Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu gwasanaeth cyfreithiol i’r Cyngor sydd yn ei alluogi i weithio yn effeithiol er budd pobl Gwynedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•
Prif ddyletswyddau
•Cynghori adrannau'r Cyngor a chleientau eraill ar faterion cyfreithiol o fewn meysydd penodol
•yn ôl y galw mynychu a chynghori pwyllgorau'r Cyngor ar faterion yn deillio o feysydd gwaith penodol deilydd y swydd
•Cynrychioli'r Cyngor a chleientau eraill mewn llysoedd, tribiwnlysoedd, ymchwiliadau a gwrandawiadau ffurfiol eraill, yn ôl y galw ac o fewn meysydd penodol
•Ymdrin â gwaith cyfreithiol yn deillio o feysydd penodol
•Cynorthwyo o bryd i'w gilydd yn ôl y galw â gwaith aelodau eraill o'r uned gyfreithiol
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a roddir i ddeilydd y swydd o bryd i'w gilydd gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
MEYSYDD PENODOL
•Gall y meysydd gwaith penodol amrywio o bryd i'w gilydd. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys y canlynol:
•Ymdrin â materion eiddo gan gynnwys: trawsgludo, prydlesau, trwyddedau, morgeisi, hawddfreintiau, prynu gorfodol (gan gynnwys ymchwiliadau cyhoeddus) a materion yn ymwneud â man-ddaliadau.
•Ymdrin â materion cyfreithiol yn deillio o swyddogaethau datblygu economaidd ac adfywio cymunedol,
•Cymryd achosion meddiant lle bo'n briodol.
•Ymdrin â chontractau am nwyddau a gwasanaethau.
•Cynghori ar faterion tir comin.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-