Swyddi ar lein
Rheolwr Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol
£47,573 - £49,590 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-25215
- Teitl swydd:
- Rheolwr Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 27/07/2023 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £47,573 - £49,590 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolaeth Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol
CYFLOG: PS7 - £47,573 - £49,590
Oriau - 37 awr
(Gweithio’n Hybrid)Lleolir y swydd yn un o’r swyddfeydd isod:-
Parc Menai / Conwy / Helygain / Llandrindod / Aberaeron / Drenewydd/ Dolgellau
Mae’r swydd cyffrous yma yn rhoi y cyfle i chi weithio dau ddiwrnod o’r swyddfa a tri diwrnod yr wythnos o’ch cartref.
Pwrpas y swydd ydi cefnogi'r Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol a chynghori Tîm Rheoli Asiantaeth a staff ar faterion amgylcheddol fel Rheolaeth Amgylcheddol, Newid Hinsawdd, Gwella bioamrywiaeth a hybu arloesedd amgylcheddol ynghyd a chwarae rhan flaenllaw yn sicrhau bod ACGChC yn cyflawni eu rhwymedigaethau dan y Cytundeb Rheoli Asiantaeth Llywodraeth Cymru a Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Ian Hughes ar 01286 685188.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 10.00 yb DYDD IAU, 27 Gorffennaf.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu arwain ac ysgogi tîm i gyflawni canlyniadau da
Gallu gweithio dan bwysau.
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun.
DYMUNOL
Gallu arwain a rheoli staff iau
Gallu ysgogi eraill
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gyfwerth briodol (Lefel 6) mewn pwnc technegol perthnasol
DYMUNOL
Ôl-radd mewn pwnc perthnasol
Aelodaeth Gorfforaethol (e.e. Siartredig) o gorff proffesiynol priodol.
Hyfforddiant Rheoli Prosiectau
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
Hyfforddiant rheoli. (ILM 3 neu uwch neu gyfwerth)PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o reoli staff/tîm mewn rôl uwch swyddog.
Profiad o reoli gweithgareddau cynnal a chadw amgylcheddol.
Profiad o reoli prosiect a rheoli cyllid.
Rheoli contract a gweinyddol.
Profiad o baratoi a darparu adroddiadau i amrywiaeth o gynulleidfaoeddDYMUNOL
Profiad o weithio gydag adrannau priffyrdd Awdurdod Lleol.
Profiad o weithio â systemau technegol sy’n gysylltiedig ag isadeiledd priffyrdd.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth gadarn o ddeddfwriaeth Amgylcheddol cyfredol
Gallu i ddarparu cyfeiriad strategol a chyngor ar faterion newid hinsawdd
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith tîm, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon.
Sgiliau rhyngbersonol cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu a chyflwyno da.
Sgiliau TG da
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau.
Gallu cydlynu’n effeithiol a rheoli cyflwyno rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth, gan sicrhau fod gwerth am arian a chydymffurfiaeth gydag anghenion y cynulliad yn cael eu cyflawni.
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
Trwydded yrru ddilys gyfredol.DYMUNOL
Dealltwriaeth benodol o feddalwedd TG a ddefnyddir i reoli asedau amgylcheddol.
Dealltwriaeth drylwyr o’r prosesau gofynnol er mwyn ymgymryd â swyddogaethau dirprwyedig ar ran Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun Deddf Priffyrdd a deddfwriaeth berthnasol arall.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â rheoli'r amgylchedd.
Gwybodaeth am arfer gorau Rheoli Traffig.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol.
GOFYNION IAITH
Gwrando a siarad - Cymraeg yn ddymunol
Darllen a deall - Cymraeg yn ddymunol
Ysgrifennu - Cymraeg yn ddymunol
Dylid disgrifio'r nodweddion hynny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Dylid defnyddio'r rhain fel meini prawf asesu ar gyfer pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
1. Cefnogi'r Rheolwr Busnes a Gweithrediadau Statudol a chynghori Tîm Rheoli Asiantaeth a staff ar faterion amgylcheddol
2. Rheoli a darparu arweinyddiaeth gyda ffocws ar gyfer y Tîm Rheoli Amgylcheddol
3. Rheolaeth Amgylcheddol - Arwain y Tîm Rheoli Amgylcheddol mewn ymrwymo eu swyddogaethau Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, ac adran Dylunio, Adeiladu, Cyllido a Gweithredu'r A55 (DBFO) ar draws Ynys Môn. Rheoli'r System Asiantaeth Rheoli Amgylcheddol (EMS) sydd wedi'i hachredu i ISO 14001.
4. Newid Hinsawdd - Arwain ar ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer yr Asiantaeth gyda golwg ar gyrraedd targedau strategaeth carbon niwtral Llywodraeth Cymru erbyn 2030.
5. Darparu WGMAA/WGTRMM - Sicrhau bod ACGChC yn cyflawni eu rhwymedigaethau dan y Cytundeb Rheoli Asiantaeth Llywodraeth Cymru a Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.
6. Gwella bioamrywiaeth - Datblygu a chyflwyno Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ACGChC yn unol â gofynion LlC sydd wedi eu gosod yn y Cynllun Adfer Natur.
7. Arloesedd - Hybu arloesedd amgylcheddol o fewn ACGChC a'i gadwyn gyflenwi
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Goruchwylio a rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr y sector preifat (35+ mewn nifer)
• Cerbydau fflyd y Tîm Amgylcheddol (8)
• Gliniadur, ffôn symudol ac offer arbenigol e.e camera isgoch (£30k+)
• 18 Staff - Ecolegwyr (2), Cydlynwyr Amgylcheddol (2) Swyddogion Amgylcheddol (4) Cydlynydd Coedyddiaeth, Tyfwr Coed (6) Rheolwr Prosiect a Rhaglen Amgylcheddol
Prif Ddyletswyddau
Newid Hinsawdd
Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i adfer sector gyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a chydlynu gweithredu i gynorthwyo ardaloedd eraill o'r economi i symud i ffwrdd o danwydd ffosil, yn cynnwys academia, diwydiant a'r trydydd sector. Mae wedi cyhoeddi 'Ffyniant i Bawb: Cymru Garbon Isel", sy'n gosod 100 o bolisïau a chynigion i gyrraedd y targedau allyriadau carbon erbyn 2020.
Mae LlC hefyd wedi cyhoeddi yn 2021 "Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru" sy'n cyflawni i leihau allyriadau trafnidiaeth fel rhan o ymdrechion i daclo'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae trafnidiaeth yn ychwanegu at 17% o allyriadau carbon Cymru.
Fel sefydliad sector gyhoeddus, mae ACGChC angen datblygu a gweithredu strategaeth i gyrraedd y targed di-garbon erbyn 2030 sydd wedi ei osod gan LlC. Hefyd, mae bod yn Asiant o Lywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb o reoli a chynnal a chadw'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) angen cyfrannu'n effeithiol tuag at ddarparu'r dyheadau sydd wedi eu gosod yn "Llwybr Newydd."
Bydd disgwyl i’r darparwr ddatblygu strategaeth effeithiol i sylfaenu ôl troed carbon ACGChC, adnabod meysydd allweddol ar gyfer lleihau carbon a datblygu cynllun gweithredu i ddarparu lleihad carbon er mwyn cyrraedd y targed di-garbon erbyn 2030. Bydd rhaid i'r rôl hybu a chydlynu mentrau newid hinsawdd a thywys rheolwyr uned eraill i gyflwyno ar y strategaeth.
Mae disgwyl i'r rôl hon gyd-gysylltu a gweithio'n effeithiol gyda'i gydweithiwr newid hinsawdd cyfatebol o fewn LlC er mwyn cyflwyno ar y strategaeth newid hinsawdd.
Cyngor arbenigolGweithredu fel arweinydd yr asiantaeth ar holl faterion amgylcheddol a darparu cyngor arbenigol i uwch reolwyr a swyddogion yr Asiantaeth.
Cynghori swyddogion LlC yn ôl yr angen.Rheoli ac arwain
Rheoli, arwain a mentora tîm amlddisgyblaethol o staff (14) fel a ganlyn: Ecolegwyr (2), Cydlynwyr Amgylcheddol (2) Swyddogion Amgylcheddol (4) a Thyfwr Coed (6) a datblygu diwylliant gweithio fel tîm cryf.
Gosod a rheoli rhaglenni gwaith tîm a monitro cynnydd i sicrhau fod targedau'n cael eu cyrraedd.
Datblygu diwylliant gweithio fel tîm.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a wneir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Rheolaeth Amgylcheddol
Bod yn gyfrifol am oruchwylio perfformiad amgylcheddol yr Asiantaeth a datblygu, gweithredu a monitro strategaethau amgylcheddol sy'n hybu datblygiad cynaliadwy a sicrhau bod yr Asiantaeth yn gweithredu yn unol â chanllawiau a thargedau amgylcheddol. Bydd y rôl yn cynnwys edrych ar weithgareddau'r Asiantaeth i benderfynu ble y gellid gwneud gwelliannau a sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth amgylcheddol ar draws y sefydliad.
Arwain ar y gwaith o baratoi a gweithredu polisïau a gweithdrefnau'r Asiant i ddarparu swyddogaethau rheoli amgylcheddol, a chynrychioli'r Asiantaeth fel bo'r angen.
Cynorthwyo LlC yn y weledigaeth o ddeddfwriaeth, polisïau a safonau perthnasol.
Mae disgwyl i'r rôl hon gyd-gysylltu a gweithio'n effeithiol gyda Rheolwr Ystâd Meddal Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth rheoli ystâd meddal cynhwysfawr.
Cysylltu ag Unedau a Thimau ACGChC i sicrhau bod gofynion amgylcheddol yn cael ystyriaeth ddyladwy.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.Darparu WGMAA/WGTRMM
Sicrhau bod ACGChC yn cyflawni eu rhwymedigaethau dan y Cytundeb Rheoli Asiantaeth Llywodraeth Cymru a Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r Ystâd Meddal.
Cyfarwyddo a rheoli rheolaeth a chyllideb er mwyn sicrhau y darperir gwasanaeth effeithiol, effeithlon a chyson ar gyfer y rhwydwaith cefnffordd y ffordd ddeuol a sengl a'r ystâd meddal yn gwbl unol â gofynion Cytundeb Asiantaeth Rheoli Llywodraeth Cymru (WGMA) a Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM).
Rheoli staff y Tîm Amgylcheddol wrth iddynt gyflwyno archwiliad, arolwg, rhestr eiddo a swyddogaethau cynnal a chadw drwy ddarparwyr gwasanaeth yr Asiantaeth er mwyn sicrhau fod yr ystâd meddal yn cael ei chynnal a'i chadw yn unol â WGTRMM, y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd (DMRB) a Llawlyfr Dogfennau Contract ar gyfer Gwaith Priffyrdd (MCDHM).
Gweithredu a rheoli systemau a gweithdrefnau rheoli risg amgylcheddol
Cyllideb Refeniw a Chynlluniau Cyfalaf
Sicrhau y glynir at reoliadau a gweithdrefnau ariannol yr Asiantaeth a LlC.
Rheoli amryw o raglenni o gyfalaf a gwaith cyllideb refeniw amgylcheddol a sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu cyflawni at amcangyfrifon cost a thargedau amser
Datblygu rhaglenni gwaith treigl wedi’u blaenoriaethu ar gyfer y rhwydwaith rhanbarthol yn unol â gofynion LlC ac yn y cyd-destun hwn, cysylltu ag Uned Danfon ac Archwilio ACGChC.
Gwelliannau bioamrywiaeth
Datblygu a chyflwyno Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn unol â gofynion LlC sydd wedi eu gosod yn y Cynllun Adfer Natur.
Rheoli Perfformiad ac adrodd
Arwain ar reoli'r System Rheoli Amgylcheddol yr Asiant sydd wedi'i hachredu ISO14001
Darparu adroddiadau perfformiad amgylcheddol i LlC fel bo'r angen.
Datblygu cyfres o ddangosyddion perfformiad amgylcheddol priodol ar gyfer yr Asiantaeth
Iechyd a Diogelwch
Mae holl staff yr Asiantaeth yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu oddi mewn i bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig, e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati.
Yn ofynnol i weithio oriau sydd y tu allan i oriau gwaith arferol yn achlysurol
Gofyniad i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn.
Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Caerdydd).
Dim ond amlinelliad o’r dyletswyddau yw'r uchod i roi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.