Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I roi cefnogaeth i’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau fod Adrannau yn cydymffurfio gyda gofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch trwy gynghori, gwaith awdit ag archwilio, yn ogystal a gweithio ar brosiectau eraill gan y Rheolwr Gwasanaeth yn ôl yr angen.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau Iechyd a Diogelwch adrannau yn ôl angen.
•Gweithredu fel aelod o fforymau iechyd a diogelwch yn ôl angen.
•Cynnal ymweliadau â safleoedd gwaith i fonitro cydymffurfiaeth ag anghenion iechyd a diogelwch.
•Cynorthwyo’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr Adrannau’n cydymffurfio gyda gofynion Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Cynorthwyo gyda datblygu, gwireddu a chynnal systemau rheoli iechyd a diogelwch ar gyfer adrannau perthnasol yn unol â chanllawiau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
•Cynorthwyo gydag archwiliadau yn unol â chanllawiau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
•Paratoi a chynnal gwybodaeth, gohebiaeth, cofnodion ac adroddiadau yn amserol, yn unol ag anghenion Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
•Cynorthwyo gyda pharatoi a datblygu cynlluniau ar gyfer contractau penodol.
•Cyfrannu at brosiectau corfforaethol / gwaith mewn adrannau eraill yn ôl angen (megis sustem rheoli iechyd a diogelwch; awditau, bas data asesu risg a sustem gweithio unigol) yn ôl gofyn Rheolwr Iechyd a Diogelwch.
•Darparu arweiniad a chynhaliaeth mewn perthynas ag adnabod ac asesu risg drwy :
oDdarparu modelau o asesiadau generig perthnasol.
oCyfrannu at hyfforddiant perthnasol.
oGwirio asesiadau risg a gynhyrchwyd gan yr unedau.
oCynorthwyo gyda gweithrediad a monitro’r bas data asesiadau risg
oCyfrannu at sefydlu a gweithredu cyfundrefn ar gyfer monitro.
•Cynorthwyo i amlygu anghenion hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer staff a’r gweithlu a ble’n briodol, ymgymryd â hyfforddi staff.
•Cynorthwyo’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch i gynnal ymchwiliadau i ddamweiniau a sefyllfaoedd o berygl.
•Cofnodi gwybodaeth fanwl ar y drefn adrodd damweiniau i Gyrff Statudol ac i lunio ystadegau damweiniau yn ôl y galw.
•Cydlynu a threfnu cyfarfodydd, megis Fforymau Iechyd a Diogelwch.
•Gosod rhaglenni, darparu cofnodion a dosbarthu gwybodaeth berthnasol y cyfarfodydd amrywiol.
•Gweithredu ar ran yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch perthnasol yn ei absenoldeb.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
•Ar rai achlysuron bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol.