NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
•Gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei ben/phen ei hun.
•Hunan-ysgogiad.
•Hyderus, brwdfrydig ac yn dangos menter.
•Personoliaeth bywiog, diplomyddol a chroesawgar.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
•Meddu â phrofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant
oTystysgrif CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
oCGC Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar / Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
oTystysgrif Lefel 2 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
oCymhwyster perthnasol arall neu
oParodrwydd i weithio tuag neu’n gweithio tuag at yr uchod
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am wybodaeth o’r Cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru:
DYMUNOL
•Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
•Amddiffyn Plant.
•Codi a Thrin.
•Tystysgrif Cymorth Cyntaf.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
•Profiad o ddarparu addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
•Dealltwriaeth o’r mathau o ffactorau sy’n effeithio ar fywydau plant a’u teuluoedd.
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu.
•Gwybodaeth am y Dechrau’n Deg, Cwricwlwm i Gymru, Chwarae a’r Cynnig Gofal Plant
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
•Gwybodaeth drylwyr am yr arfer orau wrth ofalu am blant hyd at 11 oed.
•Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal dydd i blant oed ysgol.
•Gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau.
•Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyfle cyfartal.
•Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant a’r gallu i fodloni anghenion plant unigol gan ddangos ystod eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol.
DYMUNOL
•Sgiliau cyfrifiadurol da.
•Trwydded yrru gyfredol lawn.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).