Swyddi ar lein
Mentor Ymarfer - Amddiffyn Plant yn Effeithiol
£45,441 - £47,420 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25772
- Teitl swydd:
- Mentor Ymarfer - Amddiffyn Plant yn Effeithiol
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 25/01/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £45,441 - £47,420 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Dolgellau
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mentor Ymarfer - Amddiffyn Plant
Cyflog :£45,441 - £47,420
Ydych chi...
Yn weithiwr cymdeithasol profiadol?
- Yn chwilio am gyfle i fod yn greadigol ac arloesol yn eich gwaith?
- Am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a bobl ifanc?
- Am gyfrannu i ddatblygu amddiffyn plant yng Ngwynedd a thu hwnt?
- Eisiau gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da?
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o brosiect arloesol o fewn y Cyngor ym maes amddiffyn plant. Mae ‘Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ yn fodel ymarfer sydd yn cael ei ddatblygu yng Ngwynedd a’i raeadru i nifer o Awdurdodau eraill. Rhan allweddol o’r gwaith ydi rôl y Mentor Ymarfer.
Fel Mentor Ymarfer byddwch yn hyfforddi a darparu ymyraethau mentora ymarfer ar lefel un i un ac mewn grŵp. Byddwch yn defnyddio dulliau safonol a hefyd datblygu dulliau newydd ar gyfer y maes gwaith. Mae Mentora Ymarfer ei hun yn faes newydd. Mae yn rôl sydd yn datblygu’n genedlaethol ac mae’r swydd yma’n gyfle i greu, arbrofi a gwerthuso ymyraethau cymhelliant a mentora ym maes gwaith cymdeithasol.
Byddwch yn bencampwr ymarfer yng Ngwynedd, yng Ngogledd Cymru a thu hwnt gan gynnig hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth wrth i Awdurdodau eraill fabwysiadu’r model yma o weithio.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Cyngor Gofal Cymru, gyda dealltwriaeth dda a profiad ym maes amddiffyn plant ac yn datblygu eu sgiliau cymhelliant a mentora.
Gweler y Pecyn Gwybodaeth – Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a’r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person.
Mae gwybodaeth am Amddiffyn Plant yn Effeithiol a’r Model Risg ar gael ar y we ar safleoedd
https://www.amddiffynplanteffeithiol.cymru/cy
https://www.modelrisg.cymru/cy
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Rydym yn awyddus i ystyried ceisiadau gan unigolion sydd, o bosib, yn is na lefel iaith y swydd ar hyn o bryd, ond bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i ddysgu neu ddatblygu i lefel iaith y swydd o fewn amserlen resymol. Bydd y Cyngor yn rhoi cefnogaeth i gyflawni hynny. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dafydd Paul 01286 679230
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 25/01/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Rhagweithiol a chadarnhaol wrth arloesi a gwella ymarfer ym maes gofal
Dymunol
Amrediad o brofiad a sgiliau dylanwadu ar ddatblygiad unigolion, timau a gwasanaeth, er mwyn dewis y dull gorau ar gyfer y dasg ddylanwadu a newid.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster gwaith cymdeithasol perthnasol
Dymunol
Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig (RSW)
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio ym maes gwasanaethau plant
Dymunol
Profiad o weithio ym maes amddiffyn plant
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Dealltwriaeth fanwl o’r Canllawiau Amddiffyn Plant (2008) a rheoliadau eraill
Dymunol
Sgiliau defnyddio ‘Sgyrsiau Synhwyrol’ ym maes amddiffyn plant
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I sicrhau fod plant yng Ngwynedd yn cael eu diogelu rhag niwed
•I sicrhau fod plant yng Ngwynedd yn cael eu hamddiffyn yn y ffordd mwyaf effeithiol trwy drawsnewid ymarfer
•I wireddu buddiannau prosiect ‘Amddiffyn Plant Effeithiol’ (Effective Child Protection) i wahanol randdeiliaid a trwy gydol oes y prosiect
•I fod yn bencampwr ymarfer ar brosiect ‘Amddiffyn Plant Effeithiol’(ECP)
•I yrru a chefnogi’r prosiect i fodelu trawsnewidiad mewn ymarfer amddiffyn plant yn lleol yn y lle cyntaf
•I gynhyrchu model wedi ei dreialu ar gyfer Pennaethiaid Plant Rhanbarth Gogledd Cymru ac ar ran y 6 sir yn y rhanbarth.
•I ddarparu gwerthusiad sydd yn profi gwerth y model ymarfer i randdeiliaid
•I ddatblygu cynnyrch ellir ei gyflwyno mewn Awdurdodau eraill yn y rhanbarth ac wedyn gyda’r potensial o’i raeadru yn genedlaethol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Dim
Prif ddyletswyddau
Arloesi ac arwain ymarfer:
•Darparu ymyrraeth sydd yn cyd fynd a cydymffurfiaeth llawn o’r Canllawiau Amddiffyn Plant, deddfwriaeth a rheoliadau eraill; gan arddangos dealltwriaeth ac arbenigedd maes wrth arloesi ag ymarfer.
•Darparu gwasanaeth mentor ymarfer ar gyfer ‘Amddiffyn Plant Effeithiol’ (ECP) ar lefel unigol gyda gweithwyr cymdeithasol, uwch ymarferwyr, rheolwyr tîm, cydlynydd amddiffyn plant, uwch reolwyr o fewn Gwasanaethau Plant Gwynedd
•Darparu sesiynau datblygu ymarfer ar ‘Amddiffyn Plant Effeithiol’ (ECP) i staff y Gwasanaeth Plant gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, uwch ymarferwyr, rheolwyr tîm, cydlynydd amddiffyn plant, uwch reolwyr o fewn Gwasanaethau Plant Gwynedd. Bydd hyn ar lefel sesiynau unigol ac mewn sesiynau grwp.
•Darparu gwasanaeth cynghori arbenigol mewnol i Wasanaethau Plant ar Sgyrsiau Synhwyrol (Collaborative Conversations)
•Darparu gwasanaeth cynghori arbenigol mewnol i Wasanaethau Plant ar y Model Risg (Risk Model)
•Darparu gwasanaeth cynghori arbenigol mewnol i Wasanaethau Plant ar y model ‘Amddiffyn Plant Effeithiol’ (ECP)
•Darparu ymyraethau ymarfer gwaith cymdeithasol mewn amgylchiadau arbennig i gyfarfod ag anghenion y prosiect arloesi, gan gynnwys cadeirio (os yn addas), mynychu neu arsyllu Cynadleddau Amddiffyn Plant, grwpiau craidd neu gyfarfodydd proffesiynol.
•Gweithredu mewn dull sydd yn cyd fynd a rhinweddau ‘Amddiffyn Plant Effeithiol’ (ECP) e.e. cyfathrebu’r cydweithiol er mwyn modelu’r newid i staff.
Prosiect:
•Gweithio dan arweinyddiaeth yr Uwch Reolwr Diogelu ag Ansawdd fel yr Arweinydd Prosiect.
•Cynhyrchu, cyd gynhyrchu, datblygu a mireinio cynhyrchion prosiect yn unol a’r Cynllun Prosiect
•Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr a rhan ddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol trwy wahanol ddulliau
•Darparu, datblygu a chynhyrchu deunyddiau cyfathrebu prosiect
•Darparu, datblygu a chynhyrchu deunyddiau hyfforddi prosiect
•Gweithredu fel rhan o Dim Prosiect, i Gynllun Prosiect
•Gweithredu yn unol ag egwyddorion Ffordd Gwynedd
•Cyfathrebu yn effeithiol gyda arbenigwyr maes, ymgynghorwyr a hyfforddwyr mewnol ag allanol
•Comisiynu ymchwil a gwerthusiadau, cynhyrchu a dadansoddi data a gwybodaeth er mwyn profi gwerth y model
•Datblygu sgiliau perthnasol ar gyfer y prosiect, er enghraifft sgiliau mentora
•Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o feysydd arbenigol ar gyfer y prosiect e.e. cyfathrebu cydweithiol
Cyffredinol:
•Cymryd cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-