Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cynnig Gwasanaethau Cefnogol hyblyg a dibynadwy i blant a phobl ifanc anabl a phlant a phobl ifanc sy’n wael a’u teuluoedd (defnyddwyr gwasanaeth). Mae’r gefnogaeth i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac i gynnig gofal ysbaid i’w teuluoedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Trin offer ac eiddo y defnyddiwr gwasanaeth gyda pharch a gofal yn ystod y sesiynau
Prif ddyletswyddau
•I gefnogi y defnyddiwr gwasanaeth i’w alluogi ef/hi i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ôl gofynion y cynllun gofal.
•Ymgymryd â gofal personol y defnyddiwr gwasanaeth yn ôl y gofyn.
•I gynnig gwasanaeth cefnogol hyblyg i’r teulu gan gynnwys brodyr a chwiorydd.
•Gweithio oriau hyblyg ar benwythnosau a gwyliau ysgol ond gyda phosibilrwydd o oriau ychwanegol os yw’r ymgeisydd yn dymuno.
•Cludo unigolyn o’r man preswyl i weithgaredd ac yn ôl.
•Parchu y plentyn a’i deulu gan ystyried eu hawliau a’u hannibyniaeth
•Trin offer ac eiddo y defnyddiwr gwasanaeth gyda pharch a gofal ar bob achlysur.
•Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithredu gwasanaeth.
•Bod yn rhan o’r broses o gynllunio ac adolygu rhaglenni’r defnyddwyr gwasanaeth lle bo angen.
•Mynychu cyrsiau hyfforddi a sesiynau goruchwyliaeth.
•Cymeryd rhan mewn gweithgareddau grw^p lle bo’n addas.
•Cwblhau amserlenni ac adroddiadau wythnosol yn brydlon.
•Ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas i’r swydd yn ôl y swyddog neu’r rheolwr gwasanaeth cefnogol.
•Ymgyfarwyddo â pholisïau, trefniadaeth a chanllawiau’r Cyngor ynglyn ag ymarfer da.
•Dilyn canllawiau iechyd a diogelwch bob amser.
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gydag Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Gyfadran i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir i deilydd y swydd gydymffurfio â hyn.
•Rhestr amlinellol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae’r swyddi hyn yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol ond ple bo diddordeb gan ymgeiswyr i weithio oriau ychwanegol yn ystod tymor ysgol gellir cysidro hyn.
•Twydded yrru llawn a defnydd o gar yn hanfodol.