Pwrpas y swydd
• Gweithredu o fewn y broses Treth Cyngor dydd i ddydd er sicrhad cyfrifoldeb, eithriadau, disgowntiau a thaliadau cywir. Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Click here to enter text.
Prif ddyletswyddau
•Dyletswyddau prosesu dyddiol drwy DIP – addasiadau cyfrifoldeb; eithriadau; disgowntiau.
•Dyletswyddau trefnu taliadau.
•Prosesu gwybodaeth marwolaethau (rôl benodol i unigolion).
•Prosesu canlyniadau adolygiadau systemol (rôl benodol i unigolion).
•Prosesu cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol (rôl benodol i unigolion) ynghyd â gweithredu ar adroddiadau BACS (treth cyngor a threthi annomestig).
•Ymateb i ymholiadau’r cyhoedd.
•Cynorthwyo i ad ennill trethi lleol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Oherwydd yr angen am wybodaeth systemol neilltuol ar wahanol gyfnodau allweddol yn y flwyydyn ariannol disgwylir gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol.