Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I dderbyn cyfeiriadau i’r Tim Maethu gan aelodau o’r cyhoedd, rhieni maeth a gweithwyr cymdeithasol er mwyn sicrhau darpariaeth gwasanaeth effeithiol i blant a’u teuluoedd.
•Prif bwrpas y swydd fydd gweithio fel llinyn cyswllt wrth ddarganfod a chwilota am leoliadau gan ddilyn proses penodol o asesu risg a chyfatebu anghenion plant.
•Bydd deilydd y swydd hefyd yn cynnig cefnogaeth dros y ffon i rieni maeth lle nad yw’r gweithwy cymdeithasol maethu ar gael.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•I dderbyn cyfeiriadau, eu cofnodi yn unol a chanllawiau ac ymateb i’r cyfeiriadau yn unol a gweithdrefnau’r gwasanaeth.
•I gofnodi gwybodaeth am achosion yn briodol a hysbysu gweithwyr y Tim fel mae hynny yn briodol.
•Darparu a darganfod lleoliadau i blant mewn angen, unai o fewn adnoddau y tim neu adnoddau a ddarperir gan asiantaethau annibynnol.
•Cyfrannu at ymdrechion yr Awdurdod Lleol i ddarparu gwasanaethau i blant mewn angen yn unol a Deddf Plant 1989.
•Cyfrannu at hyfforddiant o safon uchel i ofalwyr maeth.
•Darparu adnoddau ar gyfer hyfforddiant mewn maes lleoliadau teulu.
•Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
•Bod yn brif swyddog ar ddyletswydd y tim a darparu cyngor a chefnogaeth i ofalwyr maeth pan nad yw eu gweithiwr cefnogi ar gael.
•Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y Cyhoedd ac asiantaethau eraill ynglyn a maethu.
•Gweithio a phobl broffesiynol eraill er mwyn hyrywddo lles plant mewn angen.
•Gweithio o fewn gofynion statudol a pholisiau a chanllawiau adrannol.
•Mynychu hyfforddiant ac ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol.
•Cyfrannu at weithgaredd gwerthuso ansawdd.
•Derbyn arolygaeth cyson gan y Rheolwr Tim neu Uwch Ymarferwr.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Parodwydd i weithio oriau hyblyg gan gynnwys rhai nosweithiau a Sadyrnau a Suliau yn achlysurol.
•Trwydded yrru llawn.
•Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. Yn sgil hyn bydd angen gofyn i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol am ddadleniad ar ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd y Cyngor yn darparu ffurflen briodol i’r perwyl hwn ac yn talu’r ffi cysylltiedig. Darperir manylion pellach ynglyn a’r broses yn ôl yr angen. Disgwylir bod yr ymgeisydd llwyddianus yn cofrestru gyda Cyngor Gofal Cymru yn ôl y gofyn.