Rheolwr Cyswllt: Rheolwr Data ac Arholiadau/ Rheolwr Busnes /
Dirprwy Bennaeth / Pennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog: S1 (22-25) - £22,949 - £24,990
Oriau Gwaith: 37 awr
8:30 – 16:20 yn arferol Llun, Mercher, Iau a Gwener 8:30 – 16:45 yn arferol Mawrth
Oriau Cinio: ½ awr
Cytundeb: Parhaol – 37 awr
39 wythnos i gynnwys:
Tymor Ysgol
Dyddiau HMS
Dyddiad Cychwyn: 8 Ionawr 2024 neu cyn gynted â phosib
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
• Cyflenwi gwaith proffesiynol athro/athrawes drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt.
• Goruchwylio cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu gwaith a hyfforddi ( fel bo’n briodol).
• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a pobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau:
• Goruchwylio cymorthyddion addygu eraill fel bo’n briodol.
Prif Ddyletswyddau:
• Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan. Monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu’r disgyblion.
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
• Rheoli ymddygiad yn adeiladol yn unol â threfn yr ysgol
• Datblygu a gweithredu Cynlluniau amrywiol
• Hyrwyddo cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth
• Cefnogi’r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol
• Ddefnyddio amrywiol strategaethau i hybu annibyniaeth
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
• Cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol ar gyfer gwersi.
• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau a gytunwyd arnynt, drwy ystod o strategaethau asesu a monitro.
• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau.
• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunanreolaeth ac annibyniaeth.
• Datblygu perthynas weithio adeiladol gyda rhieni, a chyfrannu tuag at gyfarfodydd gyda rhieni.
• Gweinyddu ac asesu/marcio profion a chefnogi arholiadau.
• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol
• Defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Cynghori ar ddefnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i, gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
• Cyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill.
• Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i’r ysgol sy’n cadarnhau ac yn ymestyn gwaith yn y dosbarth.
• Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Cofrestredig gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.
Cyfrifoldebau Goruchwylio Lle bo’n Briodol
• Goruchwylio cymorthyddion addysgu eraill fel bo’n briodol
• Cysylltu rhwng rheolwyr/staff addysgu a chymorthyddion addysgu fel bo’n briodol
• Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda staff a oruchwylir.
• Dan gyfarwyddyd y Pennaeth os yn briodol, ymgymryd ag hyfforddi/mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Arall:
• Gweithio’n adeiladol, rhagweithiol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, fel y bydd eu hangen yn rhesymol gan y Pennaeth ac sydd yn gyson gyda’r lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y swydd.
• Amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.
Dyddiad - Tachwedd 2023
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Willams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda’r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. yshopen@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
Dydd Iau, 30 Tachwedd 2023 am 10:00yb.
Dyddiad Cyfweld:
I’w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.
Mae disgwyl bydd pob cymhorthydd yn ymrwymo i’r Safonau Proffesiynol a’u datblygu.
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
• Iaith a Diwylliant Cymru
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Hawliau Dysgwyr
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysgu
o wneud ei swydd. Mae’r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
• Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Dysgwyr Proffesiynol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae’n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
• Rôl yn y System
Mae’r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhob
man ac mae’n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
• Hawl Broffesiynol
Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy’n ystyried ei hun fel sefydliad sy’n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo’r hawl i annog a chefnogi gwelliant i’r ysgol er budd y dysgwyr.