SWYDDOG GWEINYDDOL
YSGOL GODRE’R BERWYN
SWYDD DDISGRIFIAD SWYDDOG GWEINYDDOL
Graddfa Gyflog:
Pwyntiau Cyflog:
Cyflog:
Oriau Gwaith: 32.5
Pwrpas y Swydd
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiol a chynnig gwasanaeth gweinyddol i Dim Rheoli’r Ysgol ac i raddau llai'r staff dysgu. Mae’r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod.
1 Tasgau Desg Flaen yr Ysgol
1.1 Bod yn gyfrifol am dderbynfa’r ysgol gan groesawu ymwelwyr i’r ysgol.
1.2 Cynnal trefn yn y swyddfa gan ei chadw yn daclus ar bob achlysur.
1.3 Derbyn galwadau ffôn, negeseuon ffacs ac e-bost a negeseuon eraill gan ymateb yn briodol iddynt.
1.4 Agor a dosrannu’r post boreol a threfniadau postio dyddiol.
2 Cyllidol
2.1 Mewn cydweithrediad a’r Rheolwr Busnes a Chyllid bod yn gyfrifol am y drefn “Cyfrif Imprest”
2.2 Cynorthwyo’r rheolwr Busnes a Chyllid gyda chodi archebion a thalu anfonebau yn ôl y gofyn.
2.3 Archebu deunyddiau a defnyddiau i sicrhau rhediad esmwyth y swyddfa.
2.4 Gweinyddu’r drefn cynllun gwersi offerynnol ar gais y Rheolwr Busnes.
2.5 Gweinyddu’r drefn talu ar lein am ginio a holl weithgareddau’r ysgol.
3 SIMS
3.1 Ymdrin â nifer o agweddau o system gyfrifiadurol SIMS ond yn benodol:
- Sicrhau fod manylion disgyblion yn gywir drwy fewnbynnu a chynnal yr wybodaeth yn gyfredol a chywir.
- Mewnbynnu a chynnal yr wybodaeth yn gyfredol a chywir yn modiwl amserlen. .
- Argraffu ystod o adroddiadau yn ôl yr angen.
5 Cyswllt â’r Rhieni
5.1 Mewn cydweithrediad a’r Rheolwr Busnes a Chyllid paratoi datganiadau i’r wasg.
5.2 Mewn cydweithrediad a’r Rheolwr Busnes a Chyllid sicrhau fod gwefan yr ysgol a phob dull arall o gyfathrebu a rhieni a chymuned yr ysgol yn cael ei ddiweddaru’n amserol ac yn gywir.
- Nosweithiau Rhieni
6.1 Mewn cydweithrediad a’r Rheolwr Busnes a Chyllid sicrhau trefniadau’r Nosweithiau Rhieni
7 PLASC
7.1 Gweinyddu’r broses o lunio adroddiadau PLASC yn flynyddol gan gydweithio i sicrhau cywirdeb data ar y cyd â’r Rheolwr Busnes.
8 Swyddog Gweinyddol Anghenion Addysgol Ychwanegol
Cwblhau gwaith gweinyddol, dan gyfarwyddyd y Pennaeth a/neu’r Cydlynydd ADY, gan gynnwys:
- Trefnu adolygiadau datganiadau a Chynlluniau Datblygu Unigol.
- Gweinyddu profion darllen.
- Cysylltu ag asiantaethau allanol.
- Cofnodi cyfarfodydd.
9 Cyfrifoldeb am gadw ffeiliau disgyblion yn gyfredol.
10 Tasgau eraill
Hefyd, bydd y Swyddog Gweinyddol, ar y cyd ag aelodau eraill o’r Tîm Gweinyddol, yn:
- darparu gwasanaeth ysgrifenyddol i’r Pennaeth a’r Tîm Rheoli, gan gynnwys teipio, ffeilio, cadw dyddiadur a.y.b.
- ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol eraill
- cynnal a chadw rhwydwaith gyfrifiadurol weinyddol
- dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr Busnes, dan gyfarwyddyd y Pennaeth
- casglu a bancio arian yn ôl yr angen
- ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd rhesymol arall sy’n gydnaws â natur gyffredinol y swydd ar gais y Pennaeth
- ymgymryd â gwaith teipio/clercyddol i aelodau eraill o staff pan neu os oes amser i wneud hynny.
Mae’r uchod yn disgrifio’r ffordd y disgwylir i’r deilydd weithredu a chwblhau'r dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio’r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion ysgol yn ôl disgresiwn rhesymol y Pennaeth.