Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi rheolwyr safleoedd y Cyngor i ddatrys problemau hefo’u hadeiladau trwy atgyweirio gwaith trydanol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Ffôn symudol
•Dillad ac offer amddiffyn personol
•Fan
•Cyfarfpar ac offer cynnal a chadw (drill, celfi llaw ayb).
Prif ddyletswyddau
•Gweithredu system i drwsio systemau gwaith trydanol sydd wedi torri neu angen eu cynnal a’u cadw yn adeiladau’r Cyngor.
•Derbyn galwadau ac amserlen waith gyn swyddogion cwmser cynnal a chadw.
•Sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn sydd yn bwysig i’r cwsmer gan ganolbwyntio ar dasgau sy’n cynrychioli gwerth.
•Gweithredu trefniadau i gasglu tystiolaeth am y galw a’r ffordd yr ydym yn delio ag o drwy gasglu tystiolaeth gan gynrychiolwyr yr adeiladau, contractwyr ac eraill allai fod yn cyfrannu tuag at y gwaith.
•Holi treiddgar a chynhwysfawr er mwyn cael dealltwriaeth lawn o’r broblem a’r amgylchiadau o ran cyflawni y gwaith.
•Delio a cheisiadau am waith arferol sy’n deillio o adroddiadau gwasanaethu cylchol
•Cynghori gweithwyr ar safleoedd ynglyn a beth i’w wneud pan fo problemau hefo’r adeiladau.
•Dehongli gwybodaeth a phenderfynu ar y trywydd gorau o ran gweithredu.
•Comisiynnu contractwyr gan ddilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynnu a rheoli contractwyr.
•Tynnu ar gefnogaeth sy’n ychwanegu gwerth os nad ydy’r sgiliau a’r wybodaeth ganddoch i ddatrys y gwaith eich hun.
•Cofnodi gwybodaeth gywir, eglur a chyfredol ar system y Cyngor.
•Casglu a chofnodi adborth gan gontractwyr a chwsmeriaid.
•Gweithredu ar y dystiolaeth i wella a datblygu’r system a newid natur y galw.
•Adnabod rwystrau i ddarparu gwasanaeth effeithiol a chost effeithlon a chefnogi Arweinydd y system i gael gwared á’r rhwystrau.
•Sicrhau bod ansawdd yn rhan greiddiol o bob cam o’r gwaith.
•Cymryd penderfyniadau ar sail arbenigedd yn y gwaith.
•Gweithredu mewn ffordd ddiogel ac yn unol á rheoliadau iechyd a diogelwch, polisiau’r Cyngor a chynlluniau rheoli risg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn achlysurol i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, e.e. yn ystod ymgyrchoedd penodol ar benwythnosau, gwyliau banc ac efallai y bydd raid gweithio oriau ychwanegol neu newid patrymau gwaith er mwyn sicrhau y bydd digon o adnoddau ar gael i foddhau gofynion y swydd.