Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 – 16 oed ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio yn ysgolion a chanolfannau arbenigol Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynwysiad.
Gweithredu’r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda’r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.
I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth Uwch/Athro/awes Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio. Bydd yr holl ddyletswyddau a amlinellir o fewn y swydd ddisgrifiad yn cael eu gweithredu o dan reolaeth a goruchwyliaeth athro/awes.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Ffôn symudol.
• Gliniadur
• Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
• Offer TGCh i gefnogi dysgu’r disgyblion
Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogaeth i Ddisgyblion
• Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio, Uwch Seicolegydd Addysgol a Therapydd Iaith a Lleferydd, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh.
• Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau’r Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio (h.y. Canolfannau Anhwylder Iaith a Chanolfannau Cyfathrebu Cymdeithasol) am gyfnod penodol o dan Arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio, Uwch Seicolegydd Addysgol a Therapydd Iaith a Lleferydd, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh.
• Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Arbenigol am gyfnodau byr pan fo’r Athrawes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Fforwm Ardal.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion
• Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Cyfathrebu a Rhyngweithio ac asiantaethau eraill perthnasol.
• Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda’r disgyblion sydd yn cael sylw gan y Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio.
• Cefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion arbennig ac yn arbennig anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.
• Defnyddio TGChyn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r disgyblion a chydweithwyr.
• Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.
• Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â’u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.
• Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.
Cefnogaeth i Athrawon
• Ymweld ag ysgolion i gefnogi disgyblion ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.
• Cefnogi mynediad disgyblion i ddysgu drwy ddefnyddio strategaethau sydd wedi eu profi i fod yn effeithiol o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol.
• Gweithio gyda staff eraill megis athrawon arbenigol, seicolegwyr addysgol a therapyddion i gynllunio, arfarnu ac addasu deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo’n briodol.
• Monitro a gwerthuso ymateb a chynnydd disgyblion yn erbyn cynlluniau gweithredu drwy arsylwi a chofnodi.
• Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd â staff eraill, cyfrannu at arolygu systemau/cofnodion fel bo’r gofyn.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau yn y maes hwn.
• Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg a’r Athrawon Arbenigol o fewn y TîmCyfathrebu a Rhyngweithio.
• Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr, gan gyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth i bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.
• Cefnogaeth glerigol/weinyddol, e.e. ymdrin â gohebiaeth, casglu/dadansoddi/adrodd gwybodaeth berthnasol, gwneud galwadau ffôn, ayyb.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• Cynllunio a Gweithredu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu cytûn, gan addasu gweithgareddau yn ôl ymateb/anghenion y disgyblion.
• Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i’r disgyblion i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.
• Penderfynu’r angen am offer, cynlluniau ac adnoddau arbenigol i gefnogi disgyblion, eu paratoi a’u defnyddio.
Cyffredinol:
• Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynwysiad.
• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
• Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin