Swyddi ar lein
Uwch Gymhorthydd Gofal Plas Y Don
£24,496 - £26,845 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 23-25276-H3
- Teitl swydd:
- Uwch Gymhorthydd Gofal Plas Y Don
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Gwasanaethau Darparu
- Dyddiad cau:
- 12/10/2023 12:12
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro blwyddyn | 37 Awr
- Cyflog:
- £24,496 - £26,845 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Cartref Plas y Don, Pwllheli
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â un o’r isd;
Nia Thomas ar NiaThomas@gwynedd.llyw.cymru
Sara Owen ar sarawowen@gwynedd.llyw.cymru
Catherine Margaret Ellis ar Catherinemargaretellis@gwynedd.llyw.cymruNeu 01758 612123.
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 12/10/2023
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Cyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant
Y gallu i weithio fel rhan o dim aml-ddisgyblaeth
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion.
Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol
Ddim yn farnwr
Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno
Yn gallu defnyddio’ch dychymyg i gysylltu’n emosiynol ag eraill
Gwerthfawrogi gallu’r unigolyn
Gallu gwneud y gorau o’r amser y mae’n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a’r unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth
Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol
Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill
Y gallu i fod yn hyblyg
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
NVQ 2/QCF lefel 2 iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 3 iechyd a Gofal Cymdeithasol
neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig i gwblhau lefel 3
iechyd a gofal Cymdeithasol.
Os efo Lefel 3 ymrwymiad i weithio tuag at i lefel 4,
Ymarfer proffesiynol
paratoi i arwain a Rheoli mewn iechyd a gofal
Dymunol
Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal
dealltwriaeth o anghenion gofal cymleth
champion mewn maes arbenigol
Iosh
Lefel 2 ILM
Goruchwylio
Rheoli Safle
Mentora a chymhellaint
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o fod wedi gweithio / cefnogi unigolion i fyw eu bywydau fel maent yn
dymuno
Profiad o gyd weithio fel rhan o dîm
Dymunol
Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol Profiad o weithio oddi mewn tîm
proffesiynol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o gefnogi unigolion ac anghenion cymhleth.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu a chofnodi da, yn barchus ac yn onest.
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Sgiliau TG
Profiad o weithio oddi mewn tîm proffesiynol.
Yn sensitif i deimladau eraill
Gallu dangos dyfeisgarwch
Y Gallu i greu perthynas dda gydag aelodau eraill o staff ac unigolion
Gwybodaeth a sgiliau i’w cefnogi mewn gweithgareddau byw bob dydd
Dymunol
Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodol
Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2014 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol ‘Regulation and inspevtion of social care wales2016
Meddu ar drwydded yrru ddilys (gofal cartref)
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd maent eisiau ei fyw.
•Cefnogi i sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I I gydymffurfio a holl ofynion Deddf Gofal 2016
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff – cefnogaeth i’r Rheolwr cofrestredig
•Disgwyliad i ddeilydd y swydd weithio fel rhan o dim drwy gefnogi cydweithwyr.
•Cyllid –cefnogi’r tîm gydag defnydd effeithlon o adnoddau igyfrannu at reoli cyllidebau yneffeithiol
•Offer – cyfrifoldeb am unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni’r swydd. Cyfrifoldeb dros asesu a lle bo’n briodol archebu offer addas yn unol â dyletswyddau ‘Trusted Assessor’.
Prif ddyletswyddau
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
•Rhagori mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
•Bod yn arloesol a chreadigol wrth roi gofal mewn ffordd sy'n cynnwys pobl yn llawn, sy'n ymdrechu'n barhaus i gynnwys pobl yn y gweithgareddau symlaf hyd yn oed ac sy'n galluogi neu'n ail-alluogi pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain.
•Hyrwyddo hawliau'r unigolyn, ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
•Dilyn a datblygu staff i ddilyn ethos sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth. Gall hyn olygu gweithredu dulliau fel Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support),
•Cydweithio gydag unigolion a’r tim i gefnogi amrediad o wasanaethau i gwrdd ag amcanion personol.
•Cyfrannu, Datblygu a monitro’r cynllun gofal ar y cyd gyda’r unigolyn, hyn i’w hyrwyddo a’i annog i fyw eu fywyd mor llawn a phosilb trwy wneud defnydd o unrhyw Adnoddau a gweithgareddau ar gfel yn y gymuned.
•Bydd angen ystyried y risgau a chwblhau’r dogfennaeth perthnasol, yn cynnwys asesiadau risg
•Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag anghenion defnyddiwr y gwasanaeth. Gall y gweithredoedd yma gynnwys cymeryd rhan mewn rhaglenni, ymarferion ac ymyrraethau penodol.
•Gweithio gyda phobl i helpu a nodi rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau, a defnyddio gwybodaeth i drafod gyda’r tîm ehangach, rhoi newid ar waith a dysgu o brofiad.
•Bod yn flaengar ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, tra hefyd yn cymhwyso barn broffesiynol a gwybod pryd i ddenu cefnogaeth gan y tim ehangach a phroffesiynau eraill.
•Arbenigo a dylanwadu mew maes arbennigol.
•Datblygu a chydweithio gyda’r tîm Rheoli yn y cartref, i sicrhau cydymffurfiaeth a threfniadau gwaith.
•Cyfrannu at y broses o asesu monitro chynllunio a gweithredu, arferion gwaith yn y cartref
•Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith gweinyddol sy’n berthnasol i’r rôl gan gynnwys cofnodi ac adrodd yn unol â’r canllawiau a osodir gan y Rheolwr ar ran Cyngor Gwynedd.
•Cynorthwyo gydag phenodi ag anwytho staff newydd, gan sicrhau bod dadleniad DBS priodol
•Cefnogi gyda cynllunio rotas a threfniadau yn y cartref yn absenoldeb y rheolwr a’r is reolwr
•Gweithredu a chynnal systemau IT.
•Sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw drefniadau rheoli risg â adnabyddir mewn asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith.
•Adnabod anghenion nad ydyw’n bosib eu diwallu, cofnodi cyd weithio gyda’r tîm iw datrus.
•Arwain ag Ymateb i sefyllfa argyfwng yn ymwneud a’r defnyddwyr a’r adeilad
•Angen bod yn gymmwys i ymgymryd a monitro a thasgau iechyd
Cofrestriad, Hyffforddiant ac goruchwiliaeth
•Cofrestru a Chynorthwyo gyda’r drefn cofrestru staff a’i bod yn cael eu dilyn , yn unol a gofynnion Gofal Cymdeithasol Cymru. A bod y staff yn ymwybodol o’r cod profesiynnol.
•Cefnogi gyda goruchwylio staff yn effeithiol yn unol a rheoliadau RISCA gall gynnwys monitro llwyth gwaith yr aelod staff. Adolygu Perfformiad blynyddol yn unol a pholisi’r Cyngor. I oruchwilio yn ymarferol dangos i’r staff
•Cefnogi gyda hyfforddi staff iddynt gael y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith gan ddiweddaru eu rhaglen hyfforddi
•Cynnal a chefnogi gyda’r drefn o weinyddu a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi’r gwasanaeth ac mewn cydweithrediad a’r fferyllfa lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Bod yn gefnogaeth i staff.
•Cefnogi gyda cymhwysterau meddiginiaeth staff
•Bod yn barod i ymgymryd a rôl ‘champion’ i’r gwasanaeth ac i arbennigo mewn maes fydd yn cefnogi’r gwasanaeth, ac yn rol arweiniol fydd yn datblygu staff eraill
Cyfathrebu a pherthnasau
•Mynychu cyfarfodydd staff , gan gymerid rôl arweinol pan fydd y gofyn.
•Gweithio mewn partneriaeth â chydweithywr ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsus seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi, meddygon teulu a phartnertiad 3ydd sector.
•Mynychu adolygiadau amlddisgyblaethol.
•Cefnogi a chynorthwyo gyda’r broses yn dilyn cwynion a chanmoliaethau,
•Cefnogi gyda chofnodi trefniadau absenoldebau salwch staff yn unol a polisiau’r gwasanaeth/adnoddau Dynol.
•Ymarfer mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
•Rhoi ystyriaeth i risg, diogelu ac amddiffyn oedolion. Delio ac unrhyw bryderon amddiffyn oedolion yn brydlon a phriodol drwy ddilyn y weithdrefn a gytunwyd a hysbysu’r swyddogion proffesiynol perthnasol heb oedi.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•CYFRIFOLDEBAU ERAILL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
•Disgwyliad i weithio y tu hwnt i ffiniau ardal waith yn achlysurol -
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota ac i weithio dros benwythnosau
•Cynorthwyo a chefnogi gyda’r drefn ’Ar Alwad’ pan fydd angen
•MAE DISGYWLIAD I FOD YN BAROD I SYMUD A GWEITHIO MEWN GWASANAETH/MAES GWAHANOL MEWN ARGYFWNG