Pwrpas y Swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Yn aelod o dîm Desg Gymorth Technoleg Gwybodaeth Cyngor Gwynedd.
•Pwynt cyswllt rheng flaen y gwasanaeth dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb
•Cyfrifol am dderbyn, ymateb, datrys ac esgoli ceisiadau am gymorth technoleg
•Cofnodi a diweddaru system asedau.
•Cynghori/hyfforddi staff ar ddefnydd a newidiadau cyfarpar a systemau TG
•Darparu’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i reoli’r cysylltiadau rhwng technoleg gwybodaeth a gweddill y Cyngor – o ganfod problem hyd at ei datrys. Datrys problemau fel bo’n briodol a rheoli agweddau o reoli newid, problemau a ffurfwedd
•Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwella Gofal Cwsmer
•Bod yn gyfrifol am sicrhau bod offer a sustemau TGCh y Cyngor yn gweithio bob amser.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Addysgu a rhoi arweiniad rheolaidd i aelodau iau o staff
Cyllid:
•Bod â mewnbwn i waith adolygu prosesau er mwyn canfod ffordd o weithio’n fwy cost-effeithiol.
Data/Offer/Meddalwedd:
•Rhoi cefnogaeth ar gyfer y maes TGCh sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i gymwysiadau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
•Rheoli’r gwaith o ddatrys materion sy’n cael effaith ar holl sustemau TGCh y Cyngor. Yn nodweddiadol bydd yn cymryd cyfrifoldeb am faterion sy’n cael effaith ar ddefnyddwyr unigol ac nifer o ddefnyddwyr.
•Cysylltu gyda chyflenwyr allanol i ddatrys materion.
Prif Ddyletswyddau.
Gwneud Penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Derbyn galwadau ffôn ac e-byst oddi wrth staff y Cyngor ynghylch problemau.
•Categoreiddio a chofnodi’r broblem, ymdrin â hi a (lle bo’n briodol) ei datrys.
•Gweithio ar sail rota i wasanaethu’r ddesg gymorth sydd ar agor yn ddyddiol o 08:00 tan 17:00 (Llun i Gwener)
•Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn sicrhau y cyrhaeddir targedau lefel gwasanaeth.
•Rhoi cymorth technegol mewn meysydd penodol i eraill yn y tîm.
•Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
•Gwneud penderfyniadau ar y ffordd orau i ddatrys materion a all gael effaith ar nifer o ddefnyddwyr.
•Mewnbwn i’r strategaeth TGCh. Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
•Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
•Ymdrin â nifer fawr o alwadau, yn aml iawn dan bwysau mawr i ddelio gyda galwadau sy’n rhoi gwybod am faterion sy’n rhwystro nifer fawr o ddefnyddwyr rhag gwneud eu gwaith (ar brydiau, yn rhwystro adrannau cyfan/y Cyngor yn ei gyfanrwydd).
•Angen medru ymdrin, gyda chydymdeimlad, â staff mewnol sy’n cael trafferth oherwydd bod sustem wedi methu.
•Rheoli disgwyliadau cwsmeriaid.
•Rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf yn gryno i ddefnyddwyr ar statws eu problem.
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at y rheolwyr.
•Cofnodi problemau a’u deall yn glir trwy holi defnyddwyr.
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
•Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr.
•Mynychu a roi mewnbwn i gyfarfodydd ar ddatblygiadau technegol ar gyfer datrys problemau.
•Yn deall y broblem a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn ei datrys fel bod modd rhoi gwybod i’r uwch reolwyr am y sefyllfa.
•Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer defnyddwyr ac eraill yn yr adran technoleg pan fo newid ar y gweill.
Arall:
•Yn medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
•Yn medru defnyddio offer a thechnegau cydnabyddedig.
•Yn medru datrys tasgau safonol ond golyga gwybodaeth eang am dechnoleg a’r gallu i feddwl yn arloesol bod modd datrys problemau nad ydynt yn rhai safonol.
•Medru llunio adroddiadau er mwyn olrhain statws problemau.
•Yn medru gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
•Yn medru dadansoddi tueddiadau ac adnabod problemau sy’n ailgodi dro ar ôl tro.
•Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
•Disgwyliad i fynychu hyfforddiant allanol er mwyn ennill cymwysterau proffesiynol
•Peth gwaith corfforol yn codi a chario cyfarpar TG megis cyfrifiaduron
Cyffredinol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes Technoleg gwybodaeth sy’n faes eang ac yn esblygu’n ddyddiol
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol a’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau y Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.