Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, o’r radd flaenaf
Egni, brwdfrydedd, ymroddiad a dyfalbarhad
Gallu defnyddio a dehongli gwybodaeth yn gywir
Y gallu i weld anghenion o safbwynt y cwsmer.
Y gallu i ennyn cydweithrediad ac ymddiriedaeth cydweithwyr
Y gallu i weithio fel rhan o dîm a chefnogi ac annog cydweithwyr
Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
Y gallu i addasu, a derbyn newidiadau
Yn talu sylw i fanylder ac yn ymroddedig er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r
ansawdd gorau
Yn bendant, cwrtais, diplomyddol, parchus a sympathetig
Yn hyblyg
Yn meddu ar record bresenoldeb a phrydlondeb da
Y gallu i ddysgu o brofiadau
Yn meddu ar sgiliau amlorchwyl, cadw amser, a blaenoriaethu
Yn cyflwyno delwedd bositif i’r cwsmer
Yn gallu datrys problemau
Yn meddu ar synnwyr digrifwch
Yn daclus bob amser
Y gallu i gydweithio gyda budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.
Yn meddu ar sgiliau rhyngweithio gwych a’r gallu i ffurfio a chynnal perthnasau gweithio.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cefndir addysgol gadarn.
Dymunol
Addysg i safon Uwch
Cymhwyster Goruchwylio neu profiad o oruchwylio.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Y profiad a’r hyder i oruchwylio a datblygu tîm o staff yn effeithiol, gan gynnwys ymdrin â materion staffio cymleth.
Dymunol
Profiad o ddarparu gwasanaethau gofal cwsmer
Profiad o sefydlu a datblygu gwasanaethau newydd
Profiad o weithio yn y rheng flaen
Profiad o ddarparu cefnogaeth glerigol a gweinyddol
Profiad o gasglu, trefnu a rheoli gwybodaeth
Profiad o ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid
Profiad o ymdrin â chwynion, gwrthdaro ac ymholiadau cymhleth a sensitif
Gwybodaeth a phrofiad o weithio o fewn cyfundrefn amlswyddogaethol fawr.
Profiad o fewnbynnu gwybodaeth i gyfrifiadur gan arwain a chefnogi staff eraill.
Profiad o ddarparu gwasanaeth sydd yn rhoi’r cwsmer yn gyntaf
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Ymwybyddiaeth o’r cyfleon y mae technoleg yn ei gynnig i wella darpariaeth
gwasanaeth
Medru defnyddio cyfrifiadur
Yn rhifog ac yn llythrennog
Y gallu i awgrymu a chefnogi gwelliannau i wasanaethau
Y gallu i ddysgu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio
Y gallu i ddarparu cyngor a gwybodaeth yn glir ac yn gryno
Y gallu i ymateb i sefyllfaoedd ac ymholiadau yn gyflym gan ddangos
hyblygrwydd
Yn barod i gymryd cyfrifoldeb am ansawdd y gwasanaeth sydd yn cael ei
gynnig
Yn gallu ac yn fodlon i weithio i safonau a gytunwyd
Yn wrandäwr da
Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur wrth siarad efo cwsmer.
Y gallu i ddefnyddio systemau swyddfa, pecynnau cymhwyso i wasanaethau
penodol, y fewnrwyd a rhyngrwyd
Sgiliau bysellfwrdd da
Dymunol
Y gallu i ddefnyddio unrhyw dechnoleg berthnasol arall
Yn meddu ar sgiliau gweinyddol a chyfundrefnol o’r radd flaenaf
Y gallu i echdynnu gwybodaeth o lawlyfr ac o systemau cyfrifiadurol
Y gallu i flaenoriaethu tasgau personol a rhai’r tîm.
Y gallu i ymateb i adborth gan staff a chwsmeriaid mewn ffordd adeiladol.
Y gallu i ymdrin â chwynion yn effeithiol a gwella safonau’r gwasanaeth a
thargedau.
Y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a theleffon.
Y gallu i weithio fel unigolyn ac fel rhan o dîm.
Y gallu i ddatblygu syniadau creadigol ac arloesol.
Dealltwriaeth o egwyddorion cyfleoedd cyfartal.
Ymwybyddiaeth o anghenion gwahanol gwsmeriaid e.e. anabledd neu
drafferthion ieithyddol.
Y gallu i hwyluso a gwerthuso anghenion hyfforddi a datblygu’r staff.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)