Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)
Dim hanes o afiechyd sy’n gysylltiedig â bwyd (gweler Holiadur ar Tud D-7 o
Lawlyfr y Gegin)
Dymunol
Hunan ysgogol, personoliaeth hapus
Gwybodaeth o fwyd iach a maethlon
Bod yn gymdeithasol a dangos parch tuag at eraill
Ymddangosiad glân a thaclus
Safon dda o lendid personol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol
Cymhwyster diet a maeth neu ymrwymiad i basio cwrs Lefel 2 o fewn 3 mis o’r penodiad
Dymunol
Cymhwyster goruchwylio staff
Cymhwyster coginio
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio
Hyfforddiant mewn sgiliau gweini bwyd
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu gymorth cyntaf
Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn cegin fasnachol neu gegin debyg i gegin ysgol
Dymunol
Profiad o weithio mewn amgylchedd cynhyrchu bwyd
Profiad o archebu bwyd a rheoli stoc
Profiad o weithio yn unol â systemau sicrwydd ansawdd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Profiad o weithio fel rhan o dîm a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn grŵp.
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Sgiliau marchnata bwyd
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.