Swyddi ar lein
Swyddog Grantiau a Phrosiectau
£32,909 - £34,723 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2026
- Cyfeirnod personel:
- 23-25329-H3
- Teitl swydd:
- Swyddog Grantiau a Phrosiectau
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Tai a Llesiant
- Dyddiad cau:
- 12/10/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2026 | 37 Awr
- Cyflog:
- £32,909 - £34,723 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Lleoliad - I'w gadarnhau
Fodlon ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Craig Jones drwy e-bost craigjones@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffon 01758704116
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 05/10/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Y gallu I gyfathrebu yn hyderus gyda amrywiaeth o wahanol bobl. Y gallu I weithio yn effeithiol fel rhan o dîm.Dymunol
-Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
HNC mewn Adeildwaith neu bwnc arall perthnasolDymunol
Gradd neu gyfartal mewn maes perthnasol i DaiPROFIAD PERTHNASOL
Hanfodol
-Dymunol
Profiad yn y maes tai/adeiladwaithSgiliau a gwybodaeth arbenigolSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
Hanfodol
Yn cyfathrebu’n effeithiol a rhwydd. Y gallu i drefnnu a chynllunio tasgau a llwyth gwaith yn effeithiol.Dymunol
Dealltwriaeth o dechnoleg Gwybodaeth/CADANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth grantiau a benthyciadau yn effeithiol ac effeithlon i drigolion yr Ardal yn unol a pholisiau a threfniadau’r Cyngor.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-.
Prif ddyletswyddau
•Cynghori’r cyhoedd ar y gwasanaeth grantiau a benthyciadau perthnasol i Tai Sector Breifat, a’u hy Cynorthwyo gyda rheoli a datblygu gweithdrefnau'r Cyngor i sicrhau Cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch mewn perthynas ag eiddo'r sector preifat.
•Cynnal archwiliadau eiddo manwl yn y sector preifat, ar ôl ymgynghori â pherchennog(ion) / defnyddwyr yr adeilad.
•Dehongli'r data mewn atgyfeiriad gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol a / neu therapyddion galwedigaethol ysbyty, a defnyddio'r wybodaeth hon i gynnal archwiliad cyflwr o'r eiddo i ddarganfod dichonoldeb y gwaith..
•Dehongli'r data mewn cyfeiriadau gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol a / neu therapyddion galwedigaethol ysbyty, a defnyddio'r wybodaeth i helpu i lunio cynigion ar gyfer yr addasiadau lles gofynnol.
•Creu cynigion drafft mewn perthynas â'r gwaith addasu arfaethedig i annog trafodaeth bellach gyda'r partïon perthnasol dan sylw.
•Arwain a chynghori ynghylch yr ateb mwyaf rhesymol ac ymarferol i ddiwallu'r anghenion a amlygir yn y cyfeiriad.
•Sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u dyletswyddau mewn perthynas â gofynion iechyd a diogelwch.
•Sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad (au) galluogi cynnar sy'n gyfrifoldeb arnyn nhw i weithredu arnynt, a'c i monitro eu bod yn gwneud y gwaith i safon benodol ac amserol.
•Sicrhau bod sustemau gwybodaeth y Cyngor yn cael eu diweddaru wedi i unrhyw waith gael ei wneud ar eiddo'r sector preifat, fel eu bod yn gyfredol
•Comisiynu gwaith, gan dimau eraill o fewn y Cyngor, a / neu gan ymgynghorwyr allanol.
•Paratoi manylebau gwaith, dyluniadau ac apwyntio contractwyr a neu ymgynghorwyr, yn unol â'r dulliau caffael y cytunwyd arnynt gan yr Adran Grantiau a Phrosiectau Tai.
•Comisiynu ymgynghorwyr i ychwanegu gwerth pan fo’r angen. Dadansoddi argymhellion yr ymgynghorwyr, dod i gasgliadau a gweithredu’n briodol.
•Archwilio gwaith i sicrhau ei fod yn cwrdd â anghenion/safonau, yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch ac yn cynrychioli gwerth am arian gan gynnwys ymgymryd â rôl clerc gwaith ar rhai cynlluniau.
•Dilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynu a rheoli contractwyr
•Cynghori contractwyr ar safleoedd ynglŷn â beth i’w wneud pan fo problemau yn dod i’r amlwg gyda’r gwaith / eiddo.
•Dehongli gwybodaeth a thrafod a chytuno ar y trywydd gorau o ran gweithredu.
•Comisiynu contractwyr gan ddilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynu a rheoli contractwyr.
•Tynnu ar gefnogaeth sy’n ychwanegu gwerth os nad ydy’r sgiliau a’r wybodaeth ganddo’ch i ddatrys y materion eich hun.
•Dod i ddeall y galw am y gwasanaeth drwy dystiolaeth.
•Gweithredu ar y dystiolaeth i wella a datblygu’r system a newid natur y galw.
•Adnabod rhwystrau i ddarparu gwasanaeth effeithiol a chost effeithlon a chefnogi cael gwared â’r rhwystrau.
•Sicrhau bod ansawdd yn rhan greiddiol o bob cam o’r gwaith.
•Delio gyda, ac archwilio holl anfonebau gan gontractwyr a dilyn prosesau gweithredu cyllidol y Cyngor.
•Cymryd penderfyniadau ar sail arbenigedd yn y gwaith.
•Sicrhau bod gwaith yn cael ei gynllunio a’i gyflawni i safon uchel o ran diogelwch.
•Cynghori’r cyhoedd ar y gwasanaeth grantiau a benthyciadau perthnasol i Tai Sector Breifat, a’u hysbysu o’u cymhwyster am gymorth.
•Prosesu ceisiadau am grantiau cyflesterau ir anabl, yr Asantiaeth Grantiau, chynlluniau benthyciadau Tai Sector Breifat a chynlluniau rheoli prosiectau, gan gynnwys archwilio cynlluniau, amcangyfrifon a gweinyddu a phrosesu ceisiadau ar ran yr ymgeiswyr.
•Ymgymryd â'r holl ddyletswyddau technegol sy'n berthnasol i'r gwasanaethau grantiau cyfleusterau anabl, benthyciadau a chynlluniau rheoli prosiect, sy'n cynnwys - Cynnal arolwg cychwynnol; darpar a datblygu cynlluniau drwy ddefnyddio rhaglen cyfrifiadurol ‘Revit‘; paratoi rhaglenni gwaith / dogfennau tendro; trefnu cytundebau muriau cyd; darparu a cyflwyno ceisiadau cynllunio a / neu rheoliadau adeiladu, ac adeiladu dros / neu yn agos i garthffos yn ôl yr angen - Trefnu arolygon asbestos - Penodi asiantwyr / ymghynhowyr allanol yn ôl y gofyn – Gweinyddu contractau - Cynhyrchu a datblygu ffeiliau iechyd a diogelwch eiddo yn ystod ac ar gwblhad gwaith- Cynhyrchu a datblygu pecynnau gwybodaeth cyn Adeiladu.
•Cynnal archwiliadau Eiddo manwl o dai annedd er mwyn sefydlu gwir gyflwr ac anghenion buddsoddi nawr ac yn y dyfodol.
•Comisiynu ymgynghorwyr i ychwanegu gwerth pan fo’r angen. Dadansoddi argymhellion yr ymgynghorwyr, dod i gasgliadau a gweithredu’n briodol.
•Archwilio gwaith i sicrhau ei fod yn cwrdd â safonau, yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch ac yn cynrychioli gwerth am arian gan gynnwys ymgymryd â rôl clerc gwaith ar rhai cynlluniau.
•Dilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynu a rheoli contractwyr.
•Dehongli gwybodaeth a phenderfynu ar y trywydd gorau o ran gweithredu.
•Comisiynu contractwyr gan ddilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynu a rheoli contractwyr.
•Tynnu ar gefnogaeth sy’n ychwanegu gwerth os nad ydy’r sgiliau a’r wybodaeth ganddo’ch i ddatrys y materion eich hun.
•Dod i ddeall y galw am y gwasanaeth drwy dystiolaeth.
•Gweithredu ar y dystiolaeth i wella a datblygu’r system a newid natur y galw.
•Adnabod rhwystrau i ddarparu gwasanaeth effeithiol a chost effeithlon a chefnogi cael gwared á’r rhwystrau.
•Sicrhau bod ansawdd yn rhan greiddiol o bob cam o’r gwaith.
•Ymdrin ag anfonebau gan gontractwyr a dilyn prosesau gweithredu cyllidol y Cyngor.
•Cymryd penderfyniadau ar sail arbenigedd yn y gwaith
•Arwain ar waith uwchraddio tai er mwyn eu paratoi i fod yn barod i’w gosod i denantiaid.
•Rhedeg prosiectau adeiladu ar safle gan gymryd gofalaeth o’r prosiect o sefydlu’r briff hyd cwblhau y gwaith ar safle.
•Sicrhau fod tai yn cydymffurfio gyda’r holl ystod o ofynion statudol yn y maes tai gan gynnwys yr amrywiol reoliadau iechyd a diogelwch.
•Darparu cefnogaeth prosiect, gwybodaeth dechnegol a'r holl weithgareddau cynllun prynu a datblygu tai perthnasol sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Strategaeth Tai, fel yr uchod.Darparu Cymorth prosiect a gwybodaeth dechnegol i'r tîm cartrefi gwag a grantiau cysylltiedig.
•Delio â'r holl weithgareddau sy'n berthnasol i'r Asiantaeth Grantiau.
•Ymweld â safleoedd a thrafod gydag asiantau, ymgymerwyr a pherchnogion / tenantiaid ar fanylion a safon y gwaith.
•Cynorthwyo i brosesu ceisiadau am daliadau sy'n gysylltiedig â gwaith grant a benthyciadau.
•Bod yn rhan o'r broses o reoli a monitro'r broses berfformiad yn unol â gofynion y swydd.
•Gweithredu rhaglen cynnal a chadw ar gyfer safle sipsiwn sydd o dan berchnogaeth y Cyngor.
•Cydlynu ag adrannau eraill y Cyngor ac asiantaethau allanol i brosesu grantiau.
•Darparu adroddiadau rheolaidd am wariant ac ymrwymiadau cyllidebol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
•sbysu o’u cymhwyster am gymorth.
•Prosesu ceisiadau am grantiau cyflesterau ir anabl, yr Asantiaeth Grantiau, chynlluniau benthyciadau Tai Sector Breifat a chynlluniau rheoli prosiectau, gan gynnwys archwilio cynlluniau, amcangyfrifon a gweinyddu a phrosesu ceisiadau ar ran yr ymgeiswyr.
•Ymgymeryd ar holl ddyletswyddau technegol sy’n berthnasol i gwasanaethau grantiau cyfleusterau’r anabl, benthyciadau a chynlluniau rheoli phrosiectau.
•Ymdrin ar holl weithgareddau angenrheidiol perthnasol ir Asiantaeth Grantiau.
•Ymgymeryd ag ymweliadau safle a chyd-drafod ag asiantwyr, ymgymerwyr a phrechnogion/tenantiaid ar fanylion a safon y gwaith
•Cynorthwyo i brosesu ceisiadau am daliadau yn gysylltiedig a gwaith grant a benthyciadau
•Bod yn rhan o’r broses rheoli a monitro perfformiad yn unol a gofynion y swydd.
•Gweithredu rhaglen cynnal a chadw ar gyfer safle sipsiwn sydd o dan berchnogaeth y Cyngor.
•Cyd-gysylltu gyda adrannau eraill o’r Cyngor a chyda asiantaethau allanol ar gyfer prosesu granti
•Darparu adroddiadau rheolaidd ynglyn a gwariant ac ymrwymiadau cyllidol.
•Ymgymryd a chyfrifoldebau eraill yn berthnasol i anghenion y gwasanaeth, fel y cyfarwyddir gan y rheolwr llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio oriau tu allan i oriau gwaith ar rhai achlysuron, megis mynychu Pwyllgorau’r Cyngor neu gyfarfodydd gyda thrigolion, ymgeiswyr neu bardneriaid perthnasol.