Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ol brecwast. Golchi’r offer a glanhau’r gegin ar ffreutur.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer
Prif ddyletswyddau
•Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd a Gofal neu’r Dirpwy.
•Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast a gweini’r bwyd.
•Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lan, gan gynnwys y ffreutur.
•Glanhau llawr y ffreutur gan lanhau pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
•Gwneud dyletswyddau cyffrediniol yn y gegin a’r ffreutur, megis golchi llestr, gosod a chlirio dodrefn ffreutur.
•Bydd y Cymorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o’r gegin yn ystod cyfnod brecwast yn absenoldeb y Cogydd.
•Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lan briodol.
•Cydymffurfio a pholisïau Iechyd a Diogelwch a Diolgwlech Bwyd Cyngor Gwynedd.
•Yn cyflawni unrhyw ddelytswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•