Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.
•Adnabod unigolion bregus fydd o bosib yn cael eu heffeithio'n andwyol yn sgil yr argyfwng costau byw/ tlodi.
•Rhoi cyngor a gwybodaeth i drigolion sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw / tlodi ar faterion megis uchafu incwm, hawlio budd-daliadau a derbyn talebau argyfwng.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Adnabod unigolion bregus fydd o bosib yn cael eu heffeithio'n andwyol yn sgil yr argyfwng costau byw.
•Rhoi cyngor a chefnogaeth i drigolion sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.
•Cefnogi trigolion sydd angen cefnogaeth gyda chynhwysiad ariannol, digidol ac arall ac yn enwedig o ran uchafu incwm a rheoli dyled
•Gweithio gyda partneriaid i sicrhau cefnogaeth i drigolion ar gyfer gwiriadau budd-dal, uchafu incwm a cael mynediad i gyngor ariannol a rheoli dyled.
•Daprau sesiynau, gweithdai mewn cymunedau i godi ymwybyddiaeth trigolion o’r gwasanaethau lles lleol; helpu pobl i gael mynediad i wasanaethau lleol; helpu pobl i gychwyn ar wirio eu hawliau budd-dal ac uchafu incwm.
•Cysylltu â'r Uned Budd-dal Tai yn ôl yr angen, yn cynnwys gwirio cynnydd hawliadau a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei darparu gan y tenant
•Codi ymwybyddiaeth a mynediad at y gefnogaeth ariannol amrywiol sydd ar gael gan Wasanaethau’r Cyngor ymysg trigolion ( ee Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Cinio Ysgol am Ddim, Grant Datblygiad Plentyn, Grantiau Gofal Plant ac ati).
•Gweithio gydag eraill i gynorthwyo unigolion a'u teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw a'u cefnogi i gynnal eu tenantiaethau ac atal digartrefedd
•Cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau, neu Wasanaethau arall ar ran trigolion.
•Cyfeirio trigolion at asiantaethau priodol am gyngor arbenigol ar ddyledion
•Hysbysu a chynghori trigolion ynghylch asiantaethau cefnogi yn cynnwys Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth a'r Undebau Credyd, Timau Lles Cymdeithasau Tai ac eraill.
•Rhoi cyngor a chefnogaeth i weithwyr rheng-flaen y Cyngor sy’n cefnogi trigolion ar faterion lle a budd-daliadau.
•Cadw ar ben yr holl ddarpariaethau sy’n cael eu cynnig i ymateb ir argyfwng costau byw gan amryw bartneriaid drwy’ sir.
•Cydweithio a cefnogi Swyddogion Tlodi Tanwydd, Cinio Ysgol am Ddim a Trechu Tlodi y Cyngor i adeiladu tîm sy’n gweithio ar draws gwasanaethau i gefnogi pobl gyda’r argyfwng costau byw.
•Gwirio, asesu a gwneud cyfeiriadau i raglenni talebau argyfwng gan fudiadau allanol ee Pecynnau Bwyd Argyfwng gan fanciau bwyd, ceisiadau DAF.
•Gwirio, asesu a gwneud cyfeiriadau i raglenni talebau argyfwng sydd gan y Cyngor ee talebau tanwydd, talebau bwyd a talebau hanfodion.
•Adnabod cyfleon i uwchsgilio gweithwyr sy’n cefnogi pobl gyda materion uchafu incwm.
•Adnabod cyfleon i hyrwyddo uchafu incwm grwpiau penodol o weithwyr yn y Cyngor.
•Sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw drefniadau rheoli risg a nodwyd mewn asesiadau risg sy'n berthnasol i'r gwaith
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Efallai y bydd rhaid i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol yn ôl y gofyn.