Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau trefniadau gorfodaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfer gwasanaethau stryd a rheoli gwastraff.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Bod yn gyfrifol am staff hyd at 5 Warden Gorfodaeth ac offer sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd (e.e. cyfrifiaduron llaw - ble’n briodol, camerâu, cyfarpar cyfathrebu a, lle bo’n berthnasol, cerbydau’r Cyngor).
Prif Ddyletswyddau.
• Arwain ar waith sy’n gysylltiedig â strategaethau a pholisïau perthnasol i Gorfodaeth Stryd.
• Gweithredu pwerau Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a deddfwriaeth gysylltiedig eraill perthnasol i wasanaethau stryd a rheoli gwastraff.
• Arwain a rheoli gwaith y Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd a Diogelu Mannau Cyhoeddus
• Ymchwilio a chasglu tystiolaeth am achosion perthnasol, e.e. gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, camddefnydd o’r gwasanaeth casglu gwastraff masnachol a domestig a throseddau amgylcheddol eraill.
• Monitro defnydd a wneir o’r gwasanaeth masnachol gan fusnesau er sicrhau cydlyniad ar y cytundebau masnachol gyda’r Cyngor.
• Cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodol, ysgrifenedig neu drwy ddefnyddio cyfrifiaduron llaw, yn unol â chyfarwyddiadau, gweithdrefnau a’r canllawiau cyfredol.
• Paratoi ffeiliau achos a dogfennaeth eraill berthnasol i erlyniadau am droseddau amgylcheddol a diffyg talu dirwyon. Mynychu gwrandawiadau dyfarnu fel tyst ar ran y Cyngor fel bo’r gofyn a fydd, efallai, yn gynnwys dystiolaeth ysgrifenedig.
• Rheoli’r rhaglen gosod a chynnal arwyddion rheolaethol/codi ymwybyddiaeth trwy’r Sir.
• Arwain ar waith partneriaethu gan weithio gyda sefydliadau allnol e.e. Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth y Cynulliad, Cadw Cymru’n Daclus, Cynghorau Cymuned..
• Bod yn bersonol ddestlus ac ymddangos yn broffesiynol, sicrhau y gwisgir yr iwnifform bob amser ar ddyletswydd a’i bod yn cael ei chynnal yn lân ac yn daclus.
• Gweithredu a chynnal systemau ar gyfer prosesu cwynion (e.e. Ffos), dirwyon, cynnal gwybodaeth a mesur perfformiad (e.e. Nifer o ddirwyon ac erlyniadau, FlyMapper, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth).
• Comisiynu a chydgordio gwaith ymatebol, gan gynnwys y defnydd o’r gwasanaeth Glanhau Strydoedd, Tîm Tacluso Ardal Ni, ymgymerwyr mewnol ac allanol drwy’r Sir.
• Cyfrannu at brosiectau eraill perthnasol at wella ansawdd yr amgylchedd lleol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn gynnwys ymgyrchoedd Marchnata a Chodi Ymwybyddiaeth. (e.e. Menter Caru Cymru, Ymgyrchoedd Ysbwriel, Baw Cŵn a Taclo Tipio Cymru)
• Paratoi gwybodaeth, gohebiaeth, cofnodion ac adroddiadau perthnasol i’r maes.
• Cwblhau dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gydnaws a statws y swydd.
• Bod yn ymwybodol o ofynion Deddf Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau bod yr Uned yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol.
• Dyletswyddau eraill sy’n berthnasol i’r swydd, yn ôl galw'r Rheolwr Gwasanaethau Stryd.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol a safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth a deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd gofyn achlysurol i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, e.e. yn ystod y cyfnodau brig, ar benwythnosau, gwyliau banc ac efallai y bydd raid gweithio oriau ychwanegol neu newid patrymau gwaith er mwyn sicrhau y bydd digon o adnoddau ar gael i foddhau gofynion gorfodaeth.
• Trwydded yrru gyfredol lawn a dilys.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.