Nodweddion personol
Hanfodol
Arweiniad a gweledigaeth
Hyblygrwydd, brwdfrydedd a gweithiwr tîm
Sgiliau cyfathrebu geiriol ac ysgrifenedig ardderchog.
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid mewn iaith glir, cywir a hawdd ei deall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau trefnu effeithiol
Gwydn, dibynadwy a hyblyg
Yn medru uniaethu’n dda gyda phobl o bob oed, cefndir a gallu
Trwydded yrru ac yn meddu ar gar neu’n medru darparu car ar gyfer busnes sy’n gysylltiedig â’r swydd
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Addysg i lefel ‘A’ neu gyffelyb
Dymunol
Addysg hyd at Radd neu gyffelyb
NVQ lefel 3 neu 4 mewn Gofal Cymdeithasol neu Dai
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn sefydliad cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr
Profiad o weithredu gweithdrefnau
Profiad o weithio mewn partneriaeth
Profiad o weithio ar eich liwt eich hun, cynllunio a monitro cynnydd eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser
Dymunol
Profiad o waith yn y maes Tai Cefnogol a/neu Gofal Cymunedol
Profiad o weithio gyda, a dealltwriaeth o anghenion cefnogaeth tai pobl fregus
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth am gyfrifoldebau yr adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r gyfundrefn Grant Cefnogi Tai
Gallu i flaenoriaethu gwaith a chyrraedd targedau o fewn amserlenni tynn.
Sgiliau rhyngbersonol da.
Tystiolaeth o weithio ar eich liwt eich hun.
Sgiliau da mewn ysgrifennu adroddiadau
Gallu ymchwilio, casglu a dadansoddi data.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sectorau statudol a gwirfoddol.
Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft neu debyg
Dymunol
Datblygu prosiect
Rheoli cronfa-ddata
Cyflwyno adroddiadau
Cynhyrchu cynlluniau strategol
Cadeirio cyfarfodydd
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).