Swyddi ar lein
Swyddog Anghenion Tai
£34,834 - £36,648 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 23-25668
- Teitl swydd:
- Swyddog Anghenion Tai
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 07/12/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro dwy flynedd | 37 Awr
- Cyflog:
- £34,834 - £36,648 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y linc Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Swydd dros dro yw hon am gyfnod o 2 flynedd
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gareth Parri ar (01286) 682884
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 07/12/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd neu gymhwyster cyfatebolDYMUNOL
• Cymhwyster proffesiynol yn y maes tai / digartrefedd / cymorth taiPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o weithio mewn sefydliad cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr
• Profiad o weithio i amserlenni tynn
• Profiad o weithio naill ai yn y maes tai cymdeithasol, neu mewn sector tebyg
• Profiad o weithio ar eich liwt eich hun, cynllunio a monitro cynnydd eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser
• Profiad o fedru sefydlu a meithrin perthynas waith gyda phobl o adrannau, asiantaethau a sectorau eraill
• Profiad o gydlynu asesiadau, hel, dal a dadansoddi data a gwybodaeth
• Profiad o gyflwyno gwybodaeth i amryw o wahanol gynilleidfaoedd mewn gwahanol ddulliauDYMUNOL
• Profiad o gydweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, e.e. swyddogion, aelodau etholedig, cymdeithasau tai, sefydliadau gwirfoddol, y cyhoedd
• Profiad o weithio gyda phobl sydd mewn angen tai
• Profiad o weithio gyda, a dealltwriaeth o anghenion tai ac ail-gartrefu gan gynnwys pobl hŷn a pobl fregus
• Y gallu i weithio’n bennaf heb oruchwyliaethSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu tasgau yn effeithiol
• Dealltwriaeth o’r sector tai, yn benodol y sector tai cymdeithasol ynghŷd â’r gwasanaethau cefnogol cysylltiol
• Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da
• Yn gallu cynllunio ac adolygu llwyth gwaith, cwrdd â therfynau amser a safonau perfformiad
• Cymwys wrth ddefnyddio sustemau technoleg gwybodaeth, gan gynnwys pecynnau megis Microsoft ayyb
• Sgiliau datrys problemau
DYMUNOL
• Gwybodaeth weithredol yn y meysydd canlynol:
o Deddfwriaeth digartrefedd – Deddf Tai (Cymru) 2014
o Deddwriaeth gosod tai - Rhan 6 Deddf Tai 1996
o Materion a heriau sy’n wynebu pobl fregus
o Cymwysterau Budd-daliadau’r Wladwriaeth
• Gwybodaeth arbenigol am angenion, cyngor tai neu waith yn ymwneud â digartrefeddRHINWEDDAU PERSONOL
HANFODOL
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
• Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid mewn iaith glir, cywir a hawdd ei deall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Sgiliau trefnu effeithiol
• Gallu i weithio fel rhan o dîm ac adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol gyda rhanddeiliaid a phartneriaid
• Gallu i weithio’n annibynnol
• Gwydn, dibynadwy a hyblyg
• Yn medru ymdrin ag amrediad eang o bobl a phroblemau
• Yn medru uniaethu’n dda gyda phobl o bob oed, cefndir a gallu
• Ymwybyddiaeth o Gyfle Cyfartal sy’n gysylltiedig â materion tai
• Yn gadarn wrth ymdrin â phobl a’u hamgylchiadau personol
• Yn ymrwymedig i Ofal Cwsmer
• Yn cynnig cymorth / teg / ddim yn barnu
• Trwydded yrru ac yn meddu ar gar neu’n medru darparu car ar gyfer busnes sy’n gysylltiedig â’r swyddDYMUNOL
GOFYNION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
1. Cydlynu gwaith perthnasol ym mhob agwedd o’r gwaith sydd yn gysylltiedig â chynnal asesiadau o anghenion tai gwahanol ddeiliadau fel rhan o’r prosiectau ynghlwm a’r Cynllun Gweithredu Tai a gwaith strategol y Cyngor.
2. Goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu adroddiadau a dogfennau ymgynghori sy’n ymwneud â chynlluniau strategol tai y Cyngor ynghyd a chynorthwyo yn y broses o ymateb i geisiadau swyddogol Llywodraeth Cymru (e.e. LHMA).
3. Adnabod cyfleoedd ar gyfer meincnodi dangosyddion craidd a chysylltu â swyddogion mewnol i sicrhau bod data cywir yn cael ei ddefnyddio. Cynnig a chynhyrchu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy’n cael eu hamlygu.
4. Sefydlu a chynnal sustemau ar gyfer dal data ar anghenion tai yng Ngwynedd ac adrodd ar y canlyniadau, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau gweithredu’r Adran a’r Cyngor.
5. Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-Prif Ddyletswyddau
1. Olrhain a mapio’r patrymau angenrheidiol yn ymwneud a’r ddarpariaeth o lety sydd ar gael ac sydd ei angen trwy’r sir.2. Cynllunio a chyflawni comisiynau ymchwil yn unol â briffiau penodol a osodwyd ynghyd â nodau strategol y Cyngor.
3. Cynnal ymchwil sylfaenol ac eilaidd ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil ar gyfer uwch swyddogion, gan gynnwys argymhellion polisi yn ôl yr angen.
4. Gweithio gydag Unedau Gwasanaeth oddi fewn i’r Adran Tai ac Eiddo a thu hwnt i adnabod ffynonellau data anghenion tai y gellir eu defnyddio i fwydo i fewn i gynlluniau’r Adran a’r Cyngor. Casglu’r gwybodaeth ar anghenion tai ar gyfer cyfrannu at gynlluniau Adrannol gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Tai, Cynllun Pontio Ail-gartrefu Cyflym a’r Chynllun Gweithredu Cefnogi Tai.
5. Cyfrannu at gyfathrebu corfforaethol trwy baratoi briffiau, dadansoddiadau, cyflwyniadau ac adroddiadau cysylltiedig â’r sefyllfa dai yng Ngwynedd.
6. Cynnal asesiadau o anghenion tai yn gyffredinol, ond hefyd yn benodol ar gyfer:
a. Pobl hŷn
b. Pobl sy’n ddigartref neu’n wynebu digartrefedd
c. Pobl gydag anghenion arbennig/angen cartrefi wedi’i addasu
d. Pobl ifanc
e. Pobl sydd angen llety efo cefnogaeth
f. Pobl a all fod yn fregus am resymau eraill7. Sefydlu, datblygu a chynnal sustemau ar gyfer casglu data ar anghenion tai a lletya ynghyd a chydlynu’r holl wybodaeth angenrheidiol (yn cynnwys gwybodaeth ystadegol a demograffig) am y bobl hynny sydd angen tai a llety, gan gynnwys gwybodaeth am lefel a dwysedd yr angen, y math o eiddo sydd eu hangen ac ym mha ardaloedd.
8. Datblygu a meithrin rhwydweithiau proffesiynol a defnyddio cysylltiadau yn effeithiol i gyflawni canlyniadau i gynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys cydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
9. Gweithredu fel pwynt cyswllt yr Adran ar gyfer gwybodaeth sydd yn bwydo i fewn i’r Asesiad Marchnad Dai Leol.
10. Cynnal adolygiadau cyson o’r ddarpariaeth a’r cyflenwad o dai fesul daliadaeth ac adnabod lleoliadau o fewn y sir lle nad yw’r cyflenwad yn cwrdd a’r angen.
11. Datblygu prosiectau yn unol ag anghenion yr Adran Tai ac Eiddo neu gyfarwyddyd statudol.
12. Cyfrannu at gynhyrchu cynlluniau’r Uned Comisiynu yn ôl y galw er mwyn cyd-fynd â chyfarwyddyd statudol a chyfeiriad strategol yr Adran Tai ac Eiddo.
13. Cymryd rhan a chynorthwyo mewn rhaglenni hyfforddiant a datblygu staff yr Uned.
14. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
15. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
16. Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
17. Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
18. Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
19. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
20. Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd gofyn i’r swyddog weithio oriau anghymdeithasol er mwyn cyflawni eu rol.