Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Darparu Gwasanaeth Addysg y gn nghyd-destun Archifaua ag Amgueddfeydd
Prif ddyletswyddau
•Hyrwyddo gwaith addysgol yn Archifdai ac Amgueddfeydd Gwynedd.
•Cydweithio'n agos gyda Ymgynghorwyr Addysg y Sir, Arolygwyr a chyrff addysgol eraill, a bod yn ymwybodol o ddatblygiadau'r cwricwlwm cenedlaethol.
•Ateb ceisiadau unigol athrawon a disgyblion.
•Paratoi cyhoeddiadau, deunydd ar gyfer athrawon a data cyfrifiadurol.
•Gweithio gyda grwpiau addysg yn yr Archifdai ac Amgueddfeydd.
•Cymryd rhan mewn cyrsiau a drefnir gan Cynnal a chyrff addysgol eraill.
•Ymweld ag ysgolion yn rheolaidd a chadw cysylltiad agos gyda athrawon ledled y Sir.
•Datblygu rhaglen addysg a threfnu gweithgareddau yn amgueddfeydd y Sir mewn cydweithrediad a staff Amgueddfa Bangor ac Amgueddfa Lloyd George a'r Swyddog Amgueddfeydd ag Orielau.
•Cydweithio yn y gwaith o farchnata gwasanaeth addysg yr Archifdai ac Amgueddfeydd.
•Cadw treffi ar weinyddiaeth gwaith y gwasanaeth addysg.
•Cyflawni unrhyw dasgau cyffredinol yng19n â rheolaeth yr Adran alr Gwasanaeth ar gais y Prif Archifydd a Swyddog Etifeddiaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-