Swyddi ar lein
Pennaeth Mathemateg - Ysgol y Moelwyn
£30,742 - £47,340 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25682
- Teitl swydd:
- Pennaeth Mathemateg - Ysgol y Moelwyn
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 15/12/2023 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £30,742 - £47,340 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG
(Cyfun 11 - 16; 361 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 8fed o Ebrill 2024,
Pennaeth Mathemateg
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) y flwyddyn ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2 o £5,447 y flwyddyn i’r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-
pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Gwerfyl Jarrett, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD GWENER, 15 O RAGFYR, 2023.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
(This is an advertisement for a Head of Mathematics at Ysgol y Moelwyn for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential)
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
DYMUNOL
Yn datblygu diddordebau personol addas oddi fewn i gymuned yr ysgol.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol i’r swydd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
Hyfforddiant rheolaethol berthnasol.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.DYMUNOL
Profiad blaenorol o arwain adran neu maes dysgu.
Tystiolaeth o weithio’n effeithiol gyda llywodraethwyr.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd/uwchradd
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella’r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r Iaith Gymraeg yn yr ysgol.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.ANGHENION IEITHYDDOL
Gallu cynnal a dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoir o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Sgiliau Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad Pennaeth Maes Cwricwlaidd (Strwythur Sylfaenol).
SWYDD: Pennaeth Maes Dysgu Cwricwlaidd (MDC) Mathemateg.
AMODAU GWAITH: Athrawon. ATEBOL I: Pennaeth.
CYFRIFOLDEB AM: Athrawon y MDC. CYFLOG: Gweler strwythur staffio cyfansawdd
DYLETSWYDDAU: Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Mae amodau gwaith athrawon yn nodi dyletswyddau proffesiynol cyffredinol i bob athro. Yn ychwanegol, mae’n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau’r ysgol:
Dyletswyddau penodol: Arwain yr adran neu bwnc yn effeithiol. Golyga hyn:
- Maes cyfrifoldeb
- Cyfrifoldeb 1: Cyfrifoldeb cydweithio, cynllunio a pharatoi o fewn a thu hwnt i bob MDC. Cyfrifoldeb am hyrwyddo agweddau creiddiol ysgol gyfan Cwricwlwm i Gymru e.e. 4 diben, sgiliau ehangach, llythrennedd, rhifedd, dysgu digidol o fewn y MDC.
- Cyfrifoldeb 2: Cyfrifoldeb am gynllunio iechyd a lles o fewn y MDC.
- Cyfrifoldeb 3: Cyfrifoldeb am MDC penodol.
- Arweinyddiaeth ac atebolrwydd.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd am bob agwedd o waith y MDC.
- Arwain, cydlynu a chymryd rôl flaenllaw wrth baratoi cynlluniau gwaith, gwaith a deunyddiau dysgu ac addysgu o fewn yr adran.
- Cefnogi yr UDRH wrth weithredu blaenoriaethau ysgol gyfan.
- Cadeirio ac arwain cyfarfodydd MDC.
- Cynnal, cefnogi a sicrhau trefniadau dysgu proffesiynol addas ar gyfer staff y MDC.
- Cefnogi, cynnal a datblygu staff y MDC mewn cydweithrediad â’r Tiwtor Proffesiynol.
- Cynlluniau gwaith ac adnoddau addysgu
- Datblygu cynlluniau gwaith a pholisïau MDC gweithredol a chyflawn sy’n cyflawni gofynion ‘Cwricwlwm i Gymru’, yn ymateb i bolisïau ysgol sy’n cyfeirio at ofynion pynciol ond hefyd at ddatblygiad sgiliau, yn rhoi sylw amlwg i lythrennedd, rhifedd, TGCH a sgiliau dysgu craidd yn ogystal â themâu trawsgwricwlaidd a`r sgiliau allweddol ehangach.
- Rhoi arweiniad priodol a darparu deunydd priodol i bob athro sy`n dysgu o fewn y MDC (yng nghyd-destun cynnwys swydd ddisgrifiad athro) ar lefel ymylol.
- Monitro a hunanarfarnu
- Sicrhau fod yr arfarniad MDC yn gyfredol.
- Monitro safonau gwaith y disgyblion mewn llyfrau a ffeiliau ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
- Monitro ansawdd y dysgu a`r addysgu ar draws yr holl ystod gallu yn yr adran ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
- Defnyddio ystadegau, gan gynnwys holiaduron a fforymau, i ddadansoddi cryfderau a gwendidau y ddarpariaeth MDC a chydweithio â`r staff a`r UDRH i addasu yng ngoleuni`r dadansoddiad hwnnw.
- Arfarnu cyrsiau’r MDC yn rheolaidd.
- Delio â thangyflawni.
- Arwain a chydweithio ag aelodau eraill y MDC i gynnal a hybu cymhelliant a delio`n effeithiol â thangyflawni.
- Cefnogi, cynnal a datblygu staff yr adran mewn cydweithrediad â’r Tiwtor Proffesiynol.
- Rheolaethol
- Sicrhau gweinyddiaeth effeithiol.
- Sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau dynol a chyllidol yr adran.
- Paratoi adroddiadau ar waith y MDC yn ôl y galw.
- Cynrychioli’r MDC a gwneud cyfraniad ar lefel ysgol gyfan mewn cyfarfodydd yn ôl y galw.
Mae’r uchod yn disgrifio`r ffordd y disgwylir i`r deilydd weithredu a chwblhau y dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio`r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion yr ysgol yn ôl disgresiwn y Pennaeth.
Mrs Eleri Moss (Y Pennaeth). Tachwedd 2023
Copi: