Swyddi ar lein
Ecolegydd Cynorthwyol
£37,336 - £39,186 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25601
- Teitl swydd:
- Ecolegydd Cynorthwyol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 30/11/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,336 - £39,186 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cynorthwyydd Ecolegol
CYFLOG: PS1 (SCP 29-31) £37,336 - £39,186
Gweithio hybrid – dau ddiwrnod yn gweithio o un o’r swyddfeydd isod
LLEOLIAD: Bangor, Conwy, Halkyn, Llandrindod, Aberaeron, Dolgellau, Newtown
Bydd y Cynorthwyydd Ecoleg yn gyfrifol am gynorthwyo Ecolegydd ACGCC, a'r Tîm Amgylcheddol i
weithredu gofynion polisi Llywodraeth Cymru (LlC) a deddfwriaeth amgylcheddol megis Deddf Cefn
Gwlad a Bywyd Gwyllt 1980 ac Adran 6 Deddf Amgylchedd Cymru. Darparu cyngor a chefnogaeth
ecolegol broffesiynol i ACGCC a'n partneriaid yn ymwneud â'r asesiad effaith a mesurau lliniaru ein
gweithredoedd ar ecoleg a bioamrywiaeth, gan sicrhau fod ACGCC yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth
ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd bioamrywiaeth.
Gweithio o fewn y Tîm Amgylchedd i reoli rhestr eiddo stadau meddal gan gynnwys adnabod lleoliad a
chyflwr yr asedau ecolegol. Cynnig, dylunio a rheoli rhaglen o brosiectau gwella ecolegol wedi'u
datblygu o weithgareddau cynnal a chadw arferol ac ymatebol sy'n gysylltiedig â rheolaeth stadau
meddal ac amgylcheddol. Cynorthwyo’r Timau Ecoleg ac Amgylchedd a staff arall ACGCC i gael
trwyddedau CNC lle bo’r angen a chyflawni unrhyw amodau a gofynion megis arolygon, monitro ac
adrodd i sicrhau cydymffurfiaeth. Gweithio gyda’r Ecolegydd i ddatblygu rhaglen o Drwyddedau
Gwaith ar gyfer Rhywogaethau Gwarchodedig hyd at foddhad CNC. Gweithio gyda'r Ecolegydd a
CNC i ddatblygu system adrodd ar-lein ar gyfer cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau, a gweithio i reoli
prosiectau sy'n gysylltiedig â gwelliant ecolegol a gwaith lliniaruAm sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Hannah Jones ar 07773 616096.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 30/11/2023.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Gallu hunan gymell, ymroi, ac arddangos mentergarwch personol.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda a'r gallu i ddylanwadu a chymell eraill.
Gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau a delio gyda therfynau amser tynn.
Gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth, blaenoriaethu llwyth gwaith personol.
Sgiliau trefnu da, arloesol a blaengar.
Gallu cyfathrebu mewn ffordd gwrtais, dactegol, diplomyddol wrth ddelio gyda materion cynhennus, deall polisïau a chyfyngiadau eraill.
Gallu darparu arweiniad, rheoli, goruchwylio ac arwain ar faterion ecolegol o fewn timau a phrosiectau ACGCC.
Gallu dal ati hefo cyflawni cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol a'r ymarfer ecolegol gorau pan nad yw pob amser yn ddewis poblogaidd ymysg eraill.
Gallu gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth â sefydliadau ac ymgynghorwyr allanol.
Ymroi i gywirdeb a chyflawni tasgau i gyflawni'r canlyniad gorau i'r amgylchedd.
Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus.
Gweithio oriau y tu allan i oriau arferol yn aml, yn ôl y gofyn.DYMUNOL
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu MSc mewn Sŵoleg, Botaneg, Ecoleg neu bwnc ecolegol perthnasol. HNC/HND/NVQ (Lefel 4) mewn pwnc yn ymwneud ag ecoleg, ac o leiaf 5 mlynedd o brofiad perthnasol.DYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol perthnasol e.e. CIEEM.Deilydd Trwydded Rhywogaeth Warchodedig er enghraifft; ystlumod, pathewod, madfallod dŵr cribog.
Wedi cwblhau hyfforddiant mesurau lliniaru rhywogaethau arbenigol.
Wedi cwblhau hyfforddiant Dosbarthiad Cynefinoedd.
Wedi cwblhau hyfforddiant adnabod rhywogaethau.
Wedi cwblhau hyfforddiant Clerc Gwaith Ecolegol neu Amgylcheddol.
Wedi cwblhau hyfforddiant mewn technegau Arolygu Ecolegol.
Mynychu cyrsiau mewn defnydd TG: e.e. Excel, Word, GIS.
Mynychu hyfforddiant mewn Rheolaeth Traffig e.e. Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd Pennod 8 a Chynllun Sector Priffyrdd Cenedlaethol 12D(M7).
Achrediad LISS/CSCS priodol.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o gynnal arolygon ecolegol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.
Deall ecoleg ystod o rywogaethau gwarchodedig cyffredin.
Profiad o adnabod ystod o rywogaethau a chynefinoedd cyffredin y DU.
Wedi bod yn rhan o ddatblygiad mesurau lliniaru a gwaith gwella rhywogaeth neu gynefin.
Profiad o wneud cais a chael trwydded ar gyfer Rhywogaethau a Safleoedd Gwarchodedig.
Dealltwriaeth dda o Ddeddfwriaeth Amgylcheddol berthnasol Cymru/DU yn enwedig ar gyfer Cadwraeth Natur.DYMUNOL
Profiad o ddatblygu mesurau lliniaru a gwella arbenigol ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig.
Profiad o weithio'n llwyddiannus fel ymgynghorydd Ecolegol neu Amgylcheddol ar gyfer prosiectau cynllunio, datblygu, neu isadeiledd.
Profiad fel Clerc Gwaith Ecolegol ar gyfer Prosiectau.
Profiad o weithio gydag eraill i ddatblygu datrysiadau gwrthdaro rhwng ecolegol a pheirianneg neu ofynion eraill.
Profiad o gynnal arolygon Cam 1 ac/neu fapio cynefin UKHabs.
Ystod eang o brofiad mewn rheolaeth ecolegol, amgylcheddol a chynefin.
Profiad gydag Asesiadau Effaith Amgylcheddol ac Asesiadau Rheoliadau Cynefin.
Profiad o ddarparu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer mesurau lliniaru a gwella bywyd gwyllt a chynefin.
Profiad o feddiannu a rheoli cyllidebau.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GiS), dal data yn y maes, dadansoddi a thrin data, cynhyrchu mapiau ac adroddiadau.
Llenyddiaeth TG - defnydd o Word, cronfeydd data a thaenlenni Excel.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau cryno, rheoli a dehongli data.
Gallu craffu adroddiadau a dogfennau a gynhyrchir gan eraill i sicrhau fod y cynnwys yn dderbyniol.
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig datblygedig i gynulleidfa eang. Yn gallu ysgogi ac addysgu eraill.
Sgiliau ymarferol yn adnabod prif grwpiau rhywogaeth a gwybod ble i ddarganfod gwybodaeth bellach.
Sgiliau datrys problemau a darganfod ffyrdd o ddatrys gwrthdaro a chyflawni canlyniadau o safon.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth cadwraeth natur y DU, deddfwriaeth amgylcheddol ehangach, safonau a chanllaw Arfer Dda’r Diwydiant.
Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch.
Trwydded Yrru ddilys gyfredol.DYMUNOL
Gallu cynnal arolygon arbenigol e.e. arolygon botanegol neu rywogaeth benodol fel ystlumod, pathewod, dyfrgwn, moch daear, llygod y dŵr.
Profiad o ddefnyddio amrediad o declynnau adnabod bywyd gwyllt arbenigol megis canfodyddion ystlum neu gamerâu arbrofol.
Profiad o ddefnyddio canllaw cysylltiedig â phriffyrdd e.e. Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.
Profiad o weithio ar brosiectau isadeiledd trafnidiaeth a rheolaeth o'r Stadau Meddal.
ANGHENION IEITHYDDOL
DYMUNOL
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Helpu Ecolegydd NMWTRA, a’r Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i weithredu gofynion polisi Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth amgylcheddol fel Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1980 ac Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
• Darparu cyngor a chymorth ecolegol proffesiynol i NMWTRA a’n partneriaid ynghylch yr asesu, effaith a lliniaru ein gweithrediadau ar ecoleg a bioamrywiaeth, gan sicrhau bod NMWTRA yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd bioamrywiaeth.
• Gweithio gyda’r Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i reoli rhestr eiddo’r ystâd feddal, gan gynnwys nodi lleoliad a chyflwr asedau ecolegol.
• Argymell, dylunio a rheoli rhaglen o brosiectau gwella ecolegol a ddatblygwyd o weithgareddau cynnal a chadw rheolaidd ac adweithiol sy’n gysylltiedig â rheoli’r ystâd feddal a’r amgylchedd.
• Cynorthwyo’r Ecolegydd, y Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol a staff eraill NMWTRA i gael trwyddedau Cyfoeth Naturiol Cymru lle bo angen ac i gyflawni unrhyw amodau a gofynion fel arolygon, monitro ac adrodd, er mwyn sicrhau cydymffurfiad.
• Gweithio gyda’r Ecolegydd i gael trwyddedau rhywogaethau a warchodir a chydsyniadau safle a warchodir a chynnydd o ran datblygu Trwyddedau Rhaglen Waith ar gyfer rhywogaethau a warchodir er boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru.
• Gweithio gyda’r Ecolegydd a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu system adrodd ar gyfer cydymffurfio â thrwyddedau.
• Gweithio gyda’r Ecolegydd i ddatblygu’r System Gwirio Amgylcheddol Cefnffyrdd ymhellach ar gyfer pob graddfa waith i sicrhau bod NMWTRA yn parhau i gydymffurfio â’r gyfraith.
• Gweithio gydag NMWTRA a Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ddatblygu a chyfrannu at Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth ac Adfer Natur.
• Cynnal arolygon safle ac ymweliadau monitro yn ôl yr angen i sicrhau bod staff/partneriaid/ymgynghorwyr NMWTRA a Phrosiectau Mawr Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth, polisi, canllawiau arfer gorau a dogfennau cysylltiedig e.e. CEMP, HEMP, EIA ac ymrwymiadau trwydded Cyfoeth Naturiol Cymru.
• Pennu, rhaglennu a chynnal neu gaffael arolygon ecolegol arbenigol ac ymweliadau monitro ac adrodd arnynt.
• Datblygu cronfeydd data a systemau cofnodi i gasglu gwybodaeth am reoli ac arolygon ecolegol.
• Darparu cymorth ecolegol uniongyrchol a chyngor technegol i dimau Amgylcheddol a Phrosiectau NMWTRA, gan gynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, arolygon ac adroddiadau, cyngor technegol a mynychu cyfarfodydd.
• Gweithio gyda’r Ecolegydd ar Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i reoli prosiectau sy’n ymwneud â gwelliannau ecolegol a gwaith lliniaru.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Camera Thermol ac ysbienddrych un-llygad – trefnu gwasanaethu a graddnodi o bryd i’w gilydd
• Synwyryddion ystlumod – trefnu gwasanaethu a graddnodi o bryd i’w gilydd
• Camerâu prawf
• Endosgopau ar gyfer arolygon ystlumod
• Ysbienddrych
• Tabled / gliniadur
• Ffôn symudol
• Rheoli asedau amgylcheddol a systemau cofnodi Llywodraeth Cymru ac NMWTRA
Prif Ddyletswyddau.
Rheolaeth• Darparu cymorth ecolegol uniongyrchol i staff NMWTRA gan gynnwys timau Cynnal, Arolygu a Phrosiect gan gynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, arolygon ac adroddiadau, cyngor technegol a bod yn bresennol mewn cyfarfodydd.
• Dirprwyo ar ran yr Ecolegydd neu aelodau eraill o’r Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol pan fo angen.
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (contractwyr arbenigol ac ymgynghorwyr / dylunwyr fel Noddwr Prosiectau)
• Gweithredu fel ‘Clerc Gwaith Ecolegol’ ar brosiectau NMWTRA i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r fanyleb ac yn unol â gofynion y drwydded.
• Rheoli perthnasoedd a chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid amgylcheddol.
• Cynorthwyo a chynghori’r Tîm Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd a Llywodraeth Cymru ynghylch gwelliannau i reoli bioamrywiaeth, tirwedd neu’r amgylchedd.Swyddogaeth Arolygon Ecolegol ac Amgylcheddol
• Cynnal arolygon ecolegol arbenigol o’r ystâd feddal ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol ag arferion Da’r Diwydiant a thrwyddedau priodol sy’n cael eu dal.
• Trefnu arolygon a rheoli cofnodion ar gyfer rhywogaethau a warchodir, peillwyr a chysylltu â chyrff ac arbenigwyr allanol
• Pan fydd angen arolygon arbenigol ychwanegol, ond nad oes arbenigedd ar gyfer y rhywogaeth neu’r grŵp neu’r cynefin ar gael gan staff NMWTRA, llunio briffiau a chaffael arbenigwyr arbenigol i gynnal arolygon ecolegol neu samplu a chyngor.
• Nodi, asesu risg a blaenoriaethu diffygion o ran asedau ecolegol a chynefinoedd.
• Helpu’r Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i arolygu a rheoli’r ystâd feddal gan gynnwys coed pan fo angen.
• Helpu i reoli arolygon ecolegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
• Pan fydd diffygion blaenoriaeth uchel yn cael eu gweld, rhowch wybod i Dîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol NMWTRA, y Tîm Gweithrediadau a’r Timau Rheoli Llwybrau (fel y bo’n briodol) cyn gynted ag y bo’n ymarferol er mwyn gallu cywiro’r rhain.
• Cysylltu â thirfeddianwyr neu randdeiliaid (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, sefydliadau cadwraeth neu Awdurdodau Lleol) ynghylch materion amgylcheddol sydd wrth ymyl y gefnffordd.
• Cynorthwyo’r Heddlu, cyrff gorfodi a’r tîm Hawliadau Trydydd Parti drwy ymchwilio i honiadau o lygredd, difrod neu aflonyddwch i ecosystemau neu rywogaethau a warchodir.Swyddogaeth Cynnal a Chadw a Gwella
• Rheoli’r gwaith o gaffael, comisiynu a gweithredu swyddogaethau cynnal a chadw rheolaidd ac adweithiol sy’n gysylltiedig â’r ystâd feddal, er enghraifft:
• Rhaglen flynyddol ar gyfer rheoli asedau ecolegol e.e. goleuadau ystlumod, ffensys bywyd gwyllt, mesurau lliniaru bywyd gwyllt arbenigol.
• Cynorthwyo a darparu cymorth rheoli digwyddiadau brys i’r gwasanaethau brys ac NMWTRA os bydd digwyddiad o ymwneud â llygredd neu fywyd gwyllt.
• Rheoli gwaith atgyweirio diffygion a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn y cyllidebau sydd ar gael a chyfyngiadau gofod ffyrdd.
• Darparu cymorth i dimau NMWTRA a'r gadwyn gyflenwi i reoli’r risgiau o niweidio neu aflonyddu ecosystemau.
• Cefnogi'r Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i gyflawni amcanion bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru a mentrau Gweinidogol (e.e. Coridorau Gwyrdd) a’r Cynllun Adfer Natur i fodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
• Helpu i reoli Cronfa Ddata Risg Amgylcheddol NMWTRA.Swyddogaeth Rhestr Eiddo
• Gweithio gydag eraill yn y Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i ddatblygu systemau i gofnodi rhestr o asedau ecolegol, canfyddiadau arolygon a data rheoli o fewn systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
• Gweithio gydag eraill yn y Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i gynnal archwiliadau ac arolygon o’r ystâd feddal gyda phwyslais penodol ar yr asedau bioamrywiaeth fel blychau ystlumod, ffensys bywyd gwyllt, twneli moch daear, gaeafgysgu yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ac ymrwymiadau eraill.Cyffredinol
• Goruchwylio a darparu arweiniad ar waith a wneir gan ddarparwyr gwasanaeth.
• Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau a chyrff allanol eraill.
• Delio â chwynion ac ymholiadau mewn modd cwrtais a phroffesiynol pan fyddant allan ar y safle ac yn y swyddfa.
• Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill NMWTRA, y Cyngor ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrywyddo rheolaeth effeithiol o NMWTRA.
• Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol a chymesur eraill sy’n cyfateb i lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd fel sy’n ofynnol gan y rheolwr llinell.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
• Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm arolygu, gan gynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel sefydledig ac asesiadau risg gweithredol, er enghraifft.
• Sicrhau bod prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu hystyried yn llawn ym mhob agwedd ar waith gwasanaeth amgylcheddol megis rheoli traffig.
• Cyfrifoldeb pob gweithwr yn yr Asiantaeth yw cydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel sy’n cael eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
• Sicrhau bod polisïau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaeth a pholisïau amgylcheddol yn cael eu dilyn yn gywir.
• Ymgymryd cyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithio â Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol.
• Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
• Sicrhau y cydymffurfir â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Bod yn gyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon, ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y Cyngor.
• Cyflawni unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n cyfateb i lefel a chyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gofyniad i weithio oriau sydd y tu allan i oriau gwaith arferol (07:00 tan 18:00 yn unol â’r cynllun oriau hyblyg) yn ôl y gofyn, er enghraifft gwaith gyda’r nos i gynnal arolygon ystlumod a / neu arolygiadau penwythnos o fewn rheoli traffig.
• Gofyniad y bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y galw. Gweithio tuag at gael trwyddedau rhywogaethau a warchodir os oes angen.
• Mynychu cyfarfodydd achlysurol mewn rhannau eraill o’r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).