Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion gyda anghenion dysgu ychwanegol i alluogi mynediad i ddysgu.
• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn
Prif Ddyletswyddau.
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol– yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.
• Sefydlu perthynas dda gyda’r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.
• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.
• Cydweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.
• Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i’r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion
• Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.
• Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r disgyblion i’w defnyddio.
• Cysylltu’n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
Cyffredinol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.