Swydd Ddisgrifiad
Cymhorthydd Addysgu
Lefel 2
Aelod o’r Tîm ADY
Rheolwr Cyswllt: Cyd-gysylltydd ADY, Dirprwy Bennaeth Cynhwysiad, Pennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog: Graddfa GS3 pwynt 5-6
(pwynt cyflog cychwynnol £16,063.93)
Cytundeb: Parhaol – 32 awr / 39 wythnos
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib
Cyfrifoldebau Penodol i’r Maes Arwain:
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli’r ysgol; ac unrhyw gais rhesymol gan y Pennaeth.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i addysgu.
• Cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan pob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
• Dysgu Braille. Pan yn cymhwyso bydd y swydd yn newid i Gymhorthydd Addysgu Lefel 3.
Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:
Cefnogaeth i Ddisgyblion:
1. Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i
weithgareddau dysgu.
2. Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
3. Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu CDU, CAU, RhCB, rhaglenni a/neu gais gan asiantaethau allanol.
4. Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
5. Dan arweiniad yr athro/athrawes darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
6. Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
7. Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio ag eraill.
Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes:
1. Gweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
2. Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
3. Gweithio â’r athro i rannu cynlluniau tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a
adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
4. Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm:
1. Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
2. Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
3. Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth bwrpasol.
4. Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
Cefnogaeth i’r Ysgol:
1. Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data a chydymffurfio â hwy gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol.
2. Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol yn cynnwys y Polisïau Cynhwysiad a Dwyieithrwydd.
3. Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
4. Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd ein hun a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
5. Ar gais, mynd gyda athrawon a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro..
Dyddiad - Gorffennaf 2020
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Willams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda’r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. yshopen@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
Dydd Iau, 28ain o Fedi 2023 am 10:00yb.
Dyddiad Cyfweld:
I’w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.