Swyddi ar lein
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 - Ysgol Syr Hugh Owen
£18,843 - £20,150 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25675-H2
- Teitl swydd:
- Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3 - Ysgol Syr Hugh Owen
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 14/12/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £18,843 - £20,150 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Swydd tymor ysgol:
- 40 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON
(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)
AIL HYSBYSEB
Yn eisiau: ar gyfer: 8fed o Ionawr 2024
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a’ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i’ch oriau arferol.)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£18,843 - £20,150 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas yshopen@syhughowen.ysgolionwynedd.cymru.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i’w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DYDD IAU, 14 O RAGFYR, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
(The above is a re-advertisement for a Learning Support Assistant Level 3 at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Y gallu i berthnasu’n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio’n adeiladol fel rhan o dîm
• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
• Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
• Parodrwydd i ddysgu’n barhaus
• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
1.1.1.1 HANFODOL
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o’r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.
• NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth.
• Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd neu feysydd clyw penodol, iaith arwyddo, dyslecsia, TGaCh, Mathemateg a Saesneg.
• Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
• Hyfforddiant Amddiffyn Plant
DYMUNOL
Hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu – Rhaglen Cymorthyddion wrth eu gwaith.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o’r oedran priodol.
• Profiad o ddefnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.
• Profiad o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
DYMUNOL
2 SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
• Gallu i gyfathrebu’n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfaeang.
• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.
• Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch
• Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
• Gwybodaeth weithio o’r cyfnod sylfaenol, cwricwlwm cenedlaethol, llwybrau 14-19, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo’n briodol.
• Deall egwyddorion datblygiad a phrosesau dysg plentyn.
• Bod â’r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a’r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
• Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swyddCyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Rheolwr Cyswllt: Cyd-gysylltydd ADY, Dirprwy Bennaeth Cynhwysiad,
Pennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog: Graddfa GS4 - pwynt 7-11
Cytundeb: Parhaol – 32.5 awr
Dyddiad Cychwyn: Ionawr 1af 2024 neu cyn gynted â phosibCyfrifoldebau Penodol i’r Maes Arwain:
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol o fewn cyfundrefn gytûn o oruchwyliaeth.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen cefnogaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
• Yn achlysurol, goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes, e.e. diwrnod cyntaf salwch athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o’r fath fydd cynorthwyo disgyblion i
ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd a chynnal trefn.
• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn Addysgu Lefel 3.
Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:
Cefnogaeth i Ddisgyblion:
• Gweithio gyda’r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol, gan sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu
• Arwain gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu cytûn, a’u haddasu yn ôl ymateb disgyblion.
• Defnyddio sgiliau arbenigol i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal
Personol– yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau polisïau'r AALL ac ysgolion.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu cynlluniau amrywiol.
• Gweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
• Gweithio gyda’r athro/athrawes a disgyblion i greu arddangosfeydd.
• Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
• Cynhyrchu deunyddiau dysgu ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.
• Darparu adborth llafar ac ysgrifenedig i’r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
• Gweithio gyda’r athro/athrawes i ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau asesu risg perthnasol.
• Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.
• Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.
• Paratoi offer ac adnoddau cyffredinol a’u cynnal a’u cadw.
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i, gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
• Mynychu cyfarfodydd proffesiynol a chyfrannu iddynt fel bo’r angen.
• Rhannu ymarfer da a staff eraill a hyfforddi a chefnogi yn nol y gofyn.
• Goruchwylio a chefnogi gweithgareddau dysgu tu allan i oriau ysgol.
• Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo’r gofyn.
• Cofrestredig gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.
Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes:
• Cofrestru a chofnodi presenoldeb disgyblion mewn gwersi.
• Cyfarwyddo disgyblion ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes, a creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
• Darparu’r adnoddau angenrheidiol i’r disgyblion ar gyfer eu dysgu.
• Sicrhau bod y disgyblion yn mynd i mewn i’r dosbarthiadau ac yn dod allan ohonynt yn drefnus.
• Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
• Rheoli adnoddau’n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau’n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
• Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a’i ddychwelyd i’r athro/athrawes briodol.
• Cysylltu â’r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
Cyffredinol:
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all
dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.
Mae disgwyl bydd pob cymhorthydd yn ymrwymo i’r Safonau Proffesiynol a’u datblygu.
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
• Iaith a Diwylliant Cymru
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob
cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Hawliau Dysgwyr
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysgu o wneud ei swydd. Mae’r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac
ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
• Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes
dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
• Dysgwyr Proffesiynol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae’n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
• Rôl yn y System
Mae’r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhob man ac mae’n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
• Hawl Broffesiynol
Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy’n ystyried ei hun fel sefydliad sy’n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol,
cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo’r hawl i annog a chefnogi gwelliant i’r ysgol er budd y dysgwyr.Dyddiad - Gorffennaf 2021
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Willams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda’r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. yshopen@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymruDyddiad Cau:
Dydd Iau, Tachwedd 30ain, 2023 am 10:00yb.Dyddiad Cyfweld:
I’w gadarnhau.Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.