliaeth fel bo'r angen.
Sicrhau y cynhelir archwiliadau o waith a bod gwaith ar goed yn cael ei wneud i'r safon ofynnol.
Cyfrifol am ddril gwrthsefyll 'Resistograph' a PiCUS ACGCC, a sicrhau bod y tîm Coedyddiaeth yn ddigon medrus i'w defnyddio.
Rheoli arolygon ad-hoc ar goed /llystyfiant coediog ar gais gan eraill megis Llywodraeth Cymru, staff ACGCC neu gŵyn gan y cyhoedd.
Rheoli'r cyllidebau diogelwch coed a rheoli coed.
b) Coetiroedd
Sefydlu a rheoli rhaglen o arolygon ac archwiliadau o'r coetiroedd, lleiniau wedi'u plannu a'r categorïau ENVIS sy'n gysylltiedig â choetiroedd o fewn yr ystâd feddal. Argymell, gweithredu, a rheoli cofnodion y rhain i sicrhau y cyflawnir yr amcanion rheolaeth a chadwraeth coetiroedd yn unol â swyddogaethau LlC.
Adnabod plâu a chlefydau yn y coed, rhywogaethau anfrodorol a allai fod yn fygythiad i iechyd coed neu fioamrywiaeth, a chyfrannu at strategaeth reoli i reoli'r rhain.
Mewnbynnu a chynnal data stocrestr yn gysylltiedig â choed o fewn systemau rheoli asedau ystâd feddal Llywodraeth Cymru (system ELM – wrthi'n cael ei datblygu).
Trefnu arolygon ad-hoc ar goed ar gais gan eraill megis Llywodraeth Cymru, staff ACGCC neu gŵyn gan y cyhoedd.
c) Bioamrywiaeth
Sicrhau bod cyfyngiadau a allai effeithio ar reolaeth coed neu goetiroedd megis rhywogaethau a warchodir, safleoedd neu ddynodiadau megis SoDdGA, Gorchmynion Gwarchod Coed neu Ardaloedd Cadwraeth, yn cael eu hadnabod, a sicrhau y dilynir proses er mwyn trefnu'r arolygon, ymgynghoriadau a'r ceisiadau angenrheidiol am ganiatâd ac ati, cyn y gwaith.
Sicrhau y cynhelir yr holl wiriadau gofynnol, a dilyn prosesau ACGCC, e.e. defnyddio'r system wirio amgylcheddol ar gyfer cefnffyrdd (TRECS) a chynnal gwiriadau cyn-gwneud-gwaith am adar sy'n nythu.
Sicrhau bod timau yn deall ac yn dilyn prosesau sy'n ymwneud â'r uchod, a’u bod wedi'u dogfennu yn y llawlyfr ystâd feddal a'r amgylchedd.
d) Newid Hinsawdd ac Arloesedd
Cefnogi datblygiad a gweithrediad strategaeth newid hinsawdd ACGCC.
Cefnogi a datblygu'r defnydd o ddatrysiadau sy'n defnyddio natur, e.e. Systemau Draenio Cynaliadwy, rheoli llifogydd yn naturiol, cyfrifo carbon.
e) Cynnal a Chadw
Arwain ar ddylunio a gweithredu rhaglenni rheoli ar gyfer gwaith ystâd feddal yn unol â chynlluniau rheoli amgylcheddol Llywodraeth Cymru, y Design Manual for Roads and Bridges (DMRB), gofynion deddfwriaethol ac arfer dda.
Trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith ar gyfer cyflwyno a rheoli rhaglenni gwaith adfer a rheoli coed a gwrychoedd.
Arwain ar ddylunio a gweithredu rhaglenni rheolaeth ar gyfer yr ardaloedd coetir a gwrychoedd i gynnwys teneuo, tocio, rheoli clefydau mewn coed a gwella bioamrywiaeth fel y cytunir gyda'r Rheolwr Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol, y Cydlynwyr Amgylcheddol ac/neu'r Ecolegydd.
Sefydlu rhaglenni gwaith, llunio brîff prosiectau a chaffael gwaith mewn cydweithrediad â'r tîm rheoli llwybrau a'r tîm amgylcheddol a staff eraill ACGCC.
Cyfarfod â chontractwyr arbenigol er mwyn trafod gwaith angenrheidiol ac er mwyn asesu datganiadau dull gweithio, asesiadau risg a dogfennaeth eraill a dderbynnir ganddynt. Asesu ansawdd y gwaith a wneir gan gontractwyr a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol ac arferion gweithio da.
Cynorthwyo gyda gweithredu prosesau coed peryglus a niwsans trydydd parti o dan adran 154 Deddf Priffyrdd 1980. Gallai hyn gynnwys ymweliadau safle i gyfarfod a thrafod materion yn ymwneud â choed gyda thirfeddianwyr trydydd parti.
Gweithredu ac ymgymryd â rhaglen waith i gynnal a chadw neu amnewid asedau isadeiledd bioamrywiaeth ar y cyd â'r Cydlynwyr Amgylcheddol neu'r Ecolegwyr.
Cefnogi timau Rheoli Llwybrau ACGCC gydag ymholiadau yn ymwneud â choed a materion rheolaeth amgylcheddol yn ystod argyfyngau, gan gynnwys digwyddiadau achlysurol y tu allan i oriau.
Rhoi cefnogaeth i Ecolegydd a Chynrychiolydd Adran ACGCC o ran materion amgylcheddol ar adran Dyluniad, Adeiladwaith, Cyllid a Gweithrediad (DBFO) yr A55 o Gyffordd 1 i Gyffordd 11, a ffyrdd cysylltiedig.
Arwain ar reoli risgiau diogelwch coed Categori 1 a 2 yn unol ag Atodiad A a'r gofynion yn Llawlyfr Ystâd Feddal a'r Amgylchedd LlC ar gyfer coed sy'n eiddo i LlC a choed sy'n eiddo i drydydd parti gerllaw'r rhwydwaith ffyrdd strategol.
Sefydlu, cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coetiroedd, gwrychoedd a'r ystâd feddal gysylltiedig a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
Sefydlu a rheoli rhaglen o arolygon ac archwiliadau o'r coetiroedd a'r lleiniau wedi'u plannu o fewn yr ystâd feddal ac argymell rheolaeth, camau gweithredu a chofnodi. Hefyd, adnabod plâu a chlefydau yn y coed, a rhywogaethau anfrodorol a allai beri bygythiad i iechyd coed neu fioamrywiaeth.
Rhoi cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheoli'r ystâd feddal i staff ACGCC.
Cadw i fyny ag arfer orau a pharhau i ddatblygu'r tîm Coedyddiaeth.
Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (ymgynghorwyr / dylunwyr fel Noddwr Prosiect a chontractwyr).
Rheoli perthnasau a chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid amgylcheddol.
Cynorthwyo a chynghori'r tîm Amgylchedd a Llywodraeth Cymru ynghylch gwelliannau posib i ymarfer coedwigaeth drefol a choedyddiaeth, bioamrywiaeth, neu reolaeth tirwedd neu amgylcheddol.
Darparu cefnogaeth i dimau a chadwyn gyflenwi ACGCC i reoli'r risgiau o ddifrodi neu darfu ar ecosystemau, yn enwedig wrth weithredu'r Llawlyfr Dogfennau Contract ar gyfer Gwaith Priffyrdd (MCHW) Cyfres 3000 Tirwedd ac Ecoleg.
Cefnogi'r Rheolwr Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol, Cydlynwyr Amgylcheddol ac Ecolegwyr i gyflawni amcanion bioamrywiaeth a mentrau Gweinidogol Llywodraeth Cymru (e.e. Coridorau Gwyrdd) er mwyn bodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyfrannu'n briodol at reoli Cronfa Ddata Risg Amgylcheddol ACGCC.
e) Gwelliannau Cyfalaf
Cynghori'r Uned Cyflawni ac Archwilio a darparwyr gwasanaeth wrth ddylunio a gweithredu prosiectau gwelliannau cyfalaf pwrpasol, gan gynnwys rhaglenni gwaith ar gyfer goleuadau stryd, strwythurau, carthffosiaeth a gwaith geo-dechnegol, a sicrhau bod coed yn cael ystyriaeth ddigonol ac yn derbyn gwarchodaeth addas i'r gwreiddiau ac ati.
Gofynion Eraill
Rheoli rhaglenni o waith a'r cyllidebau cysylltiedig.
Rhoi cefnogaeth dechnegol i ACGCC a Llywodraeth Cymru ac ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd.
Cynorthwyo i baratoi adroddiadau i uwch reolwyr yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru.
Adnabod eich anghenion hyfforddiant eich hun a chymryd rhan mewn darparu a derbyn hyfforddiant yn ôl y gofyn.
Ymgysylltu ag ACDC, National England, UK Highways Ltd, Forest Research, Coed Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a Phrif Ddylunwyr a Phrif Gontractwyr (e.e. datblygwyr, perchnogion tir, cyfleustodau a Network Rail) yng nghyswllt materion cynllunio neu faterion gweithredol ar neu gerllaw'r rhwydwaith.
Darparu cyngor technegol i Lywodraeth Cymru fel y gall gyflawni ei dyletswyddau statudol yng nghyswllt materion sy'n ymwneud â choed, ac yn benodol, prif brosiectau isadeiledd LlC.
Cyffredinol
Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth.
Cynorthwyo ACGCC a Darparwyr Gwasanaeth i sicrhau cydymffurfiaeth â:
•Gweithdrefnau iechyd a diogelwch ACGCC.
•Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli).
•Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Delio gyda chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
Cefnogi a chynorthwyo’r tîm Amgylchedd i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill y Cyngor, ac Awdurdodau Partner, er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol yr Asiantaeth.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a wneir gan staff is.
Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
•Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
•Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu fel bo’n briodol â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Strategaeth Newid Hinsawdd a'r Cynllun Rheoli Carbon, ac annog eraill i ymddwyn yn gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â rôl yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac i gyflawni dyletswyddau eraill sy'n berthnasol i natur a graddfa’r swydd ar gais gan yr Ecolegydd..
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
•Sicrhau bod y tîm Coedyddiaeth yn cydymffurfio â holl agweddau iechyd a diogelwch y rolau, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel sydd wedi’u sefydlu, asesiadau risg, datganiadau dull, sgyrsiau a hyfforddiant cefnffyrdd, a'r system IaD.
•Cymryd rhan gyflawn ac arwain fel bo'r gofyn ar adolygiadau o asesiadau risg a datganiadau dull y tîm amgylcheddol i sicrhau eu bod yn berthnasol ac i hybu gwelliant parhaus.
•Sicrhau bod prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu hystyried yn llawn ym mhob agwedd o waith y gwasanaeth amgylcheddol, er enghraifft, yr angen am reolaeth traffig (TM), ac y caiff y rhain eu dogfennu'n ddigonol.
•Cynnal goruchwyliaeth, archwiliadau, ymchwiliadau i ddigwyddiadau trwch blewyn ac ati a rheoli gofynion Iechyd a Diogelwch drwy system IaD ACGCC (Evotix).
•Cymryd rhan yng ngrŵp Iechyd a Diogelwch a'r Amgylchedd yr asiantaeth gyfan (SAFER).
•Mae pob aelod o staff yr Asiantaeth yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
•Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion, e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, ac i gydweithredu â Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Y gofyn i weithio oriau sydd y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 07:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) yn ôl y gofyn, er enghraifft gweithio'n gynnar yn y bore i gynnal arolygon adar sy'n nythu ac / neu archwiliadau ar benwythnosau o fewn y swyddogaeth rheoli traffig.
•Gofynnir i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen. Gweithio tuag at gael trwyddedau rhywogaethau a warchodir, os oes angen.
•Mynd i gyfarfodydd achlysurol mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).