Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Galluogi plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd i ddatblygu sgiliau i hyrwyddo eu hannibyniaeth drwy gydweithio’n ymarferol â hwy.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Dim cyfrifoldeb uniongyrchol ond disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am alluogi staff ac am offer sy’n eiddo i’r tîm
Prif ddyletswyddau
Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am waith ar lefel un i un ac mewn grwpiau :-
ogyda theuluoedd plant anabl
ogyda phlant a phobl ifanc anabl
•Gweithio’n integredig gydag amrywiaeth o broffesiynnau oddi mewn ac oddi allan i Derwen i ddarparu gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd.
•Sicrhau diweddariad o raglenni ac ymyrraethau perthnasol wedi selio ar ddeilliant i ymateb i angen y defnyddiwr gwasanaeth
•Cario allan asesiadau manwl o’r angen a darparu cynllun gofal i ymateb i’r angen ar y cyd gyda’r defnyddiwr gwasanaeth, ei deulu a phroffesiynnau eraill.
•Sefydlu a chynnal systemau i fonitro’r ymyrraeth drwy fesur effaith y rhaglenni a sicrhau systemau rheoli perfformiad effeithiol.
•Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau data mewn modd amserol a thaclus a sicrhau y bodlonir yr holl ofynion ar gyfer yr holl asiantaethau allanol mewn perthynas â chynnydd a monitro rhaglenni gwaith.
•Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu’r Strategaeth Cyfranogi i sicrhau bod rhieni, plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflenwi eu gwasanaethau eu hunain.
•Mynychu a chyfrannu’n weithredol at ystod o gyfarfodydd perthnasol.
•Darparu gwybodaeth berthnasol
•Darparu rheolaeth ofalus ar unrhyw adnoddau a roddir i’r tîm .
•Cadw cofnodion electroneg o’r ymyrraeth.
•Cyfathrebu’n effeithlon ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Gwaith rhiantu gyda theuluoedd
•Gweithredu rhaglenni rhiantu drwy:
oalluogi rhieni i adnabod a chwrdd ag anghenion eu plant
oalluogi rhieni i adnabod a chwrdd eu hanghenion eu hunain
oalluogi rhieni i ddatblygu dulliau i ddelio gydag ymddygiad heriol a sgiliau bywyd bob dydd plentyn
ogyfathrebu’n effeithiol gyda’r rhieni, plant, a phobl broffesiynnol berthnasol.
Datblygu sgiliau annibyniaeth plant a phobl ifanc anabl.
•Sefydlu amcanion a blaenoriaethu’r tasgau ar y cyd â’r person ifanc, ei deulu, a swyddogion proffesiynnol perthnasol.
•Llunio rhaglen weithredu gyda deilliannau penodol ar amseroedd cyfleus i’r dasg a’r defnyddiwr gwasanaeth.
•Cefnogi’r person ifanc drwy’r rhaglen gan addasu’r deilliannau fel bo angen.
•Cefnogi’r person ifanc i roi mewnbwn am y deilliannau mewn adolygiadau
•Sicrhau trefn gofnodi addas i ymateb i angen a gallu y person ifanc
Dyletswyddau corfforaethol
•Mynychu cyfarfodydd Derwen
•Mynychu a gwneud defnydd cadarnhaol o sesiynau goruchwylio proffesiynnol a gweithredol
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
AMODAU GWAITH
Cyflogaeth: Oriau Gwaith: 34 awr, o fewn 5 diwrnod dros gyfnod o 7 diwrnod gan gynnwys gweithio ar benwythnosau, gyda’r nos a thros nos fel bo angen.
Angen cerbyd a trwydded yrru ddilys.