Pwrpas y Swydd.
• Cefnogi darpariaeth effeithlon Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yng Ngogledd Cymru
• Helpu i ddiogelu buddiannau'r awdurdod arweiniol (Cyngor Gwynedd) wrth gyflwyno'r rhaglen.
• Sicrhau bod pobl rhanbarth Gogledd Cymru yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer swyddfa fel cyfrifiadur, ffôn, ac ati.
Prif Ddyletswyddau.
• I gefnogi y datblygiad a gweithrediad prosesau a systemau i sicrhau bod yr UKSPF yn cael ei gyflwyno’n effeithlon yng Ngogledd Cymru a fydd yn buddsoddi £126.46 miliwn ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam erbyn mis Mawrth 2025.
• Cefnogi a diogelu buddiannau Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer cyflwyno’r Fframwaith yng Ngogledd Cymru – a buddiannau pob un o’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru – drwy sicrhau bod yr UKSPF yn cael ei gyflwyno’n effeithlon yn unol â’r rheolau, rheoliadau a gofynion cytundebol Llywodraeth y DU a'r holl rwymedigaethau cyfreithiol
• Cefnogi datblygiad a gweithrediad prosesau a systemau effeithlon sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno'r UKSPF yng Ngogledd Cymru (gan gynnwys ceisiadau, gwneud penderfyniadau, dewis prosiectau, dyfarniadau cyllid, hawliadau, ac ati)
• Cefnogi cyflwyno'r prosesau sy'n ofynnol o dan y cytundeb cyfreithiol rhwng y siroedd unigol a Chyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol.
• Cydweithio gyda thimau Cyfreithiol a Chyllid Cyngor Gwynedd yn ôl yr angen i weinyddu'r UKSPF yng Ngogledd Cymru
• Gweithio’n agos gyda thimau UKSPF lleol yn y chwe awdurdod i gyflwyno’r rhaglen yn llwyddiannus
• Cefnogi a gweinyddu'r strwythurau llywodraethu sy'n gysylltiedig â'r UKSPF yng Ngogledd Cymru.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol yn unol â'r galw.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.