Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo Adrannau’r Cyngor gyda chynlluniau datblygu eiddo o bob math.
•Asesu opsiynau, llunio briff a chomisiynu timau technegol, lle bo’r angen, i redeg prosiectau adeiladu.
•Llunio rhaglenni I’r cleient a rheoli cyllidebau prosiectau.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer diogelwch personol
•Offer mesur Disto
•Gliniadur
•Ffôn symudol (Cyfanswm gwerth dros £500)
Prif ddyletswyddau
•Y swyddog client yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar unrhyw brosiectau ar ran y cleient
•Gweithredu ar ran y Gwasanaethau fel Cleient ar brosiectau megis:
•Adeiladau newydd, estyniadau neu waith adnewyddu
•Cynlluniau arbed Ynni ac Ynni Adnewyddol
•Cynlluniau peirianneg sifil syml
•Cynlluniau amgylcheddol Datblygu Economaidd
•Ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Cynnal a Chadw (Rôl 2) ar gyfer adeiladau newydd neu rhai wedi’i adfer yn sylweddol.
•Cyfarfod y cleient a’u cynrychiolydd i lunio briff dylunio am waith adeiladwaith cyfalaf (estyniad i Ysgol ayyb) fel y cam gyntaf o’r prosiect adeiladu
•Llunio briff cynhwysfawr ar gyfer prosiectau yn seiliedig ar ofynion y cleient , polisïau’r Cyngor a’r Llywodraeth.
•Sicrhau fod prosiectau adeiladu yn cyd-fynd a phob deddfwriaeth technegol a iechyd a diogelwch gan gynnwys materion yn ymwneud a chynllunio a rheoliadau adeiladu
•Ymgynghori’n eang gyda defnyddwyr adeiladau ar bob lefel er mwyn llunio briff cynhwysfawr
•Gweithredu fel rheolwr prosiect ar gynlluniau cyfalaf gan sicrhau fod pecynnau gwaith timau technegol yn rhedeg yn esmwyth ac yn unol ag amserlen y prosiectau
•Gweithredu fel Uwch Gyflenwr ar brosiectau cyfalaf mawr gan gadeirio grwpiau Uwch Gyflenwyr
•Trefnu, mynychu, a chadeirio, paneli defnyddwyr pan yn ymgynghori.
•Cwblhau taflenni Gwybodaeth asedau ar ddiwedd unrhyw waith ar adeilad.
•Penodi ymgynghorwyr ac aelodau timau technegol ar sail gwerth gorau i’r Cyngor.
•Defnyddio fframweithiau contractwyr ac ymgynghorwyr
•Rhedeg proses PQQ ar gynlluniau sylweddol
•Bod yn bwynt cyswllt rhwng y cleiant ar ymgynghorwyr o gychwyn y prosiect
•Datblygu rhaglen ag amserlen o bob cam o’r project o wneud y briff i waith adeiladu, fel bod y cleient yn ymwybodol o’r drefn y prosiect.
•Cyfathrebu’n effeithlon gyda’r cleient gydol y prosiect. Adrodd I’r Bwrdd Prosiect yn rheolaidd a diweddaru’r holl defnyddwyr yn gyson ac mewn modd sy’n ddealladwy iddynt.
•Darparu dogfennau a briffiau a’u hanfon allan am brisiau cystadleuol gan ymgynghorwyr allanol , Penseiri, peirianwyr, syrfewyr meintiau ac yn y blaen
•Llunio ceisiadau grant a bidiau cyfalaf ar gyfer cynlluniau cyfalaf, gan gynnwys ymgynghori a llunio briff cynhwysfawr i dderbyn prisiau cystadleuol gan benseiri/ymgynghorwyr mewnol ag allanol ar gyfer trefnu cynllunio gwaith
•Cyfrannu at y broses o gyflwyno ceisiadau am gymorthdaliadau i wireddu prosiectau ym maes adeiladau ac eiddo.
•Cynghori a datrys problemau mynediad a defnydd adeilad / adnodd ar gyfer defnyddwyr ac anawsterau hygyrchedd a Sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 yng nghyswllt mynediad i adeiladau
•Proffilio gwariant cyfalaf yn chwarterol dros y flwyddyn ariannol gan reoli’r gyllideb o fewn y proffiliau hyn.
•Ymgymryd a dyletswyddau’r Cleient o dan reolau CDM 2015 ar bob prosiect.
•Sicrhau fod datblygiadau yn cydymffurfio a gofynion BREEAM pan yn berthnasol, ac yn cydymffurfio ac amodau cyllido
•Cyd-weithredu ac ymgynghori gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch y Gyfadran a Corfforaethol yng nghyswllt adnabod materion a sefyllfaoedd o risg gan weithredu fel ag y bo’n briodol
•Gweithio o fewn a sicrhau fod y rheolwyr safle/penaethiaid yn gweithredu gyda gofynion HSE a pholisïau'r Cyngor
•Gweithio o fewn canllawiau flwyddyn ariannol
•Monitro gwariant cynlluniau cyfalaf gan ymgymryd â’r cyfrifoldeb o gyd-gordio'r drefn adrodd ar gynnydd y rhaglen honno.
•Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad
•Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldeb a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data”.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol yn unol â chais y rheolwr llinell.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd disgwyl i deilydd y swydd gymryd rhan yn y cynllun darparu gwasanaeth tu allan o oriau neu pan fo argyfwng ac achosion penodol yn codi sydd angen ymateb brys.