Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo gyda threfniadau a gweithgareddau’r gegin ac yn absenoldeb y Cogydd(es) a’r Cogydd(es) Cynorthwyol paratoi coginio a chyflwyn prydau yn unol a’r bwydlenni. Cyflawni dyletswyddau domestig a glanhau cyffredinol gan ddefnyddio’r holl offer glanhau sydd ar gael.
•Cyflawni dyletswyddau cyffredinol yn yr ystafell fwyta neu yn y gegin h.y. gosod/clirio byrddau, cludo prydau i’r ystafell fwyta, golchi llestri, gweini prydau a gwneud te o bryd i’w gilydd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb i ddefnyddio holl offer sy’n gysylltiedig a’r gegin yn ofalus ac yn ddiogel gan bysbysu’r Cogyd(es) a/neu’r Rheolwr Cofrestredig o unrhyw wendid yn yr offer ac adeilad y gegin.
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn cadw eu hurddas, annibyniaeth a’u hawliau ar bob achlysur. Rhan annatod o hyn yw sicrhau fod y defnyddwyr yn cael cyfle i ddewis eu bwyd pob dydd ac yn cael mewnbwn i’r math o fwyd a ddarperir.
•Sicrhau fod yr holl dasgau a gyflawnir yn cael eu gwneud yn unol a’r ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol a pholisiau a chanllawiau’r Cyngor.
•Yn absenoldeb y cogydd(es) a’r cogydd(es) cynorthwyol archebu, paratoi, coginio a chyflwyno bwyd meithlon a blasus ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn amgylchedd glan gan gydymffurfio a’r canllawiau perthnasol.
•Yn absenoldeb y cogydd(es) a’r cogydd(es) cynorthwyolcynllunio a dilyn bwydlen gan gynnwys rheoli maint y prydau yn unol â’r canllawiau perthnasol a dymuniad defnyddwyr y gwasanaeth.
•Mynychu hyfforddiant perthnasol i’r swydd.
•Mynychu cyfarfodydd staff.
•Cofrestru gyda’r Cyngor Gofal yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
•Cydymffurfio gyda’r gofynion perthnasol o’r Ddeddf Safonau Gofal 2000.
•Cytuno i unrhyw archwiliad meddygol y bernir ei fod o fudd i’r gweithiwr a/neu’r gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-