Swyddi ar lein
Gweithiwr Arweiniol Cymorth Ieuenctid 16-25 oed
£30,151 - £32,020 y flwyddyn | Dros dro 31/12/2024
- Cyfeirnod personel:
- 23-25322
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Arweiniol Cymorth Ieuenctid 16-25 oed
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Gwasanaeth Ieuenctid
- Dyddiad cau:
- 01/09/2023 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/12/2024 | 37 Awr
- Cyflog:
- £30,151 - £32,020 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Lleoliad:- I'w Gadarnhau
"Ariennir y swydd hon gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin"
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Bethan Eluned Jones unai drwy e-bost bethanelunedjones@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 07717864951
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 01/09/2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
•Gallu i weithio yn dda a chreu perthynas gadarn gyda pobl ifanc, yn enwedig rheiny nad ydynt wedi eu hysgogi i ymgysylltu
•Gallu i fod yn hyblyg a creadigol yn eu ffordd o weithio ac wrth ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc
•Gallu i arddangos empathi a gallu i wrando ar anghenion unigolion a gweithredu i ymateb
•Gallu i weithio oddi fewn i ffiniau proffesiynol
•Gallu i eirioli ar ran unigolion bregus
•Yn dda am rwydweithio a sefydlu partneriaethau effeithiol
•Yn gallu paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli adnoddau ar gyfer unrhyw brosiect/rhaglen
•Gallu i hunan-reoli a chynllunio rhaglen waith oddi fewn i nod ac amcanion ac amserlenni prosiect
•Gallu i weithio fel rhan o dim a sefydlu a chynnal perthnasau cefnogol gyda cydweithwyr a phartneriaid
•Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, ac o dan gyfarwyddyd y Rheolwr / Tîm darparu y prosiect
•Gallu i weithio ar liwt ei hunDYMUNOL
•Gallu i wneud penderfyniadau a bod yn heriol, mentrus a parod i weithredu.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
•Cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. Os nad oes gennych y cymhwyster yma, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio tuag at cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid yn ystod cyfnod y swydd.
•Profiad eang o gyflwyno rhaglenni hyfforddiant achrededig.
•Gwybodaeth am gynlluniau achredu gan gyrff allanol (e.e. Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin).
DYMUNOL
•Cymhwyster neu yn gweithio tuag at gymhwyster Asesu Achrediadau
•Wedi hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a’r 5 Ffordd at Les
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
•Profiad o weithio un i un hefo pobl Ifanc bregus, wedi dadrithio, heb eu hysgogi, sy’n wynebu rhwystrau cymhleth ar lefel un i un/neu ar lefel grŵp.
•Profiad o weithio gyda pobl ifanc sydd a pryderon llesiant a iechyd meddwl, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol.
•Profiad o weithio gyda grwpiau o bobl ifanc
•Profiad o gyflwyno rhaglenni addysgol i bobl ifanc
•Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau
•Y gallu i adeiladu perthynas dda gyda pobl ifancDYMUNOL
•Profiad mewn gweithredu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch
•Profiad o ddefnyddio technegau cymhelliant i weithio / cefnogi pobl ifanc
•Profiad o rwydweithio, negydu gyda ystod eang o bartneriaid a gwasanaethau arbenigol yn y maes ymgysylltiad pobl ifanc
•Profiad o hyrwyddo llesiant emosiynol ac iechyd meddwl da ymysg pobl ifanc
•Dealltwriaeth o model Iechyd Cyhoeddus Cymru – Y 5 Ffordd at Les
•Dealltwriaeth o sut i gefnogi a hyrwyddo Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl da ymysg pobl Ifanc
•Profiad o dracio cynnydd ac adrodd ar ganlyniadau
•Tystiolaeth o lwyddiant wrth weithio gyda pobl ifanc mewn sefyllfa addysg anffurfiol
•Profiad helaeth mewn cyflwyno rhaglenni achrediadau mewn cyd destunSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
•Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
•Sgiliau trefnu a gweinyddu da
•Gallu i weithio gyda pobl Ifanc
•Gallu cynnal a gwarchod cyfrinachedd cleientiaid a delio’n briodol gyda gwybodaeth sensitif a bersonol.
•Gallu i weithio yn annibynol, yn hyblyg ac yn fentrus
•Gallu i ysgogi, cadw, datblygu a chefnogi aelodau staff, pobl Ifanc, ac oedolion
•Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Cyfle Cyfartal ac Amddiffyn Plant ac Oedolion
•Dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad.
•Ymwybyddiaeth gryf o faterion sydd yn effeithio pobl ifanc a’r gallu i ddarparu cefnogaeth addas a phwrpasol iddynt
•Sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i ddelio gyda llwyth gwaith
•Y gallu i weithio yn greadigol i Gwricwlwm Gwaith Ieuenctid
•Y gallu i ddatrus problemau
•Y gallu i gyflawni i amserlen gwaith penodol
•Y gallu i ddysgu sgiliau newydd yn gyflymDYMUNOL
•Profiad o weithredu polisiau Iechyd a Diogelwch
•Dealltwriaeth gyfoes o’r agenda NEET ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol
•Gallu cynnig technegau cyfweliadau cymhelliant
•Gwybodaeth o ddarpariaethau yn y trydydd sector ac yn y sector addysg a hyfforddiant ar gyfer y grŵp cleient
•Gwybodaeth o systemau lles / budd-daliadau y Ganolfan Byd Gwaith
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOLGWRANDO A SIARAD - LEFEL UWCH
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.DARLLEN A DEALL - LEFEL UWCH
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.YSGRIFENNU - LEFEL UWCH
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud
•Cefnogi pobl ifanc 16-25 a dargedir drwy’r Fframwaith Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid ar sail unigol a mewn grŵp, drwy Wynedd.
•Cynllunio, cydlynu a darparu rhaglen o weithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc. Gyda ffocws ar ddeilliannau; perthnasau positif; datblygiad cymdeithasol, emosiynol a phersonol y person ifanc; llesiant emosiynol a iechyd meddwl da, er mwyn eu paratoi i symud ymlaen at eu cam nesaf mewn cyflogaeth, hyfforddiant, addysg neu gyfleoedd eraill.
•Adeiladu rhwydweithiau eang fel bo modd datblygu’r gwaith yma i’r eithaf.
•Cydweithio gyda gweddill Tim y Gwasanaeth Ieuenctid i sicrhau fod y gwaith cymorth ieuenctid yn pontio’n esmwyth ar draws unedau, a’n bod yn cael y deilliannau gorau i’r pobl ifancCyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau.
•Cyfrifoldeb am offer ar gyfer gweithgareddau gyda defnyddwyr gwasanaeth ac offer personol (TGaCH)
•Llofnodi, monitro, darparu a rheoli arian mân i gleientiaid - os oes angen.Prif Ddyletswyddau. .
•Cynnig rhaglen eang o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio o gwmpas model y 5 Ffordd at Les. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau llythrennedd emosiynol; meithrin perthnasau iach, cefnogaeth lletya a byw’n annibynnol, achrediadau Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin a chyfleoedd gwirfoddoli, prosiectau yn y gymuned.
•Gweithio ar sail unigol a mewn grŵp gyda pobl ifanc 16-25 i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, emosiynol, personol a sgiliau sylfaenol.
•Derbyn cyfeiriadau drwy drefniadau y Fframwaith Ymgysylltiad Ieuenctid o bobl ifanc i ymgysylltu a hwy ar gyfer cynnig / derbyn cefnogaeth.
•Darparu'r swyddogaeth froceriaeth ac eiriolaeth i’r bobl ifanc sy’n dymuno ymgysylltu gyda’r gwasanaeth.
•Cefnogi Pobl Ifanc 16-25 i ddatblygu cynllun gweithredu personol; cyflawni nodau’r cynllun personol a’u cefnogi gyda goroesi rhwystrau rhag cyflawni (ee heriau personol, cyfnodau trosiannol, cyfnodau trosglwyddo allweddol ac ati).
•Gweithio'n agos gyda phartneriaid/sefydliadau (ee Gwaith Gwynedd, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gyrfa Cymru, Ganolfan Fyd Gwaith, Diogelwch Cymunedol, Cymdeithasau Tai, mudiadau trydydd sector) ar gyfer cyfeirio / tynnu darpariaeth ynghyd all fod o fudd i ddatblygiad person ifanc.
•Darparu gweithgareddau ymgysylltu a gwaith estyn allan i geisio gwneud cyswllt gyda, ac annog pobl ifanc 16-25 oed a dargedir drwy’r Fframwaith Ymgysylltiad Ieuenctid i ymgysylltu gyda’r gwasanaeth,
•Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, a rheoli adnoddau ar gyfer eu rhaglen waith / gweithgareddau a ddarperir.
•Hyrwyddo, darparu, a datblygu ystod o gyfleon dysgu a chyfleon achredu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, sy’n addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc.
•Sicrhau bod data personol, gwybodaeth a cofnodion clir a chywir o waith yn cael ei fwydo i’r system reoli gwybodaeth.
•Mynychu, cyfrannu a chymryd rhan lawn mewn cyfarfodydd sy’n berthnasol i’r swydd; y gwasanaeth a’r maes yn ôl yr angen.
•Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth.
•Cydlynnu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid, Hawliau’r Plentyn.
•Paratoi adroddiadau cynnydd yn cynnwys monitro a thracio cynnydd a deilliannau pobl ifanc; cyflawniad yn erbyn targedau rhaglenni gwaith / cynlluniau busnes / arian grant yn ôl y galw.
•Gweithredu a glynu at weithdrefnau diogelu wrth weithio gyda phobl ifanc.
•Sicrhau bod Llais y Person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu.
•Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor.
•Gweithredu fel Rheolwr Safle ar gais y Rheolwr.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb. · Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrinAmgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nôs ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl, yn ôl yr angen.
Bydd angen i chi weithio ar draws y Sir